Ewch i’r prif gynnwys

Ledled y byd, mae olion gweithgarwch diwydiannol y gorffennol megis presenoldeb llygryddion organig parhaus (POPs) a’r modd y caiff gwastraff ei waredu ar hyn o bryd wedi cael effeithiau niweidiol ar boblogaethau’r byd. Heddiw, wrth i’r newid yn yr hinsawdd ddod yn fwy amlwg ac wrth i wledydd sy'n datblygu brofi twf economaidd aruthrol, mae'r angen i ddod o hyd i atebion newydd i wastraff a ffynonellau ynni hyd yn oed yn fwy dybryd.

Rydym ni yn y Ganolfan Ymchwil Geoamgylcheddol (CYG) yn llunio’r dyfodol trwy fynd i’r afael â’r problemau a achosir gan effeithiau amgylcheddol gwastraff, yn rhanbarthol a ledled y byd, ac rydym yn darparu atebion newydd i gynhyrchu ynni. Mae problemau sy'n gysylltiedig â thir halogedig, peirianneg tirlenwi, adennill tir, sefydlogrwydd llethrau, gwaredu gwastraff, gan gynnwys gwastraff niwclear lefel uchel, a cholli gwres o wrthrychau wedi’u claddu, yn agweddau ar ymchwil y ganolfan, ynghyd â dylanwad amodau amgylcheddol ar berfformiad systemau dosbarthu tanddaearol. O ganlyniad i'r galw cynyddol am ynni, i'r newid yn yr hinsawdd ac i ddyfodol â chyfyngiad ar garbon, mae'r agenda geoamgylcheddol yn fwyfwy pwysig i’r byd cyfan. Mae ei chylch gwaith eang a'i harbenigedd rhyngddisgyblaethol yn golygu bod y Ganolfan mewn sefyllfa dda i chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddatblygu atebion pragmatig i heriau o'r fath.

O dan arweiniad yr Athro Hywel Thomas, sefydlwyd y Ganolfan ym 1996 ac mae wedi bod yn arweinydd ym maes peirianneg geoamgylcheddol. Mae’r Ganolfan wedi dod ag ymarferwyr, arbenigwyr, prifysgolion, diwydiant, sefydliadau rhyngwladol a llywodraethau ynghyd i fynd i’r afael â materion geoamgylcheddol yn y wlad hon a thramor.

Gwyliwch fideo ein Canolfan Ymchwil Geoamgylcheddol ar YouTube

Nodau

Ein cenhadaeth yw ymgymryd ag ymchwil a datblygu; darparu arweinyddiaeth ac addysg; ac ymgysylltu â diwydiant sydd ar flaen y gad yn y maes geoamgylcheddol.

Ymchwil

Ymchwilio i ffynonellau ynni

Ar hyn o bryd rydym yn arwain prosiect ymchwil mawr ym maes geo-ynni, sef prosiect Seren, sy’n canolbwyntio ar wres o’r ddaear, ynni geothermol o hen byllau glo, systemau cymorth penderfyniadau seiliedig ar GIS (geowybodeg) a modelu cyfrifiadurol uwch o prosesau gwres o’r ddaear. Mae modelau newydd o ymddygiad pridd yn cael eu datblygu gennym i helpu i ddeall y prosesau thermo/ffisegol/cemegol sy'n bwysig yn y cymwysiadau hyn. Fel rhan o'r prosiect hwn, rydym yn helpu busnesau i ddatblygu cynhyrchion, gwasanaethau a thechnolegau newydd ar gyfer y sector geo-ynni newydd, gan greu swyddi a busnesau newydd yn y broses a chyfrannu at ymgyrch Cymru i wella diogelwch ynni. Mae'r ymchwil yn rhan o brosiect gwerth £10 miliwn sy’n cael ei ariannu gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) o dan y rhaglen Gydgyfeirio.

Rheoli halogiad

Ymhellach i ffwrdd, mae ein hymchwil arloesol wedi helpu i lunio cynllun rhai o ystorfeydd niwclear cyntaf y byd a rheoli tir sydd wedi'i halogi gan lygryddion organig parhaus. Rydym yn gweithio gyda llywodraethau Nigeria a Ghana i sefydlu dwy Ganolfan Ymchwil Geoamgylcheddol ddibynnol newydd gyda'r nod o ymdrin â llygryddion organig parhaus. Mae'r Ganolfan a Sefydliad Datblygu Diwydiannol y Cenhedloedd Unedig yn goruchwylio’r gwaith o sefydlu'r cyfleusterau newydd hyn, a bydd y ddau ohonynt yn uniongyrchol gysylltiedig â'r Ganolfan ac yn parhau i ddatblygu a chymhwyso ei gwaith.

