Ewch i’r prif gynnwys

Mae enghreifftiau o’n meysydd ymchwil yn cynnwys:

  • dulliau effeithiol o recriwtio a derbyn myfyrwyr
  • strategaethau ar gyfer gwella addysg ryngbroffesiynol
  • ymagweddau integredig effeithiol at ofal cleifion
  • cynnig datblygiad proffesiynol parhaus effeithiol a dysgu gydol oes
  • datblygu gwydnwch a lles myfyrwyr
  • archwilio sut i wella ein hymgysylltiad â myfyrwyr
  • y defnydd o dechnolegau digidol ar gyfer addysgu sgiliau clinigol gweithredol

Prosiectau

Ar hyn o bryd mae ein grŵp ymchwil yn ymwneud â’r gweithgareddau ymchwil canlynol:

Ymchwil fel cydran o Addysg OHP

Mae'r prosiect hwn yn cynnwys ystod eang o randdeiliaid addysgiadol ledled Ewrop, a'i nod yw datblygu consensws ar bumed maes Cwricwlwm ar gyfer y cwricwlwm 'Deintydd Ewropeaidd Graddedig'. Y Prif Ymchwilydd (PI) yw’r Athro James Field, mewn cydweithrediad â Chymdeithas Myfyrwyr Deintyddol Ewrop (EDSA), y Gymdeithas Addysg Ddeintyddol yn Ewrop (ADEE), y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Ymchwil Ddeintyddol (IADR) ac amrywiol bartneriaid academaidd pan-Ewropeaidd.

Gwreiddio cynaliadwyedd amgylcheddol o fewn cwricwla iechyd y geg proffesiynol

Mae'r prosiect hwn yn cynnwys ystod eang o randdeiliaid addysgiadol ledled Ewrop, a'i nod yw datblygu consensws ar ddeilliannau dysgu sy'n ymwneud â Chynaliadwyedd mewn cwricwla Iechyd y Geg Proffesiynol. Prif Ymchwilydd y grŵp hwn yw’r Athro James Field, mewn cydweithrediad â Chymdeithas Myfyrwyr Deintyddol Ewrop (EDSA), y Gymdeithas Addysg Ddeintyddol yn Ewrop (ADEE), ac amrywiol bartneriaid academaidd pan-Ewropeaidd. Mae'r grŵp hwn wedi ymgynghori ar ran y Cyngor Deintyddol Cyffredinol, i'w gynnwys yn eu hadolygiad o ganlyniadau dysgu, ac wedi cyflwyno i Raglen Effeithiolrwydd Clinigol Deintyddol yr Alban (SDCEP).

Gwydnwch a lles mewn Addysg Ddeintyddol

Mae'r ddau brosiect hyn yn cael eu gwneud fel PhD gan Miss Ruby Long, gyda'r Athro James Field a Dr Liz Forty yn oruchwylwyr academaidd, ac fel Cymuned Ymarfer gan Shannu Bhatia. Nod y prosiectau yw archwilio lles a gwydnwch o fewn addysg ddeintyddol; yn benodol sut mae gwydnwch yn cael ei asesu a'i fesur, a pha offer y gellir eu datblygu i gefnogi datblygiad gwydnwch ymhlith ein myfyrwyr. Mae’r prosiect PhD wedi cael cyllid allanol gan Immersify Dental, a chefnogir y Gymuned Ymarfer gan ADEE.

Clefydau Dynol a phwysigrwydd hanesion meddygol cymhleth, mewn addysg ddeintyddol

Arweinir y gyfres hon o astudiaethau gan Dr Phil Atkin, ac mae'n archwilio pwysigrwydd dysgu wrth y gadair mewn ysgolion deintyddol mewn perthynas â chlefydau dynol, ac yn ceisio datblygu consensws mewn perthynas ag addysgu am glefydau dynol.

Cymhariaeth o addysgu Llawfeddygaeth y Geg ar draws y DU

Y Prif Ymchwilwyr yw Dr Charlotte Emanuel a Ms Charlotte Richards.

Addysg Iechyd y Geg

Datblygu dealltwriaeth gyffredin o addysg broffesiynol ym maes iechyd y geg yn Ewrop. Y Prif Ymchwilydd yw'r Athro James Field.

Defnyddio technolegau argraffu 3D ar gyfer addysgu sgiliau llawdriniaeth ddeintyddol

Y Prif Ymchwilydd yw Edward Williams, a'r Cyd-Ymchwilydd yw'r Athro James Field.

Y defnydd o tracking llygad wrth ddehongli sut mae myfyrwyr yn adolygu radiograffau deintyddol

Y Prif Ymchwilydd yw Dr Caryl Wilson-Nagrani a Carlen Chandler.

Archwilio datblygiad ymddiriedaeth mewn perthnasoedd deintyddiaeth gofal arbennig rhwng hyfforddeion a goruchwylwyr

PhD Study, Dr Damian Farnell.

Cyhoeddiadau

Digwyddiadau

Mae ein grŵp yn cynnal 'sesiynau dysgu dros ginio' yn rheolaidd sy’n ymwneud ag ysgolheictod ac ymchwil addysg.

Camau nesaf

academic-school

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.