Amcanion
Mae nodau ein grŵp ymchwil yn cynnwys:
- ymgymryd ag ymchwil addysgeg bio-ystadegat
- cynnal ymchwil i ddelweddau a signalau deintyddol, gan gynnwys delweddu arwyneb 3D
- dadansoddi ystadegol a chymorth dylunio ymchwil i staff a myfyrwyr yn yr Ysgol Deintyddiaeth a thu hwnt
- cymhwyso dysgu dwfn a deallusrwydd artiffisial i broblemau ym maes deintyddiaeth a meysydd cysylltiedig, a datblygu ffurfiolaeth mathemateg waelodol ar gyfer deallusrwydd artiffisial
Ymchwil
Grantiau diweddar a ddyfarnwyd
Swm | Teitl | Ymgeisydd | Grant | Blwyddyn y dyfarniad |
---|---|---|---|---|
£1140 | Archwiliad o Ddadansoddiad Swyddogaethol o Newidiadau Deinamig mewn Siapiau Biolegol | Damian J.J. Farnell | Grant Teithio gan Gymdeithas Fathemategol Llundain. Dyfarnwyd ym mis Mehefin 2022 | 2022 |
£9480 | Sut Mae Pobl yn Darllen Taflenni Gwybodaeth “Dyluniwyd i Wenu”? Dull-Cymysg Archwiliol | Damian J.J. Farnell | Sefydliad Ffiseg a Pheirianneg mewn Meddygaeth (IPEM) fel Grant Arloesedd. Dyfarnwyd ym mis Rhagfyr 2021. | 2021 |
Prosiectau
Delweddu Arwyneb 3D a Modelu Siâp
Mae ein grŵp ymchwil yn defnyddio delweddu wynebau’n 3D i esbonio amrywiad wynebol (nodweddion biolegol, anatomeg, swyddogaeth a morffoleg arwyneb wynebau), a gwella lles a meintioli amrywiadau wynebol ar gyfer addurnau wynebol, adnabod wynebau, fforenseg a diwydiannau rhyngwyneb cyfrifiadurol.
Rydym hefyd yn datblygu modelau mathemategol o siâp wyneb 3D, er mwyn cyflawni'r nodau uchod. Er enghraifft, datblygom ni gôd dadansoddi prif gydrannau aml-lefel (mPCA) sy'n ein galluogi i fodelu gwahanol ffynonellau o amrywiadau ar wahanol lefelau o'r model. Bydd cyfarwyddiadau yn y dyfodol yn defnyddio dysgu dwfn geometrig i astudio cynrychioli a dadansoddi siapiau.
Profedigaeth COVID-19
Nod yr astudiaeth ar y cyd hon rhwng prifysgolion ym Mryste, Caerdydd a thu hwnt yw deall profiadau galar ac anghenion cefnogi'r rhai sydd wedi cael profedigaeth, naill ai oherwydd COVID-19 neu achos arall o farwolaeth yn ystod y pandemig.
Mae'r astudiaeth yn archwilio profiadau a theimladau pobl o alar yn ystod diwedd oes eu hanwyliaid, a pha gefnogaeth maen nhw'n teimlo eu bod ei hangen, o'i gymharu â pha gefnogaeth a gawson nhw mewn gwirionedd.
Cynhaliwyd arolwg arall hefyd fel rhan o'r astudiaeth hon i benderfynu sut effeithiwyd ar wasanaethau profedigaeth a chefnogaeth yn ystod y pandemig.
Adroddwyd canfyddiadau'r astudiaeth hon ar ITV News, a Sky News.
Cwrdd â'r tîm
Staff academaidd
Dr Damian Farnell
- farnelld@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29225 10618
Dr Renata Medeiros-Mirra
- medeirosmirrarj@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6292
Dr Alexei Zhurov
- zhurovai@cardiff.ac.uk
- +44 2920682161
Cyhoeddiadau
- Davies, K. J. M. et al. 2022. Applying an automated method of classifying lip morphological traits. Journal of Orthodontics 49 (4), pp.412-419. (10.1177/14653125221106489)
- Polyanin, A. D. and Zhurov, A. I. 2022. Multi-parameter reaction–diffusion systems with quadratic nonlinearity and delays: new exact solutions in elementary functions. Mathematics 10 (9) 1529. (10.3390/math10091529)
- Davies, K. J. M. et al. 2022. The effect of maternal smoking and alcohol consumption on lip morphology. Journal of Orthodontics 49 (4), pp.403-411. (10.1177/14653125221094337)
- Harrop, E. et al. 2021. Support needs and barriers to accessing support: Baseline results of a mixed-methods national survey of people bereaved during the COVID-19 pandemic. Palliative Medicine 35 (10), pp.1985-1997. (10.1177/02692163211043372)
- Farnell, D. J. J. et al. 2021. An exploration of adolescent facial shape changes with age via multilevel partial least squares regression. Computer Methods and Programs in Biomedicine 200 105935. (10.1016/j.cmpb.2021.105935)
- Fernandes, L. et al., 2020. Endocrine therapy for the treatment of leptomeningeal carcinomatosis in luminal breast cancer: a comprehensive review. CNS Oncology 9 (4) CNS65. (10.2217/cns-2020-0023)
- Richmond, S. et al. 2020. Exploring the midline soft tissue surface changes from 12 to 15 years of age in three distinct country population cohorts. European Journal of Orthodontics 42 (5), pp.517-524. (10.1093/ejo/cjz080)
- Woolley, S. M. , Allen, M. and Medeiros-Mirra, R. 2020. Knowledge of sepsis risk and management amongst dental professionals in Wales: a service evaluation. British Dental Journal (10.1038/s41415-020-2022-8)
- Key, T. et al., 2020. Personal protective equipment during the COVID-19 crisis: a snapshot and recommendations from the frontline of a university teaching hospital. Bone and Joint Open 1 (5)(10.1302/2046-3758.15.BJO-2020-0027.R1)
- Xiong, Z. et al., 2019. Novel genetic loci affecting facial shape variation in humans. eLife 8 e49898. (10.7554/eLife.49898)
- Abbas, H. H. et al. 2019. An automatic approach for classification and categorisation of lip morphological traits. PLoS ONE 14 (10) e0221197. (10.1371/journal.pone.0221197)
- Weightman, A. et al. 2017. A systematic review of information literacy programs in higher education: effects of faceto- face, online, and blended formats on student skills and views. Evidence Based Library and Information Practice 12 (3), pp.20-55. (10.18438/B86W90)
- Mohd Nor, N. A. 2017. The impact of the downward adjustment of fluoride concentration in the Malaysian public water supply on dental fluorosis and caries. PhD Thesis , Cardiff University.
Graddedigion PhD diweddar
Mr. Sam Evans
Prosiect: defnyddio technegau delweddu newydd i ymchwilio i gleisiau pediatrig, gweithdrefnau adrodd cleisio pediatrig, a ffactorau sy'n dylanwadu ar gleisio mewn plant. (2022).
Dr. Jennifer Galloway
Prosiect: Dadansoddiad siâp wyneb 3D. (2021).
Dr Nor Azlida Binti Mohd Nor
Prosiect: effaith crynodiadau fflworid mewn cyflenwadau dŵr ar iechyd y geg. (2018).
Camau nesaf
Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth
Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.
Ymchwil ôl-raddedig
Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.
Ein heffaith ymchwil
Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.