Arweinwyr yn ein maes

Adnewyddodd Sefydliad Addysgol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig (UNESCO) ein Cadeiryddiaeth ar gyfer Datblygu Geoamgylchedd Cynaliadwy hyd at fis Mawrth 2016. Mae wedi ein gwahodd i ystyried datblygu cydweithrediadau â sefydliadau fel y Rhaglen Hydroleg Ryngwladol, Rhaglen Asesu Dŵr y Byd, y Ganolfan Ranbarthol ar gyfer Meithrin Galluedd ac Ymchwil mewn Cynaeafu Dŵr yn Swdan a Champws Byd-eang Avicenna i ganolbwyntio ar faterion sy’n ymwneud â rheoli dŵr daear yn gynaliadwy, ynni geothermol, dysgu o bell a chynaeafu dŵr glaw.

Prosiectau

Flexis

Rydym yn falch o gyhoeddi eu rhan yn y prosiect FLEXIS a lansiwyd yn ddiweddar.

Cafodd y prosiect pum mlynedd gwerth £84m a gefnogir gan yr Undeb Ewropeaidd ei gyhoeddi heddiw gan Jane Hutt, Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, yn ystod ymweliad â'r Brifysgol.

Mae FLEXIS yn brosiect ymchwil ynni Cymru gyfan. Dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, mae FLEXIS yn cynnwys yr academyddion ynni blaenllaw o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol De Cymru, a bydd FLEXIS yn canolbwyntio ar ddatblygu gallu ymchwil systemau ynni yng Nghymru, gan adeiladu ar y gallu o safon fyd-eang sydd eisoes yn bodoli yn y prifysgolion hyn ym maes ynni.

Bydd y prosiect yn mynd i’r afael â rhai o’r materion mwyaf dybryd sy’n wynebu’r gymdeithas ar hyn o bryd, megis y newid yn yr hinsawdd, prisiau ynni cynyddol a thlodi tanwydd.

Prif amcanion y prosiect fydd datblygu cydweithrediadau â chwmnïau a fydd yn arwain at gynnydd mewn cyllid ymchwil yn dod i Gymru a fydd, yn ei dro, yn arwain at gynnydd sylweddol yn nifer yr ymchwilwyr o ansawdd da sy’n gweithio yn y maes hwn.

SAFE Barriers - Dull Systemau o ymdrin â Rhwystrau Peirianyddol

Mae hwn yn brosiect amlddisgyblaethol, a ariennir gan EPSRC a'r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA), sy'n edrych ar ddatblygiad THMC o Systemau Rhwystr Peirianyddol (EBS) o dan ystod o amodau amgylcheddol. Mae’r rhaglen yn defnyddio dull system gyfan o ymdrin â’r EBS, wedi’i hategu gan ddatblygiad technegau monitro uwch newydd. Cyfanswm cost y prosiect yw £1.3M a bydd yn rhedeg tan fis Medi 2016.

Mae SAFE Barriers yn brosiect ar y cyd rhwng prifysgolion Ystrad Clud, Caerdydd, Caeredin, Glasgow, Newcastle, Nottingham a Rhydychen ac Arolwg Daearegol Prydain. Cynhelir cyfres o arbrofion labordy lle bydd technolegau monitro uwch yn cael eu defnyddio a'u mireinio ar gyfer delweddu newidynnau THMC ar yr un pryd. Bydd yr wybodaeth a geir yn cael ei defnyddio i gael dealltwriaeth ragfynegol o ddatblygiad THMC o rwystrau peirianyddol ar sail clai, a'u rhyngwynebau. Mae tîm o ymchwilwyr yn y CYG yn ymchwilio i agweddau ar ymddygiad clai cywasgedig o dan dymheredd uchel hyd at 150°C trwy raglen arbrofol a damcaniaethol helaeth.

