Rydym yn dod ag arbenigwyr mewn geowyddoniaeth Affricanaidd ym maes Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd at ei gilydd gyda phartneriaid a chydweithwyr lleol i ateb heriau geowyddonol Affrica.
Mae Affrica yn gyfandir arbennig iawn. Mae'n cynnwys rhai o’r creigiau hynaf, y dyddodion mwynau a hydrocarbon mwyaf, a’r hinsoddau a’r amgylcheddau mwyaf eithafol ar y Ddaear. Affrica yw crud dynoliaeth ond mae’r cyfandir wedi cael ei anrheithio’n arbennig gan wladychu ers yr17eg ganrif. Fel sefydliad yn y DU, rydym yn ei ystyried yn fraint, ond hefyd yn gyfrifoldeb arbennig, i gyfrannu atebion o bob disgyblaeth at ddatblygiad parhaus gwyddorau’r ddaear a’r amgylchedd yn Affrica. Mae’r meysydd rydym yn canolbwyntio’n benodol arnynt yn cynnwys chwilio am fwynau a hydrocarbon mewn modd cynaliadwy, hydroleg, paleohinsawdd, peryglon naturiol ac addysg a hyfforddiant geowyddoniaeth.
Nodau
Ein nod yw deall daeareg, adnoddau daearegol, hinsawdd, hydroleg a thirweddau rhanbarthau hollbwysig yn Affrica, i ddadansoddi sut orau i fanteisio ar adnoddau naturiol ar gyfer datblygu cynaliadwy, a sut i gryfhau gwytnwch pobl a chymdeithas ar bob lefel.
Ymchwil
Polisi ac addysg geowyddoniaeth
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid gan gynnwys UNESCO, NEPAD, yr Undeb Affricanaidd, Banc y Byd a chwmnïau mwyngloddio mawr i ddatblygu a darparu cyrsiau ar-lein mewn mapio cynaliadwyedd a dichonoldeb, i baratoi graddedigion ar gyfer rolau yn y sector mwynau, a datblygu gemau a mwynau diwydiannol, gan ganolbwyntio ar Malawi, Zimbabwe a De Affrica. Rydym yn dadansoddi strategaethau sy'n canolbwyntio ar yr hinsawdd a chynaliadwyedd ar draws y cyfandir i ddeall y cyfleoedd a'r heriau o ran sgiliau geowyddoniaeth y maent yn eu creu. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda llawer o brifysgolion yn Affrica, gan gynnwys Prifysgol Midlands State, Zimbabwe a Phrifysgol Zimbabwe; Coleg Chancellor, Prifysgol Malawi; Prifysgol Stellenbosch, De Affrica a Phrifysgol Rhodes, De Affrica.
Daeareg Economaidd
Rydym yn defnyddio ein cyfleusterau dadansoddi modern i helpu i ganfod tarddle rhai o’r dyddodion mwynau a hydrocarbonau mwyaf yn y byd, ac i ddatblygu dulliau gwell ar gyfer chwilio amdanynt mewn modd cynaliadwy ac sydd ddim yn ymwthiol. Mae’r mathau o ddyddodion rydym yn canolbwyntio arnynt yn cynnwys dyddodion PGE-Ni-Cu magmatig ac aur, sy’n cael eu hastudio mewn mwy na dwsin o wledydd yn ne, canolbarth a gorllewin Affrica.
Hydroleg
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid ledled Dwyrain Affrica (gan gynnwys Horn Affrica) a Chanolbarth Affrica i ddeall a rhagweld argaeledd dŵr mewn rhanbarthau tir sych i gefnogi gallu cymunedau i addasu a bod yn wydn wrth wynebu newid hinsawdd. Mae ein gwaith yn cynnwys pob agwedd ar y gylchred dŵr daearol a’i pherthynas â chymdeithas ac ecoleg. Mae dod i ddeall yn well y berthynas hinsawdd-hydrolegol sy’n bodoli heddiw hefyd yn ein galluogi i ystyried sut mae argaeledd dŵr amrywiol wedi dylanwadu ar esblygiad a gwasgariad bodau dynol yn y rhanbarth.
