Yn mynd i'r afael â heriau yr unfed ganrif ar hugain sy’n ymwneud â’r amgylchedd, ecoleg a difodiant sy'n deillio o'r argyfwng hinsawdd, cynhesu byd-eang, dirywiad ecolegol ac ecosystemau, cwymp bioamrywiaeth, difodiant torfol rhywogaethau, a phrinder dŵr.
Cefndir
Mae'r Grŵp yn gymuned gynhwysol sy'n integreiddio ymchwilwyr ym maes yr amgylchedd, ecoleg a difodiant o ddisgyblaethau busnes a llywodraethu eraill gan gynnwys rheoli arian, rheoli, marchnata, strategaeth, busnes rhyngwladol, logisteg, rheoli ym maes adnoddau dynol a gweithrediadau, yn ogystal â disgyblaethau academaidd eraill. Mae pob un o’n gweithgareddau ymchwil yn cyfrannu at strategaeth Gwerth Cyhoeddus Ysgol Busnes Caerdydd.
Mae’r Grŵp EEEAGER yn gweithredu fel fforwm ar gyfer ymchwilwyr rhyngwladol a rhyngddisgyblaethol o'r byd academaidd ac ymarfer ym meysydd cyfrifyddu, llywodraethu ac economeg, er mwyn iddynt gyfarfod, rhannu syniadau a chydweithio i fynd i'r afael â'r heriau amgylcheddol ac ecolegol hynny mae sefydliadau trwy ystod pob sector, a'u rhanddeiliaid, yn eu hwynebu heddiw.
Bydd ymchwil cydweithredol o'r fath yn arwain at ddatblygu fframweithiau, offer, mecanweithiau ac atebion damcaniaethol ac ymarferol y gellir eu defnyddio'n ymarferol er mwyn datrys yr heriau hyn, neu o leiaf gymryd camau tuag at atebion ar eu cyfer.
Bydd y Grŵp EEEAGER yn cyfrannu at amcan yr Ysgol o gynhyrchu ymchwil rhagorol yn rhyngwladol trwy fod yn fforwm i ymchwilwyr o'r un anian o bob cwr o'r byd gyfarfod, cyfnewid syniadau, cydweithio ar brosiectau ymchwil, ysgrifennu a chyhoeddi papurau a llyfrau gyda'i gilydd, gwneud cais am gyllid ymchwil a chynhyrchu allbynnau ymchwil o'r ansawdd uchaf ar gyfer cyfnodolion rhyngwladol mwyaf blaenllaw y byd.
Bydd gwaith y Grŵp EEEAGER hefyd yn arwain at effeithiau sylweddol ar sefydliadau, y gymdeithas a'r amgylchedd.
Hanes y Grŵp EEEAGER
Mae'r Grŵp EEEAGER yn rhoi cartref corfforol yn Ysgol Busnes Caerdydd ar gyfer y Rhwydwaith EAGR ar-lein sy’n bodoli eisoes (Ymchwil ym maes Cyfrifeg a Llywodraethu o ran Difodiant) a sefydlwyd ym mis Ionawr 2021 yn ystod y pandemig yn rhwydwaith ar-lein o ymchwilwyr rhyngwladol a rhyngddisgyblaethol sy'n cynnal seminarau ar-lein rheolaidd o dan y teitl 'IFEAR4FUTURE'. Rydym yn parhau â'r gyfres hon o seminarau ar-lein gyda seminarau a hefyd trafodaethau gan unigolion, yn rheolaidd felly, drwy gydol y flwyddyn.
