Ewch i’r prif gynnwys

Gydag arbenigedd rhyngddisgyblaethol mewn cyfrifiadureg, seicoleg, troseddeg a chysylltiadau rhyngwladol, mae ein tîm yn cynnig dull cyfannol, integredig a damcaniaethol o ymdrin â seiberddiogelwch sy’n gysylltiedig â phobl a thechnoleg. Mae’r grŵp yn rhan o’r Ganolfan Ymchwil Seiberddiogelwch ym Mhrifysgol Caerdydd, a gaiff ei chydnabod yn Ganolfan Ragoriaeth Academaidd (ACE-CSR) gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Gan ddefnyddio gwyddorau data arloesol, deallusrwydd artiffisial a dulliau ystadegol, mae ein hymchwil ar ddadansoddeg seiberddiogelwch yn ceisio esbonio a modelu ymddygiadau a rhyngweithiadau yn y seiberofod, sy’n ein galluogi i ddatblygu dyfeisiadau technolegol a all ragweld a dosbarthu risgiau a bygythiadau i systemau a phobl.

Rydyn ni’n cynnal ymchwil labordy a maes ar ffactorau dynol, yn aml mewn cydweithrediad â phartneriaid allweddol yn y diwydiant, i fynd i’r afael â’r cynnydd yn nifer y bobl sy’n dioddef gan ymosodiadau seiber sy’n gynyddol soffistigedig. Rydyn ni’n mynd i’r afael â hyn trwy ddatblygu dulliau i harneisio ein galluoedd gwybyddol dynol unigryw, tra hefyd yn deall ein cyfyngiadau, a ddangosir dan amodau penodol.

Amcanion

Ein nod yw deall y canlynol:

  • pwy a beth yw’r bygythiadau tebygol i ddiogelwch a phreifatrwydd
  • y cymhellion i gyflawni ymosodiadau
  • sut rydyn ni’n monitro, dosbarthu a rhagweld bygythiadau mewn ‘amser real’
  • ffactorau sy’n gysylltiedig â rhagdueddiadau dynol i ymosodiadau seiber
  • gyda phwy y mae angen cyfathrebu ag ef cyn, yn ystod ac ar ôl ymosodiad seiber.

Ymchwil

Yn fras, mae ein hymchwil yn cyd-fynd â phum thema gyd-ddibynnol.

Asesu a modelu risgiau

Datblygu dulliau newydd i ffurfioli prosesau o fewn seilweithiau critigol a systemau modelu risgiau newydd i drawsnewid y ffordd y caiff risg ei chofnodi.

Cyfleu, rheoli a gwneud penderfyniadau ar y cyd ynghylch risgiau

Mae defnyddio deallusrwydd ynghylch bygythiadau ac arfer gorau i wneud penderfyniadau effeithiol yn seiliedig ar yr wybodaeth sydd ar gael yn hanfodol ar adeg pan fo bygythiadau seiber yn datblygu o hyd. Rydyn ni’n astudio ffactorau gwybyddol a goblygiadau gwneud penderfyniadau dan bwysau, gan gynnwys beth sy’n gwneud pobl yn agored i ymosodiad seiber wrth gyflawni tasgau bob dydd, a sut mae pobl yn gweithio gyda’i gilydd ac yn cyfathrebu dan bwysau yn ystod ymosodiadau seiber.

Dadansoddi ymddygiad pobl a meddalwedd a gaiff eu hysgogi gan ddata a deallusrwydd ynghylch bygythiadau

Cyflwyno ymchwil arloesol mewn deallusrwydd artiffisial at ddibenion canfod ac ymateb i ymyrraeth drwy ddadansoddiad cymhleth o ymddygiadau meddalwedd.

Cymhellion, dynameg a ffactorau cymdeithasol seiberdroseddau

Cefnogi cloddio data damcaniaethol a modelu proses gymdeithasol esboniadol, gan gynnwys twyll seiber a chymhellion a’r ffactorau cymdeithasol sy’n dylanwadu ar ymddygiadau a chyfathrebu yn dilyn ymosodiadau seiber.

