Rydyn ni’n cynnal ymchwil sylfaenol i fagmâu, gan astudio sut maen nhw’n cychwyn yn y fantell, yn teithio drwy’r gramen, yn cael eu storio yn y gramen ac yn ffrwydro ar yr wyneb.
Rydyn ni’n astudio gwahanol fathau o amgylcheddau daearegol, boed cramen y Ddaear neu amgylcheddau lle mae crysialau’n tyfu.
Rydyn ni’n defnyddio ystod o draswyr petrolegol, geocemegol ac isotopig newydd i astudio creigiau cyfan hyd at grisialau bach, a hynny er mwyn deall sut mae magma’n ffurfio ac yn esblygu, a hefyd sut mae’n rhyngweithio’n gemegol â chronfeydd daearol gwahanol.
Mae ein gwaith yn amrywio o greu delweddau cydraniad uchel o samplau magmatig a’u mwynau yn y cyfleuster Microbelydr Electronau a mesur yr elfennau hybrin ac isotopau penodol sy’n bresennol yn naturiol mewn mwynau yn labordy CELTIC i ddatblygu dulliau newydd o ddehongli setiau data geocemegol mawr rydyn ni’n canolbwyntio ar brosesau mewnwthiol ac allwthiol sy’n edrych ar achosion posibl plwtoniaeth a ffrwydradau folcanig.
Rydyn ni hefyd yn astudio newidiadau mewn mathau o ffrwydro a sut mae’r rhain yn achosi peryglon folcanig.
Mae llawer o’n prosiectau ymchwil yn gysylltiedig â themâu Mwynau ac Ynni, Tectoneg a Geoffiseg, a Pheryglon a Risgiau Amgylcheddol.
Pobl
Staff academaidd
Emeritus Professor Bernard Leake
Cymrawd Ymchwil Anrhydeddus
Myfyrwyr ôl-raddedig
Nodau Datblygu Cynaliadwy
Mae ein gwaith yn uniongyrchol berthnasol i Nodau Datblygu Cynaliadwy canlynol y Cenhedloedd Unedig.
Ysgolion
Y camau nesaf
Ymchwil o bwys
Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni weithio mewn disgyblaethau gwahanol i fynd i’r afael â heriau mawr sy’n wynebu cymdeithas, yr economi a’n hamgylchedd.
Ymchwil ôl-raddedig
Mae ein rhaglenni ymchwil yn rhoi cyfle i ymchwilio i bwnc penodol yn fanwl ymhlith ymchwilwyr blaenllaw yn y maes.
Effaith ein hymchwil
Mae astudiaethau achos ein hymchwil yn amlygu rhai o’r meysydd lle rydyn ni’n cael effaith gadarnhaol o ran ein hymchwil.