Ewch i’r prif gynnwys

Cenhadaeth y Ganolfan Ymchwil i Fentrau Darbodus (LERC) yw ymchwilio i syniadaeth ddarbodus, gan gynnwys ei chymhwyso a’i chyfleu. Mae LERC wedi bod ar flaen y gad o ran datblygu syniadaeth ddarbodus drwy ei ymchwil, ac mae’n canolbwyntio nid yn unig ar y sector gweithgynhyrchu erbyn hyn, ond pob un sector, gan gynnwys y sector gwasanaethau. Mae gwaith diweddar wedi canolbwyntio ar syniadaeth ddarbodus gynaliadwy – hynny yw, sut allai syniadaeth ddarbodus gael ei gweithredu mewn ffordd sy’n sicrhau newid parhaol.

Byddai gwaith LERC o ddefnydd i unrhyw sefydliad sy'n chwilio am fethodoleg sy'n gwella ansawdd, cost a dull cyflawni eu gweithrediadau.

Addysg weithredol

Mae ein rhaglenni addysg weithredol yn amrywio o fod yn gyrsiau undydd hyd at fod yn gyrsiau meistr rhan-amser sy’n para dwy flynedd. Caiff ein cyrsiau byr eu cynnal ar sail agored neu at ddibenion bodloni gofynion unigol.

Arloesi ac ymgysylltu

Mae gweithgarwch arloesi ac ymgysylltu’n ymwneud â phrosiectau lle rydym yn gweithio gyda sefydliadau i drosglwyddo gwybodaeth ddarbodus er mwyn iddynt ei defnyddio'n uniongyrchol yn rhan o’u gweithrediadau neu eu strategaeth nhw. Gall hyn fod yn gysylltiedig ag ymchwil neu addysg.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y System Cymhwysedd Darbodus (LCS), system gymwysterau ddarbodus ac unigryw yn y gweithle a ddatblygwyd gan ymchwilwyr LERC, ar wefan LCS.

Ymchwil

Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar ystyr syniadaeth ddarbodus a sut i gymhwyso syniadaeth ddarbodus mewn amrywiaeth o gyd-destunau ac amgylcheddau.

Mae prosiectau'n tueddu i fod o natur gydweithredol ac yn aml yn cynnwys nifer o sefydliadau sy'n dod at ei gilydd fel rhwydwaith â materion cyffredin sy’n cael sylw gan y rhaglen ymchwil benodol.

Camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.