Ewch i’r prif gynnwys

Rydyn ni’n byw mewn byd tri dimensiwn. Mae modelu a phrosesu gwybodaeth 3D yn dasg bwysig ym maes graffeg gyfrifiadurol, a nifer o feysydd eraill megis gwyddoniaeth, peirianneg a phensaernïaeth.

Mae’r grŵp yn gweithio ar dechnegau sylfaenol o brosesu geometreg 3D, gan gynnwys caffael, cofrestru, segmentu, optimeiddio, yn ogystal â'u cymwysiadau yn y byd go iawn.  

Gweithia’r grŵp hwn ar y cyd ag Ysgol Pensaernïaeth Cymru ar ymchwil ac addysg sy’n ymwneud â Dulliau Cyfrifiadurol ym maes Pensaernïaeth.

Nodau

  • Recriwtio myfyrwyr PhD a denu cyllid ymchwil
  • Hwyluso cydweithio a chydweithredu â grwpiau ymchwil a sefydliadau y tu hwnt i'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg

Ymchwil

Mae ein hymchwil yn ymdrin â dau faes eang:

Modelu 3D a thechnegau prosesu geometreg:

  • caffael 3D
  • ail-adeiladu 3D
  • mynegi arwynebau yn nhermau paramedrau
  • cofrestru siapau
  • dadansoddi siapau
  • adfer siapau 3D a’u mynegeio
  • modelu a ysgogir gan ddata
  • cynhyrchu trefniadol
  • optimeiddio mathemategol
  • prosesu rhwyllau

Cymwysiadau cyfrifiadura geometrig:

  • argraffu 3D
  • melino a thurnio dan reolaeth cyfrifiadur (CNC)
  • realiti rhithwir ac estynedig
  • ôl-beirianneg
  • roboteg
  • dylunio pensaernïol
  • animeiddio cyfrifiadurol.

Prosiectau

Enw’r prosiect: Creu cynrychioliadau dwfn at ddibenion dadansoddi ac ail-lunio siapiau 3D sydd â strwythur cymhleth a manylion cyfoethog
Wedi'i ariannu gan: Y Gymdeithas Frenhinol
Prif ymchwilydd: Yukun Lai

Enw’r prosiect: Optimeiddio siapiau canfyddiadol ar gyfer argraffu 3D
Wedi'i ariannu gan: Y Gymdeithas Frenhinol
Prif ymchwilydd: Yukun Lai

Enw’r prosiect: Ffurfiau canonaidd cyfrifiadura gan ddefnyddio casgliadau modelau 3D
Wedi'i ariannu gan: Y Gymdeithas Frenhinol
Prif ymchwilydd: Paul Rosin

Enw’r prosiect: Dylunio aml-ddatrysiad effeithlon at ddibenion modelu sy'n seiliedig ar gyfyngiadau
Wedi'i ariannu gan: Y Gymdeithas Frenhinol
Prif Ymchwilydd: Bailin Deng

Cwrdd â’r tîm

Prif ymchwilydd

Staff academaidd

Picture of Padraig Corcoran

Dr Padraig Corcoran

Dirprwy Bennaeth yr Ysgol

Telephone
+44 29208 76996
Email
CorcoranP@caerdydd.ac.uk
Picture of Dave Marshall

Yr Athro Dave Marshall

Athro Emeritws

Telephone
+44 29208 75318
Email
MarshallAD@caerdydd.ac.uk
Picture of Yipeng Qin

Dr Yipeng Qin

Uwch Ddarlithydd; Dirprwy Gyfarwyddwr Ymchwil

Telephone
+44 29208 75537
Email
QinY16@caerdydd.ac.uk
Picture of Paul Rosin

Yr Athro Paul Rosin

Athro Golwg Cyfrifiadurol

Telephone
+44 29208 75585
Email
RosinPL@caerdydd.ac.uk

Cyhoeddiadau

Digwyddiadau

Cyflwynir seminarau gan aelodau ac ymwelwyr yn y gyfres seminarau ymchwil cyfrifiadura gweledol.

Y camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.