Paleohinsawdd
Rydym yn cymhwyso amrywiaeth o ddata procsi paleohinsoddol, sy'n rhoi gwybodaeth i ni am newidynnau hinsoddol ac amgylcheddol yn y gorffennol megis tymheredd y Ddaear, llystyfiant, dyodiad a thymoroldeb glawiad, tymheredd arwyneb y môr, patrymau gwynt, dŵr ffo afonydd a'r dirwedd ddaearol a morol. Mae'r cyfuniad yma o ail-luniadau morol a daearol yn cael eu defnyddio i ddeall yr effaith a gafodd yr hinsawdd ar lunio esblygiad addasiadau newydd, tarddiad a difodiant rhywogaethau dynol cynnar, ac ymddangosiad a bywoliaeth ein rhywogaeth ni, Homo sapien.
Peryglon Naturiol
Ynghyd â phartneriaid ym Malawi rydym yn astudio systemau ffawtlin yn Hollt De-ddwyrain Affrica. Mae gan y ffawtlinau hyn y potensial i gynnal daeargrynfeydd mawr a niweidiol, ac rydym yn mapio lleoliad, cyfeiriadedd, a maint y ffawtlinau byw er mwyn lleihau unrhyw berygl seismig. Rydym yn cyfuno ffynonellau tystiolaeth amrywiol i nodi beth yw’r gydberthynas rhwng mwy nag un perygl mewn cyd-destunau trefol (e.e., yn Nairobi) ac yn ystyried pa mor barod ydy cymdeithas ar gyfer trychinebau yn wyneb peryglon lluosog.
Daeareg feddygol
Edrych ar effeithiau mwynau clai bioadweithiol ar iechyd dynol, fel perygl iechyd pan gaiff ei lyncu neu fel sylwedd gwrthfacterol naturiol posibl pan gaiff ei ddefnyddio i drin clwyfau ar y croen.
Cwrdd â’r tîm
Staff academaidd
Yr Athro Wolfgang Maier
- maierw@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 5382
Yr Athro Thomas Blenkinsop
- blenkinsopt@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 0232
Yr Athro Ian Hall
- hall@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 5612 / +44 (0)29 2087 6689
Dr Iain McDonald
- mcdonaldi1@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 4295
Yr Athro Ake Fagereng
- fagerenga@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 0760
Dr Mark Cuthbert
- cuthbertm2@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 4051
Myfyrwyr ôl-raddedig
Cyhoeddiadau
Aubineau, J. et al. 2020. Trace element perspective into the ca. 2.1-billion-year-old shallow-marine microbial mats from the Francevillian Group, Gabon. Chemical Geology 543, https://doi.org/10.1016/j.chemgeo.2020.119620
Cuthbert, M. O. et al. 2019. Observed controls on resilience of groundwater to climate variability in sub-Saharan Africa. Nature 572, 230–234 (https://doi.org/10.1038/s41586-019-1441-7)
Diab, H. et al. 2020. Mechanism of formation, mineralogy and geochemistry of the ooidal ironstone of Djebel Had, northeast Algeria. Journal of African Earth Sciences 162, 103736. https://doi.org/10.1016/j.jafrearsci.2019.103736
Dirks, P. H. G. M. et al. 2020. The world-class gold deposits in the Geita Greenstone Belt, Northwestern Tanzania. Yn: Sillitoe, R. H. et al. eds. Geology of the World’s Major Gold Deposits and Provinces. SEG Special Publications Cyf. 23. Cymdeithas Daearegwyr Economaidd, pp. 163-184.
Fantong, W.Y. et al. 2020. Compositions and mobility of major, δD, δ18O, trace, and REEs patterns in water sources at Benue River Basin—Cameroon: implications for recharge mechanisms, geo-environmental controls, and public health. Geocemeg Amgylcheddol ac Iechyd cyfrol 42, 2975–3013.
Grobler DF, Brits JAN, Maier WD, Crossingham A (2019) Litho- and chemostratigraphy of the Flatreef PGE deposit, northern Bushveld Complex, Mineralium Deposita, DOI 10.1007/s00126-012-0436-1
Incledion Alexander, Boseley Megan, Moses Rachael L, Moseley Ryan, Hill Katja E, Thomas David W, Adams Rachel A, Jones Tim P, Berube Kelly A. A new look at the purported health benefits of commercial and natural clays. Biomolecules 11 (1) , 58. 10.3390 / biom11010058
Kenny, G.G., Harrigan, O, Schmitz, MD, Crowley, JL, Wall, C.J., Andreoli, MD, Gibson, R.L. a Maier, W.D., 2021. Timescales of impact melt sheet crystallization and the precise age of the Morokweng impact structure, South Africa. Earth and Planetary Science Letters, 567, pp.117013.
