Ewch i’r prif gynnwys

Sefydlwyd yr Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio ar ddechrau 2005 i ffurfioli’r diddordeb ymchwil a oedd wedi hen ymsefydlu yn Ysgol y Gymraeg ym meysydd polisi iaith a chynllunio ieithyddol, sosioieithyddiaeth a chymdeithaseg iaith.

Ein pwyslais ni yw deall goblygiadau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol iaith dros amser ac mewn gwahanol leoliadau.

Mae’r Uned yn anelu at fod ar flaen y gad mewn datblygiadau cenedlaethol a rhyngwladol yn y meysydd hyn.

Mae graddfa ddaearyddol gwaith yr Uned yn amrywio o raddfa leol i raddfa fyd-eang, tra defnyddir y sbectrwm cyfan o dechnegau ymchwil meintiol ac ansoddol.

Ymysg prosiectau ymchwil yr Uned mae prosiect mawr dan nawdd y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ynghylch Swyddfa’r Comisiynydd Iaith yng Nghymru, Iwerddon a Chanada (2012-15) a phrosiect mawr a noddwyd gan Lywodraeth Cymru ar Drosglwyddiad Iaith a Defnydd o’r Gymraeg mewn Teuluoedd (2017).

Mae gwaith ymchwil yr Uned wedi cael effaith sylweddol ar fywyd cyhoeddus. Gallwch ddarllen am effaith ein hymchwil yn y cyd-destun hwn drwy’r astudiaeth achos o effaith Ail-lunio Cyfraith Iaith yng Nghymru a’r astudiaeth achos ar Gomisynwyr Iaith.

Amcanion

Uned ryngddisgyblaethol yw’r Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio, sy’n:

  • ymgymryd â gwaith ymchwil ar faterion polisi iaith a chynllunio ieithyddol, sosioieithyddiaeth, a chymdeithaseg iaith
  • goruchwylio ac yn addysgu ar lefel MA, MPhil a PhD
  • meithrin rhwydweithiau ar draws y brifysgol a gwaith allgymorth yn y gymuned polisi rhyngwladol

Mae ein gwaith ymchwil wedi’i drefnu o amgylch chwe thema:

  • y Gymraeg
  • gwleidyddiaeth, mudiadau cymdeithasol a gwrthdaro ieithyddol
  • hawliau a statws o ran iaith
  • polisi iaith, llywodraethu a’r Wladwriaeth
  • amrywiaeth ieithyddol ac amlddiwylliannedd
  • newid ymddygiad

Ymchwil

Ymchwil ôl-raddedig

Detholiad o fyfyrwyr ymchwil cyfredol sydd dan oruchwyliaeth staff yr Uned

  • Khadejah Alamri
  • Mihangel Ap Rhisiart
  • Mohammed Bashiri
  • Shawqi Bukhari
  • Nia Eyre
  • Hannah Griffiths
  • John Prendergast

Detholiad o raddau PhD a ddyfarnwyd yn ddiweddar

  • Assala Mihoubi, 2023
  • Kaisa Pankakoski, 2023
  • Jack Pulman-Slater, 2023
  • Patrick Carlin, 2019
  • Laura Davies, 2019
  • Ben Screen, 2018
  • Christina Wagoner, 2018
  • Gwenno Griffith, 2017
  • Gwennan Higham, 2016
  • Geraint Whittaker, 2016
  • Steve Eaves, 2015
  • Lucy Morrow, 2015
  • Jennifer Needs, 2015

Cwrdd â'r tîm

Cyd-Gyfarwyddwr

Staff academaidd

Yr Athro Colin H Williams

Yr Athro Colin H Williams

Siarad Cymraeg
williamsch@caerdydd.ac.uk
+44 (0)29 2087 0413
Dr Iwan Wyn Rees

Dr Iwan Wyn Rees

Siarad Cymraeg
reesiw2@caerdydd.ac.uk
+44 (0)29 2087 4843
Dr Jonathan Morris

Dr Jonathan Morris

Siarad Cymraeg
morrisj17@caerdydd.ac.uk
+44(0) 29 2087 7266

Ymchwilwyr Cysylltiol

Dr Patrick Carlin

Prif ddiddordeb ymchwil Patrick Carlin yw gwleidyddiaeth gwahaniaeth a'i pherthynas â'r wladwriaeth, llenyddiaeth ieithoedd lleiafrifedig, trais gwleidyddol, ieithyddiaeth gymdeithasol a chyfiawnder. Mae monograff o'i eiddo, 'Political Community in Minority Language Writing: Claiming Difference, Seeking Commonality' yn y wasg ar hyn o bryd gyda Palgrave Macmillan yng nghyfres Palgrave Studies in Minority Languages and Communities.

