Rydyn ni’n astudio sut mae prosesau daearegol, cemegol a biolegol yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol yn siapio’r ffordd y mae bywyd yn esblygu ar y Ddaear.
Rydyn ni’n canolbwyntio ar sut mae esblygiad daearegol y Ddaear wedi siapio sut mae bywyd wedi dod i’r amlwg ac wedi amrywio, yn ogystal â sut mae newidiadau amgylcheddol modern yn effeithio ar fioamrywiaeth forol a daearol. Rydyn ni’n ymchwilio i amgylcheddau amrywiol y gellir byw ynddyn nhw ar y Ddaear yn y gorffennol a’r presennol, gan ddisgrifio a meintioli’r bywyd roedden nhw’n arfer ei gynnwys a’r bywyd y maen nhw’n parhau i’w gynnwys heddiw.
Gan estyn yn ôl trwy hanes biliynau o flynyddoedd y Ddaear, rydyn ni’n ceisio datgelu’r rhyngweithiadau biogeocemegol rhyfeddol a ysgogodd organebau syml i esblygu i fod yn fywyd anifeiliaid a phlanhigion cymhleth, yn ogystal â’u haddasiadau presennol i’n byd sy’n newid yn gyflym.
Mae ein hymchwil yn trin a thrafod ystod eang o gwestiynau mawr gyda'r nod o sefydlu'r amodau ar gyfer bywoliaeth a bioamrywiaeth barhaus y Ddaear dros amserlenni daearegol a'i chynaliadwyedd yn y dyfodol.
Mae’r rhain yn cynnwys, ymhlith eraill:
- effaith amgylcheddol bodau dynol dros yr Anthroposen
- cynaliadwyedd ecosystemau yn y dyfodol a gwytnwch bioamrywiaeth
- esblygiad systemau planhigion daearol; achosion a chanlyniadau hinsoddau eithafol y Ddaear fel pelen eira
- sut mae cyfandiroedd yn dod i’r amlwg, hindreulio, folcaniaeth a chyfansoddiad atmosffer yn dylanwadu ar gemeg a bioamrywiaeth forol a daearol.
Staff academaidd
Myfyrwyr ôl-raddedig
Nodau Datblygu Cynaliadwy
Mae ein gwaith yn uniongyrchol berthnasol i Nod Datblygu Cynaliadwy rhif 15 y Cenhedloedd Unedig.
Ysgolion
Camau nesaf
Ymchwil ôl-raddedig
Mae ein graddau ymchwil yn rhoi cyfle i ymchwilio i bwnc penodol yn fanwl ymhlith ymchwilwyr blaenllaw yn y maes.
Effaith ein hymchwil
Mae ein hastudiaethau achos ymchwil yn amlygu rhai o'r meysydd lle'r ydym yn cyflawni effaith ymchwil gadarnhaol.