Ewch i’r prif gynnwys

O beryglon llifogydd i botensial ynni adnewyddadwy, mae rheoli dŵr yn amgylcheddol yn cyflwyno cyfleoedd a heriau unigryw i beirianwyr. Sefydlwyd y Ganolfan Ymchwil Hydro-Amgylcheddol (HRC) ym 1997, a'i nod oedd cynnal ymchwil ar ddatblygu a defnyddio modelau cyfrifiadurol ar gyfer ymchwilio i lif, ansawdd dŵr, gwaddodion a phrosesau cludo halogyddion mewn dyfroedd arfordirol, aberoedd a basnau afonydd.

Rydym hefyd ar flaen y gad ym maes ymchwil ynni llif llanw. Rydym yn dylunio tyrbinau i fanteisio ar botensial ffrydiau llanw fel Aber Afon Hafren i ddarparu ynni adnewyddadwy glân a dibynadwy.

Gwyliwch ein Hymchwil am Dyrbinau Llif Llanw

Nodau

Ein prif nod yw cynnal ymchwil ar ddatblygu, mireinio a defnyddio modelau cyfrifiadurol hydro-amgylcheddol ar gyfer darogan llif, ansawdd dŵr, gwaddodion a phrosesau cludo halogyddion mewn dyfroedd arfordirol, aberoedd a basnau afonydd. Dyma grynodeb o brif amcanion y Ganolfan:

  • Datblygu modelau cyfrifiadurol i ragfynegi llif, toddion (gan gynnwys llygryddion) a phrosesau cludo gwaddod mewn dyfroedd arfordirol, aberoedd ac afonydd.
  • Ymgymryd ag astudiaethau labordy enghreifftiol a rhaglenni monitro yn y maes i wella cywirdeb modelau cyfrifiadurol.
  • Cymhwyso, graddnodi a gwirio modelau cyfrifiadurol yn erbyn data maes a datblygu rhyngwynebau a dyfeisiau allbwn ar gyfer dehongliad ehangach o ganlyniadau'r model.

Ymchwil

Mae gennym enw da rhyngwladol am ein hymchwil ar ddatblygu a mireinio'r modelau rhifiadol ar gyfer ymchwil hydro-amgylcheddol.

Mae ein themâu ymchwil yn cynnwys:

  • prosesau hydrodynamig a morffodynamig mewn dyfroedd afonol, aberoedd ac arfordirol
  • perfformiad ac effeithiau tyrbinau morol
  • ansawdd dŵr
  • rheoli perygl llifogydd
  • hydroleg amgylcheddol gan gynnwys llif llystyfiant
  • ynni dŵr nad yw’n niweidiol i bysgod
  • rhyngweithio rhwng dŵr arwyneb a dŵr daear.

Mae astudiaethau arbrofol sy'n defnyddio cyfleusterau’r labordai hydroleg yn HRC a labordai cenedlaethol yn cael eu cynnal hefyd i gael rhagor o ddealltwriaeth o'r prosesau cymhleth yn ogystal â datblygu modelau. Rydym hefyd wedi sefydlu partneriaethau cenedlaethol a rhyngwladol cryf gyda chwmnïau ymgynghori blaenllaw a sefydliadau academaidd.

Gweithgareddau ymchwil cyfredol

  • Modelu llifogydd gan edrych yn benodol ar lifogydd cyflym a chysylltu 1D-2D deinamig yn ystod achosion o lifogydd.
  • Modelu risg a pheryglon llifogydd a rhoi camau Rheoli Llifogydd Naturiol ar waith.
  • Modelu nodweddion hydrolig a ffisegol cynefinoedd pysgod afonol gan gynnwys ynni dŵr nad yw’n niweidiol i bysgod.
  • Modelu hydrodynameg llystyfiant.
  • Modelu tywydd rhifiadol ac effeithiau newid yn yr hinsawdd.
  • Modelu ffisegol a rhifiadol o brosesau arfordirol ac aberol gyda banciau tywod alltraeth a strwythurau amddiffyn arfordirol ar y glannau.
  • Modelu tonnau, llanw ac ymchwydd o dan amodau eithafol a newid hinsawdd ar raddfa ranbarthol.
  • Efelychiad large-eddy o lifoedd wyneb rhydd cythryblus dros welyau garw.
  • Hydrodynameg arfordirol a rhyngweithio strwythur tonnau.
  • Modelu rhifiadol o lifau aml-wedd

Prosiectau

Mae'r pynciau ymchwil sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd yn y Ganolfan yn cael eu hariannu gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC), cyrff anllywodraethol, adrannau’r Llywodraeth a diwydiant.

Prosiectau ymchwil sydd ar waith

Prosiectau PhD

  • Modelu hydrodynameg 3D a morffodynameg banciau tywod alltraeth
  • Modelu effaith maeth traethau ar forffoleg arfordirol
  • Modelu rhyngweithio rhwng gwynt a thonnau o dan amodau eithafol
  • Modelu ansefydlogrwydd daearyddol o dan amodau tonnau a llanw
  • Modelu tonnau eithafol ac ymchwydd sy'n cael eu heffeithio gan deiffwnau
  • Modelu rhifiadol o lifoedd rhyngwynebol byrlymus a rhyngweithio strwythur-hylif
  • Llifoedd a systemau ynni dŵr nad ydynt yn niweidiol i bysgod
  • Modelu llifoedd toddion a gwaddod drwy dyrbinau mewn strwythurau morglawdd a morlynnoedd, ac araeau llifoedd llanw
  • Modelu llifoedd llifogydd drwy strwythurau hydrolig a mesurau rheoli llifogydd naturiol
  • Modelu hydro-amgylcheddol integredig o lifoedd bacteriol deinamig o ddalgylch i arfordir

Cwrdd â’r tîm

Arweinydd grŵp

Picture of Shunqi Pan

Yr Athro Shunqi Pan

Athro Peirianneg Arfordirol

Telephone
+44 29208 75694
Email
PanS2@caerdydd.ac.uk

Staff academaidd

No picture for Aristos Christou

Mr Aristos Christou

Cydymaith Ymchwil

Email
ChristouA2@caerdydd.ac.uk
Picture of Arthur Lam

Dr Arthur Lam

Darlithydd - Addysgu ac Ymchwil

Email
LamM7@caerdydd.ac.uk
Picture of Catherine Wilson

Yr Athro Catherine Wilson

Senior Lecturer - Teaching and Research

Telephone
+44 29208 74282
Email
WilsonCA@caerdydd.ac.uk

Cyfleusterau

Mae gennym labordy hydroleg mawr sydd â digonedd o gyfarpar, gan gynnwys:

  • Basnau llanw
  • Cafnau llanw (1.2m o led x 1.0m o ddyfnder x 17m o hyd), llif i'r ddau gyfeiriad gyda chynhwysedd o hyd at 1000 l/s
  • Cafnau sy'n ailgylchredeg x 2 (1.2m o led a 0.3m o led yn y drefn honno)
  • Tanc llif uchel
  • Mesuryddion Cyflymder Doppler Acwstig (amlder samplu hyd at 200Hz)
  • Fflworomedrau digidol x2
  • Proffiliwr gwelyau
  • System monitro lefel dŵr aml-chwiliedydd awtomataidd

Gall y cafnau a'r basnau fod yn addas ar gyfer ystod eang o arbrofion model hydrolig. Ar ben hynny, mae ein staff yn cydweithio'n agos â grwpiau ymchwil eraill, adrannau llywodraeth a diwydiant ledled Cymru ac yn rhyngwladol, i gaffael data maes.

Camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.