Mae’r Uned Ymchwil Llenyddiaeth, Theori a Chreadigrwydd yn archwilio llenyddiaeth Gymraeg a’r broses greadigol o’r cyfnod cynharaf hyd y presennol. Mae’n gartref i gymuned o ysgolheigion sy’n ymestyn ffiniau ein dealltwriaeth o lenyddiaeth a chreadigrwydd Gymraeg ar sail eu hymchwil arloesol i amrywiaeth o feysydd. Mae eu gweithgarwch arbenigol ar destunau Cymraeg o bob cyfnod yn nodwedd sy’n gosod yr uned ar y blaen mewn astudiaethau Cymreig a Cheltaidd yn rhyngwladol, ac yn cynnwys meysydd megis:
- theori lenyddol
- beirniadaeth greadigol
- golygu, cyfieithu a rhyng-gyfryngoldeb
- hunaniaethau a rhywedd
- barddoniaeth a rhyddiaith ganoloesol
- llenyddiaeth yn yr oes ddigidol
- y stori fer ac ôl-foderniaeth
- llên bywyd
- llenyddiaeth plant a phobl ifanc
- llenyddiaeth gymharol
- ysgrifennu creadigol
- llenyddiaeth a’r cwricwlwm
Mae staff yr Uned yn rhannu eu harbenigeddau â chynulleidfaoedd allanol amrywiol, ac yn cynnig arweiniad i randdeiliaid arwyddocaol ym mywyd cyhoeddus a diwylliannol Cymru a thu hwnt mewn meysydd megis cyhoeddi, y cyfryngau creadigol a dysgu llenyddiaeth mewn ysgolion. Gwelir traweffaith eu hymchwil, er enghraifft, ar y ffordd y caiff chwedlau canoloesol Cymraeg eu dehongli a’u dychmygu mewn cyd-destunau cyfoes, ac ar strategaeth Cyngor Llyfrau Cymru ar gyfer cefnogi’r diwydiant cyhoeddi i blant a phobl ifanc.
Mae staff yr Uned yn llwyddo i sicrhau grantiau ymchwil o ystod o ffynonellau ac yn 2022 dyfarnodd yr AHRC dros £700,000 i Brosiect Myrddin. Bydd y prosiect tair blynedd hwn yn cynhyrchu golygiad digidol a chyfieithiad o’r farddoniaeth Gymraeg a briodolir i Myrddin, mewn cydweithrediad ag ymchwilwyr yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a Phrifysgol Abertawe.
Mae’r Uned yn denu myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig Cymraeg a rhyngwladol i weithio ar amrywiaeth o destunau sy’n cynnig deongliadau a dulliau newydd o ymdrin â llenyddiaeth, theori a chreadigrwydd yn y Gymraeg. Dyma rai o’r pynciau diweddar:
- Creadigrwydd a’r Cwricwlwm (Noddwr: Coleg Cymraeg Cenedlaethol)
- Ailddarganfod ac Ail-greu Cof Diwylliannol yng Nghymru’r Cyfnod Modern Cynnar: Dewi Alter (Noddwr: AHRC)
- Iaith, Delwedd ac Ystyr mewn Llenyddiaeth Ddarluniadol i Blant: Megan Jones (Noddwr: Coleg Cymraeg Cenedlaethol)
- Iaith y Ddrama / Drama’r Iaith (Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol): Ceri Elen Morris (Noddwr: AHRC)
- Cyfnewid Cod mewn Llenyddiaeth o Gymru a Chanada: Sara Orwig (Noddwr: Coleg Cymraeg Cenedlaethol)
- Y Brenin Arthur yn Nhraddodiadau Brythonig yr Oesoedd Canol (King Arthur in the Medieval Brittonic Tradition): Jessica Shales (Noddwr: AHRC)
- Aralledd ac Amlddiwylliannedd mewn Ffuglen Gymreig er 1990: Lisa Sheppard (Noddwr: Ysgoloriaethau’r Llywydd, Prifysgol Caerdydd)
- Naratif Breuddwydion yn Llenyddiaeth yr Oesoedd Canol (Welsh Medieval Dream Narratives): Xiezhen Zhao
Mae’r Uned yn cynnig dau lwybr ymchwil, MPhil/PhD yn y Gymraeg a MPhil/PhD Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol, a hoffem wahodd ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr PhD sy’n awyddus i ymuno â chymuned ymchwil fywiog a chyfeillgar Ysgol y Gymraeg.
Mae’r Uned hefyd yn gyfrifol am olygu’r prif gyfnodolyn academaidd ar lenyddiaeth Gymraeg, Llên Cymru sy’n cyhoeddi ymdriniaethau o’r ansawdd uchaf ar lenyddiaeth Gymraeg a beirniadaeth lenyddol. Croesewir yn arbennig ysgrifau ymchwil blaengar sy’n ymestyn ein dealltwriaeth o destunau Cymraeg o unrhyw gyfnod ac yn cynnig cyd-destunau deongliadol newydd. Am wybodaeth bellach neu i gynnig ysgrif, cysylltwch â llencymru@caerdydd.ac.uk.
Cwrdd â'r tîm
Staff academaidd
Dr Dylan Foster Evans
- Siarad Cymraeg
- fosterevansd@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 4951
Dr Siwan Rosser
- Siarad Cymraeg
- rossersm@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6287
Dr Llion Pryderi Roberts
- Siarad Cymraeg
- robertslp1@caerdydd.ac.uk
- +44(0)29 2087 5304
Dr Angharad Naylor
- Siarad Cymraeg
- nayloraw@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 9007
Dr Rhiannon Marks
- Siarad Cymraeg
- marksr@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 5594
Dr David Callander
- Siarad Cymraeg
- callanderd@caerdydd.ac.uk
Camau nesaf
Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth
Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.
Ymchwil ôl-raddedig
Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.
Ein heffaith ymchwil
Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.