Dr Stuart Dunmore

Mae Stuart Dunmore yn diwtor cyswllt mewn addysg iaith ym Mhrifysgol Caeredin, ac yn ymchwilydd cysylltiol yn yr Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar sosioieithyddiaeth ieithoedd lleiafrifol, ideolegau a hunaniaethau diwylliannol, gan weithio’n benodol ar gymunedau ieithyddol Celtaidd yn y DU a Gogledd America. Asesodd ymchwil ôl-ddoethurol Stuart rôl siaradwyr ‘newydd’ mewn mentrau dysgu iaith ac ymyriadau polisi yn yr Alban a Nova Scotia, a chyhoeddwyd ei lyfr cyntaf Language Revitalization in Gaelic Scotland yn 2019. Mae ymchwil cyfredol Stuart yn archwilio'r rhwystrau i ddatblygiad llafaredd ac amlddiwylliannedd dwyieithog mewn addysg cyfrwng Gaeleg, a chymhellion dros gaffael iaith ymhlith siaradwyr newydd yng Nghanada a'r Unol Daleithiau. Yn 2022, roedd ganddo ysgoloriaeth Fulbright ym Mhrifysgol Harvard.

Dr Gwennan Higham

Mae Gwennan Higham yn Uwch-Ddarlithydd y Gymraeg, Prifysgol Abertawe. Mae hi’n arbenigo mewn Sosioieithyddiaeth y Gymraeg, gyda ffocws ar fewnfudo rhyngwladol ac integreiddio ieithyddol. Mae ei hymchwil yn rhyngwladol ei gwmpas, gan gynnwys gwaith cymharol â’r Fasgeg, y Swedeg (yn y Ffindir), y Ffrangeg (yn Quebec), y Galiseg a’r Ffriseg. Mae ganddi gyfrol o’r enw ‘Creu Dinasyddiaeth i Gymru: Mewnfudo Rhyngwladol a’r Gymraeg (Gwasg Prifysgol Cymru: 2020) ac mae hi wedi cyhoeddi mewn cyfnodolion academaidd adnabyddus gan gynnwys Language Policy a Journal of Multilingual and Multicultural Development. Mae hi’n arwain ar brosiect ymchwil effaith o’r enw ‘Llwybrau at y Gymraeg ar gyfer Mewnfudwyr Rhyngwladol a’r Gymraeg’ (2022-25) ac mae hi wedi cyfrannu at brosiectau Ewropeaidd a rhyngwladol megis Erasmus+: ‘Communication competences for migrants and disadvantaged background learners in bilingual work environments’ (2016-2019) a COST Action IS1306 ‘New Speakers in a Multilingual Europe’ (2013-2017).

Dr Kaisa Pankakoski

Awdur, cyfieithydd ac ymchwilydd yw Dr Kaisa Pankakoski. Mae gwaith Kaisa yn canolbwyntio ar deuluoedd amlieithog mewn cyd-destunau sy’n amrywio’n fawr, gan gynnwys siaradwyr ieithoedd lleiafrifol a siaradwyr ieithoedd treftadaeth dramor yng nghyd-destun diasbora. Ar hyn o bryd mae hi’n ysgrifennu monograff sy’n seiliedig ar ei hymchwil ar ideolegau, strategaethau a phrofiadau iaith rhieni a phlant. Cyn hyn, mae hi wedi cyhoeddi mewn sawl cyd-destun anacademaidd a chyfnodolion adolygu drwy gymheiriaid, gan gynnwys Datblygiad Cynnar Plant a Gofal.