Ewch i’r prif gynnwys

Mae ein gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar wella iechyd y geg. Mae ein portffolio ymchwil yn amrywio o dreialon clinigol ar dechnolegau deintyddol ataliol i astudiaethau a luniwyd i wella ein dealltwriaeth o fathau o anghydraddoldeb ym maes iechyd y geg, mynd i’r afael â’r rhain, yn ogystal â chynnal prosiectau i wella’r gwaith o roi gofal deintyddol.

Mae pandemig COVID-19, yr argyfwng o ran costau byw, a materion sy’n ymwneud â recriwtio a chadw'r gweithlu wedi creu “storm berffaith” ym maes darparu gofal deintyddol.  Mae cael gafael ar ofal deintyddol y GIG yn fater o bwys sy'n cael sylw sylweddol yn y cyfryngau, ac roedd penawdau’r papurau newydd sy’n ymwneud â “deintyddiaeth mewn argyfwng” neu “deintyddiaeth o’ch pen a’ch pastwn eich hun” yn drwch yn y cyfryngau yn 2022.

Rydyn ni’n ymwneud ag ystod o brosiectau ymchwil sy'n ceisio gwella'r dystiolaeth fydd yn gwella iechyd y geg ac yn darparu gofal deintyddol. Er bod ein gwaith yn digwydd yng Nghymru a bod gennym ddiddordeb arbennig mewn iechyd y geg yma, mae ein prosiectau ar y cyd a deilliannau ein gwaith yn berthnasol yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Amcanion

Ein nod yw ymgymryd ag ymchwil o safbwynt poblogaeth, a fydd yn:

  • sail ar gyfer anghenion iechyd a gofal deintyddol yng Nghymru a thu hwnt.
  • cyfrannu at y dystiolaeth ar gyfer gofal deintyddol ataliol ac effeithiol
  • newid y ffordd y mae gofal deintyddol yn cael ei roi ar waith er mwyn sicrhau’r manteision mwyaf i gleifion a'r cyhoedd.

Prosiectau

Cydweithredwyr

Rydyn ni’n cydweithio â nifer o sefydliadau a phartneriaid i gyflawni ein nodau ymchwil, gan gynnwys:

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Rydyn ni’n gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau y bydd dull di-dor wrth ddefnyddio tystiolaeth ymchwil i wella iechyd y geg a darparu gwasanaethau yng Nghymru.

Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Rydyn ni’n gweithio gyda chydweithwyr yn y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol o ran darparu a gwerthuso rhaglenni deintyddol ataliol.

Canolfan Ymchwil ar Ofal Sylfaenol a Brys Cymru (PRIME)

Y tîm Iechyd Deintyddol y Cyhoedd yng Nghanolfan PRIME sy’n arwain y Pecyn Ymchwil y Geg a Deintyddol.

Cyhoeddiadau

Addysgu a hyfforddi

Mae aelodau'r uned yn gyfrifol am addysgu a hyfforddi ym maes Iechyd Deintyddol y Cyhoedd ar bob lefel.

Cafodd yr holl Ymgynghorwyr ac Ymgynghorwyr Anrhydeddus presennol ym maes Iechyd Deintyddol y Cyhoedd yng Nghymru eu hyfforddi yn yr uned.

Camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.