Dyma’r tîm
Y tîm rheoli
Cyfarwyddwr a Chyd-sylfaenydd
Cyd-gyfarwyddwyr
- Yr Athro Warren Maroun
- Dr Longxiang Zhao
- Dr Mira Lieberman
Aelodau o’r staff academaidd
Dr Roberta De Angelis
Uwch Ddarlithydd mewn Marchnata a Strategaeth
Yr Athro Ken Peattie
Athro Marchnata a Strategaeth, Cyfarwyddwr BRASS
Dr Maki Umemura
Darllenydd mewn Rheolaeth Ryngwladol a Hanes Busnes
Ysgolheigion cysylltiedig
- Dr Peter Beusch
- Yr Athro Silvio Bianchi
- Marita Blomkvist
- Dr Olga Cam
- Yr Athro Garry Carnegie
- Athro Cyswllt Dannielle Cerbone
- Yr Athro Antonio Corvino
- Yr Athro Cyswllt Frederica Doni
- Mr Dusan Ecim
- Yr Athro Abeer Hassan
- Dr Kristina Jonall
- Yr Athro Cyswllt Scott Longing
- Dr Karen McBride
- Yr Athro Christopher Napier
- Yr Athro Carlos Noronha
- Yr Athro Cynorthwyol Giacomo Pigatto
- Yr Athro Gunnar Rimmel
- Dr Lee Roberts
- Yr Athro Cynorthwyol Zhang Ruopiao
- Dr Lana Sabelfeld
- Dr Mohamed Saeudy
- Yr Athro Hannu Schadewitz
- Sandy Sio Hou In
- Yr Athro Cyswllt Wayne Van Zijl
Myfyrwyr ôl-raddedig
- Martina Macpherson
Digwyddiadau
Digwyddiadau blaenorol
Dyddiad | Math o Ddigwyddiad/Lleoliad | Gwybodaeth |
---|---|---|
6 Rhagfyr 2024 | Seminar Ar-lein | Nina Hasche a Leanne Johnstone (Prifysgol Örebro, Sweden) a Gabriel Linton (Prifysgol Gwyddorau Cymhwysol Canolbarth Norwy, Norwy) ‘(Ail) gysyniadu gwerth at ddibenion gwasanaethau ecosystemau: dull ar sail rhwydwaith’ |
29 Tachwedd 2024 | Seminar Ar-lein | Annog datblygiad 'Busnes a Bioamrywiaeth' yn Tsieina drwy fframwaith cyfrifo ac ymgysylltu rhyddfreiniol sy'n canolbwyntio ar fioamrywiaeth ac sy'n cynnwys rhanddeiliaid. Dr Longxiang Zhao (Prifysgol Caerwysg) a'r Athro Jill Atkins (Prifysgol Caerdydd) |
20 Medi 2024 | Seminar Ar-lein | Gloria Chen, Prifysgol Macau 'Datgelu Gwybodaeth am yr Economi Gylchol gan Gwmnïau Rhestredig Hong Kong - Data gan Ddiwydiannau Deunyddiau Dewisol a Phrif Ddiwydiannau Defnyddwyr’ |
11-12 Ebrill 2024 | Cynhadledd Agoriadol EEEAGER yn Ysgol Busnes Caerdydd. | O ystyried yr angen brys i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, colli bioamrywiaeth a difodiant rhywogaethau, mae'r gynhadledd hon yn cynnig fforwm i ymchwilwyr rannu eu hymchwil a cheisio atebion i'r heriau hyn. Ar ben hynny, bydd y gynhadledd hon o gymorth o ran datblygu cydweithrediadau ymchwil rhyngwladol, yn ogystal â datblygu a gweithredu fframweithiau newydd. |
11 Mehefin 2024 | Seminar hybrid | Dr Matthew Scobie, Prifysgol Canterbury, Seland Newydd 'Atebolrwydd rhwng cenedlaethau mewn cyfnod o bontio teg' |
15 Mai 2024 | Seminar hybrid | Martina Panero, Prifysgol Turin, yr Eidal ac ymchwilydd gwadd, Prifysgol Caerdydd, a Jill Atkins, Prifysgol Caerdydd ‘Ystyried Cyfrifeg Amgylcheddol, Ecolegol a Difodiant yng Nghyfrifon yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol: 1885 – 2024’ |
2 Chwefror 2024 | Seminar | John Peirce, Ysgol Busnes Caerdydd 'A New Measure of Quality in the English and Welsh Water and Sewerage Industry' |