Mae technolegau sy'n dechrau dod i’r amlwg – systemau cyfrifiannu cyfoes yn enwedig – yn hollbresennol erbyn hyn ac mae’r rhain bellach yn rhan annatod o’n bywyd beunyddiol. Mae uned ymchwil Cyfrifiadura sy’n Seiliedig ar Bobl (CHCC) Prifysgol Caerdydd yn ymchwilio i effeithiau technegol-gymdeithasol systemau cyfrifiadura newydd ar unigolion, cymunedau a chymdeithasau ac yn dod o hyd i ffyrdd y gellir dylunio datblygiadau arloesol o'r fath ar sail foesegol er mwyn cefnogi pobl a'r blaned yn well.
Yn ogystal, yn CHCC rydym yn ymchwilio i broblemau datblygu caledwedd a meddalwedd. Rydym yn cyfuno caledwedd a meddalwedd wrth ddylunio rhyngweithiadau newydd ar gyfer defnyddwyr, sydd â'r nod o wella profiad cadarnhaol (fel eu gwneud yn hawdd eu defnyddio, hawdd dysgu sut eu defnyddio, defnyddio elfennau fforddiadwyedd, a yrrir gan nodau), perfformiad a hygyrchedd.
Yn CHCC, rydym yn defnyddio'r broses o ddylunio rhyngweithiadau. Mae hyn yn golygu:
- deall y cyd-destun defnyddio
- casglu gofynion defnyddwyr
- dylunio syniadau amgen
- prototeipio a gwerthuso technolegau newydd trwy ddylunio arbrofion
- casglu a dadansoddi data a gwella'r dyluniad yn ailadroddol
- datblygu a gwerthuso systemau trwy brosesau dylunio mwy cyfranogol neu gynhwysol ac astudiaethau defnyddwyr.
Mae gan ein haelodau brofiad helaeth o ddefnyddio amrywiaeth o synwyryddion wrth astudio ymddygiad dynol, o synwyryddion planedig ar ddyfeisiau cludadwy hyd at feddalwedd tracio llygaid, ac o ddyfeisiau cludadwy EEG i ddyfeisiau recordio symudiad. Mae'r technolegau hyn yn cael eu gwerthuso yn y gwyllt, yn y labordy ac mewn amgylcheddau wedi’u hefelychu gan gyfuno cymysgedd o ddulliau labordy a maes.
Nodau
Ein nod yw ehangu ein cydweithrediadau ymchwil amlddisgyblaethol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol a thyfu’n adran ymchwil ryngwladol sefydledig yn y pum i ddeng mlynedd nesaf. Gobeithiwn fod y grŵp ymchwil cyfrifiadura sy’n seiliedig ar bobl cyntaf yng Nghymru erbyn 2025.
Ymchwil
Rydym yn cynnig arbenigedd mewn:
- dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, dylunio cyfranogol, dylunio sy'n sensitif i werthoedd, dylunio cynhwysol, dylunio rhyngwynebau defnyddwyr, dylunio moesegol
- dulliau ymchwil mewn rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron
- cyfrifiadura hollbresennol a threiddiol, Systemau Cydweithredol a Chyfrifiadura Cymdeithasol
- cyfathrebu dynol â systemau cyfrifiadura (gan ddefnyddio signalau prosesu gweledol, golwg cyfrifiadurol a dysgu peiriannol)
- canfyddiad dynol a chanfod twyll
- rhyngweithio aml-foddol ac amlgyfrwng, Rhyngweithio â setiau data mawr (daearyddol) (trwy ddelweddu)
- dylunio rhyngweithio ar gyfer technolegau preifatrwydd
- rhyngweithiadau chwareus, symudol, wedi’u hymgorffori, diriaethol, robotaidd a threfol
- dealltwriaeth empirig, cysyniadol a damcaniaethol o'r cyd-destun defnyddio (megis arferion, cydweithio, cyfathrebu) a defnyddio technoleg
- ethnograffeg dylunio a gwerthusiadau tymor byr a thymor hir o dechnolegau yn y fan a’r lle
- Technolegau Gwybodaeth a Chyfathrebu ar gyfer Datblygiad Dylunio ar gyfer diogelwch mewn systemau technegol-gymdeithasol cymhleth
- Rhyngweithio Cynaliadwy rhwng Pobl a Chyfrifiaduron
- modelu defnyddiwr
Prosiectau
Enw’r prosiect: Canolfan Ymchwil ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial, Roboteg a Systemau Peiriannau-Pobl
Ariennir gan: WEFO-ERDF
Ymchwilwyr: Yr Athro Stuart Allen (Cyd-brif Ymchwilydd) a Dr Parisa Eslambolchilar (Cyd-ymchwilydd)
Enw’r prosiect: Cymrodoriaethau Rhyngwladol Leverhulme
Prif Ymchwilydd: Dr Parisa Eslambolchilar
Enw’r prosiect: Utilising Augmented Reality to Improve Mobility in People with Low Vision
Ariennir gan: Guide Dogs
Prif Ymchwilydd: Dr Parisa Eslambolchilar
Enw’r prosiect: Defnyddio data arwyddion hanfodol a gipiwyd yn ddigidol o ddyfeisiau symudol i astudio ymddygiad clinigol a llywio arfer clinigol i gynnal diogelwch cleifion
Ariennir gan: Llywodraeth Cymru
Ymchwilwyr: Dr Liam Turner (Prif Ymchwilydd)
Enw’r prosiect: Effaith technoleg symudol mewn ysbytai ar reoli gofal cleifion ac arfer clinigol
Ariennir gan: Llywodraeth Cymru
Ymchwilwyr: Yr Athro Alison Bullock (Prif Ymchwilydd) a Dr Liam Turner (Cyd-ymchwilydd)
Enw’r prosiect: International Technology Alliance in Distributed Analytics and Information Sciences.