Lambert-Smith, J. S., Allibone, A., Treloar, P. J., Lawrence, D. M., Boyce, A. J., & Fanning, M. (2020). (2020) Stable C, O, and S isotope record of magmatic-hydrothermal interactions between the Falémé Fe Skarn and the Loulo Au systems in Western Mali. Economic Geology, 115, pp. 1537-1558. (https://doi.org/10.5382/econgeo.4759)
Maier WD, Barnes S-J, Smith WD (2023) Petrogenesis of the Mesoarchean Stella layered intrusion, South Africa: implications for the origin of PGE reefs in the upper portion of layered intrusions Mineralium Deposita
Maier, W.D., Barnes, S.J., Godel, BM, Grobler, D. a Smith, W.D., 2023. Petrogenesis of thick, high-grade PGE mineralisation in the Flatreef, northern Bushveld Complex. Mineralium Deposita, tt.1-22.
Maier WD a Mundl-Petermeier A (2022) Controls on Pt/Pd ratios in Bushveld magmas and cumulates: a review complemented by new W isotope data. Mineralium Deposita, https://doi.org/10.1007/s00126-022-01141-z
Maier WD, Brits A, Grobler D (2022) Mineralised sills in the floor of the northern Bushveld: evidence for trans-crustal sulfide entrainment. SAJG, https://doi.org/10.25131/sajg.125.0019
Maier WD, KEL Abernethy, Grobler DF, Moorhead G (2021) Formation of the Flatreef deposit, northern Bushveld, by hydrodynamic and hydromagmatic processes, Mineralium Deposita, https://doi.org/10.1007/s00126-020-00987-5
Maier WD, Barnes S-J, Muir D, Savard D, Lahaye Y, Smith WD (2020) Formation of Bushveld anorthosite by reactive porous flow, CMP, https://doi.org/10.1007/s00410-020-01760-7
Mamuse, A., von der Heyden, B.P. and Blenkinsop, T., 2024. Zimbabwe's coloured gemstone endowments-A regional geological overview. Journal of the Southern African Institute of Mining and Metallurgy, 124 (1), tt.33-42.
Moore, A., Yudovskaya, M., Proyer, A. a Blenkinsop, T. 2020. Evidence for olivine deformation in kimberlites and other mantle-derived magmas during crustal emplacement. Contributions to Mineralogy and Petrology 175(2), rhif erthygl: 15. (10.1007/s00410-020-1653-8)
Smith WD; Albrechtsen B; Maier WD; Mungall JE (2023) Petrogenesis a Ni-Cu-(PGE) prospectivity of the Ingeli and Horseshoe lobes of the Mount Ayliff Complex, South Africa: in Mineral Resources Related to Ultramafic-mafic Magmas, from Archean to Present: Old Deposits and New, yn y wasg
Smith WD, Maier WD, Barnes SJ, Moorhead G, Reid D, Karykowski B (2020) Element mapping the Merensky Reef of the Bushveld Complex, Geoscience Frontiers, https://doi.org/10.1016/j.gsf.2020.11.001
Wagaba, B., Sayan, C., Haemmerli, H., Gill, J., & Parker, A. (2023). Understanding small NGOs' access to and use of geological data and expertise in delivering SDG 6 in eastern Africa. Journal of Water, Sanitation and Hygiene for Development, 13(5), 312-321.
Williams, J. N. et al. 2019. How do variably striking faults reactivate during rifting? insights from Southern Malawi. Geochemistry, Geophysics, Geosystems 20(7), tt. 3588-3607. (10.1029/2019GC008219)
Williams, J. N., Mdala, H., Fagereng, Å., Wedmore, L. N. J., Biggs, J., Dulanya, Z., Chindandali, P., a Mphepo, F.: A systems-based approach to parameterise seismic hazard in regions with little historical or instrumental seismicity: active fault and seismogenic source databases for southern Malawi, Solid Earth, 12, 187–217, https://doi.org/10.5194/se-12-187-2021, 2021
Zi J-W, Rasmussen B, Muhling J, Maier WD, Fletcher I (2019) U-Pb monazite ages of the Kabanga mafic-ultramafic intrusions and contact aureole, central Africa: geochronological and tectonic implications. Tarw Geol Soc Am, https://doi.org/10.1130/B35142.1
Ysgolion
Delweddau
Camau nesaf
Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth
Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.
Ymchwil ôl-raddedig
Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.
Ein heffaith ymchwil
Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.