Cwrdd â’r tîm

Prif ymchwilydd

Staff academaidd

Picture of Peter Cleall

Yr Athro Peter Cleall

Pennaeth yr Adran Peirianneg Pensaernïol, Sifil ac Amgylcheddol

Telephone
+44 29208 75795
Email
Cleall@caerdydd.ac.uk
Picture of Michael Harbottle

Dr Michael Harbottle

Cyfarwyddwr Recriwtio a Derbyn

Telephone
+44 29208 75759
Email
HarbottleM@caerdydd.ac.uk
Picture of Fei Jin

Dr Fei Jin

Uwch Ddarlithydd

Telephone
+44 29208 75760
Email
JinF2@caerdydd.ac.uk

Staff cyswllt

Cyfleusterau

Rydym yn cynnal ymchwil arloesol yn y meysydd geoamgylcheddol a geodechnegol, gydag ymrwymiad i wasanaethu anghenion ymchwil lleol a chenedlaethol diwydiant.

Gydag ystod eang o systemau uwch-gyfrifiadura traddodiadol a modern, ein canolbwynt yw cyfres delweddu data sydd newydd ei gosod ar gyfer taflunio stereosgopig ac ar gyfer archwilio realiti rhithwir 3D o broblemau geoamgylcheddol.

Mae gennym hefyd gyfleusterau labordy arbrofol geodechnegol a geoamgylcheddol helaeth. Mae hyn yn cynnwys allgyrchydd geodechnegol mawr 100G â diamedr 3m ar gyfer efelychu a modelu strwythurau a phrosesau geodechnegol.

Mae’r Parc Ymchwil Geoamgylcheddol, neu’r PYG, yn brosiect consortiwm gwerth £5M a arweinir gennym ni. Mae'r PYG yn cynnal gwaith ymchwil a datblygu ar raddfa fawr, profi yn y maes a phrosiectau arddangos ar gyfer BBaChau amgylcheddol Amcan 1. Mae ei safle sylfaen ym Mhort Talbot ac mae ganddo safleoedd dibynnol eraill ledled Cymru.

Ni yw’r partner arweiniol mewn rhwydwaith cydweithredu seilwaith traws-Ewropeaidd, sy’n elwa ar fynediad i amrywiaeth eang o gyfleusterau ac arbenigedd Ewropeaidd drwy brosiect GeoEnvNet. Mae'r dosbarth seilwaith a gwmpesir gan y rhwydwaith yn cynnwys cyfleusterau profi ar raddfa fawr, cyfleusterau cyfrifiadura ar raddfa fawr a chanolfannau cymhwysedd.

Fel aelod sefydlu Rhwydwaith Adfywio Tir (RhAT) Cymru Gyfan sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus, cynhaliom weithdai, seminarau a sesiynau rhwydweithio ar gyfer cyflwyno a lledaenu gwybodaeth werthfawr am y diwydiant. Cynhaliodd a chefnogodd y RhAT nifer o lansiadau ac ymgynghoriadau cyhoeddus ar gyfer rhanddeiliaid amgylcheddol yng Nghymru.

Yn ogystal â chyfrifiaduron manyleb uchel, mae'r Ganolfan yn defnyddio'r clwstwr sydd newydd ei gaffael a reolir gan Cyfrifiadura Ymchwil Uwch yng Nghaerdydd (ARCCA), sy'n cynnwys 2048 o greiddiau prosesu 3.0GHz a rhyng-gysylltiad perfformiad uchel. Mae'r cyfleusterau hefyd yn cynnwys system gyfrifiadurol wasgaredig sy'n defnyddio'r swm mawr o amser CPU sbâr sydd ar gael ar gyfrifiaduron pen desg o amgylch y brifysgol.

Mae offer arbrofol yn cynnwys colofnau trwytholchi a phermeametrau tair echel; offer profi tair echel a reolir gan gyfrifiadur; offer echdynnu plât gwasgedd grafiometrig a chyfeintiol; a blwch croeswasgu graddfa fawr.

Mae cyfleusterau dadansoddol hefyd ar gael ar gyfer solidau, hylifau a nwyon, megis diffreithiant pelydr-X, fflworoleuedd pelydr-X, microsgopeg electronau, cromatograffaeth nwyon, cromatograffaeth ïonau, a sbectrometreg amsugno atomig.

Y Camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.