Ariennir gan: Y Weinyddiaeth Amddiffyn
Ymchwilwyr: Yr Athro Alun Preece (Prif Ymchwilydd), Dr Liam Turner (Cyd-ymchwilydd), Yr Athro Roger Whitaker (Cyd-ymchwilydd)
Enw’r prosiect: Ymwybyddiaeth o Symudedd personol a’i Fonitro i Wella Ansawdd Byw Gartref i’r Henoed
Ariennir gan: Gronfa Gymdeithasol Ewrop Llywodraeth Cymru
Ymchwilwyr: Dr Alia Abdelmoty
Enw’r prosiect: STAMINA: Strategies to Mitigate Nutritional Risks among mothers and infants under 2 years in low income urban households in Peru during COVID-19.
Ariennir gan: UKRI GCRF/Newton Fund Agile Response
Ymchwilwyr: Dr Emily Rousham (Prif Ymchwilydd), Dr Nervo Verdezoto (Cyd-ymchwilydd
Enw’r prosiect: Understanding agricultural azole use, impacts on local water bodies and AMR: building an interdisciplinary evidence base in Devon and Bristol.
Ariennir gan: Cronfa Arloesedd Sefydliad Cabot (Prifysgol Bryste)
Ymchwilwyr: Dr Susan Conlon (Prif Ymchwilydd), Dr Nervo Verdezoto (Cyd-ymchwilydd))
Enw’r prosiect: Exploring antibiotic use practices in livestock production through a novel, game-based approach
Ariennir gan: Cynghrair y GW4
Ymchwilwyr Dr Matt Llloyd Jones (Prif Ymchwilydd), Dr Nervo Verdezoto (Cyd-ymchwilydd)
Enw’r prosiect: Co-designing Community-based ICTs Interventions to Enhance Maternal and Child Health in South Africa
Ariennir gan: UKRI GCRF/EPSRC
Ymchwilwyr: Dr Nervo Verdezoto
Enw’r prosiect: New strategies to reduce anaemia and risk of overweight and obesity through complementary feeding of infants and young children in Peru.
Ariennir gan: UKRI Newton Fund/MRC
Ymchwilwyr: Dr Emily Rousham (Prif Ymchwilydd), Dr Nervo Verdezoto (Cyd-ymchwilydd
Cwrdd â’r tîm
Prif ymchwilydd
Staff academaidd
Yr Athro Alun Preece
Athro Cyd-Gyfarwyddwr Systemau Deallus y Sefydliad Arloesi Diogelwch, Trosedd a Chudd-wybodaeth
Myfyrwyr ôl-raddedig
Staff cysylltiedig
Digwyddiadau
Mae ein huned yn cwrdd yn rheolaidd ar ddydd Iau am 10:00.
Seminarau
Yn ystod tymhorau addysgu rydym hefyd yn cynnal sgyrsiau a seminarau rheolaidd yn yr Adran Seiberddiogelwch, Preifatrwydd a Chyfrifiadura sy’n Seiliedig ar Bobl ar ddydd Mercher am 11:00.
I gymryd rhan yn unrhyw un o'r digwyddiadau hyn, cysylltwch â ni: eslambolchilarp@caerdydd.ac.uk.
PhD a chyfleoedd goruchwylio prosiectau
Mae pob aelod o staff academaidd sy'n ymwneud â'r uned yn agored i oruchwylio prosiectau PhD, MRes, MPhil, MSc neu BSc. Cysylltwch ag aelodau staff academaidd yn uniongyrchol i drafod syniadau prosiect
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud PhD gyda ni a'ch bod yn hunanariannu, mae gennym y syniadau PhD canlynol y gallwch chi gymryd rhan ynddynt.
- Adeiladu Rhyngweithio rhwng Pobl mewn hinsawdd sy'n newid: darparu gwydnwch mewn perfformiad, lles, iechyd a diogelwch.
- Calibradu targedau sain a lleoleiddio mewn realiti estynedig
- Llywio a braenaru wrth aml-dasgio ar ffonau clyfar
- Arteffactau sy’n newid siâp ar gyfer newid ymddygiad wrth fynd i’r afael â heriau cymdeithasol
Ysgolion
Y camau nesaf
Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth
Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.
Ymchwil ôl-raddedig
Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.
Ein heffaith ymchwil
Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.