Diogelwch a phreifatrwydd technolegau sy’n dod i’r amlwg

Rhagweld y tueddiadau diweddaraf o ran risgiau seiber sy’n gysylltiedig â’r defnydd o dechnolegau newydd, gan gynnwys cwmwl, dyfeisiau symudol a’r Rhyngrwyd Pethau.

Prosiectau

Caiff prosiectau allweddol eu trefnu yn ôl tri o ‘Heriau Mawr’ y byddwn ni’n canolbwyntio arnyn nhw dros y pum mlynedd nesaf. Bydd y rhain yn arwain ein hymchwil a chynnwys ein rhaglenni a addysgir ac yn llywio ein dull i ariannu a datblygu’r Ganolfan.

Gweithrediadau diogelwch ac ymwybyddiaeth sefyllfaol

Defnyddio gwyddorau data cymhwysol a deallusrwydd artiffisial, wedi’u cyfuno ag arbenigedd mewn troseddeg, seicoleg a chysylltiadau rhyngwladol er mwyn defnyddio a dehongli’r swm helaeth o ddata a gaiff eu cynhyrchu o ddydd i ddydd yn well, er mwyn rhagweld a rheoli bygythiadau seiber sy’n dod i’r amlwg.

Mae hyn yn cynnwys delweddu a chyfleu bygythiadau’n well rhwng pobl a phrosesau rhyng-gysylltiedig a chyd-ddibynnol. Heb yr uchod, bydd y DU a gweddill y byd yn cael trafferth gwneud synnwyr o fectorau ymosod sydd ar gynnydd, cymhellion a systemau sy’n wynebu risg.

Prosiectau

Chwalu hud Deallusrwydd Artiffisial at ddibenion seiberddiogelwch

  • Wedi’i ariannu gan InnovateUK (gydag Airbus)
  • £394,784 (Burnap)

Gwirio Uniondeb ar y Cyrion (ICE)

  • Wedi’i ariannu gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC)
  • £290,291 (Burnap a Perera)

PACE: Ecosystemau Cwmwl sy’n Ymwybodol o Breifatrwydd

  • Wedi’i ariannu gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC)
  • £757,817 (Rana, Theodorakopoulos a Burnap)

Seiberseicoleg Airbus a Ffactorau Dynol. Airbus ac Endeavr Cymru, y DU

  • Wedi’i ariannu gan Airbus ac Endeavr Cymru, y DU
  • £550,000 (Morgan)

Dyfodol gweithgynhyrchu diogel

Wrth i systemau diwydiannol ddechrau ymgysylltu â monitro amser real a ‘Factory 4.0’, bydd data’n chwarae rhan hanfodol wrth gael dealltwriaeth well o’r bygythiadau i systemau gweithgynhyrchu. Er enghraifft, sut bydd y Rhyngrwyd Pethau a’r Cwmwl yn cael eu hintegreiddio i’r mannau ‘diogel’ traddodiadol hyn? A fydd Technoleg Gwybodaeth (e.e. cyfrifiaduron personol bwrdd gwaith) a Thechnoleg Weithredol (megis systemau rheoli diogelwch) yn cael eu cyfuno’n un system yn y pen draw yn hytrach na’r is-rwydweithiau ar wahân canfyddedig a geir ar hyn o bryd?

Rydyn ni’n bwriadu trawsnewid dyfodol gweithgynhyrchu gan ddefnyddio technolegau a ysgogir gan ddata wrth gynnal diogelwch drwy integreiddio ein hymchwil ar fonitro a rheoli awtomatig mewn perthynas â systemau diogelwch hanfodol. Mae ein tîm yn arwain thema system ddiogelwch hanfodol yn y Ganolfan Rhagoriaeth Genedlaethol ar gyfer y Rhyngrwyd Pethau (PETRAS).

Systemau Diwydiannol Newydd: Ffatrïoedd Sgwrsio

  • Wedi’i ariannu gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC)
  • £1,805,111 (Burnap, Murray-Rust, Richards, Preston, Branson)

Cylch Oes Seiberddiogelwch SCADA 2 (SCADA-CSL)

  • Wedi’i ariannu gan Foundation Wales – Welsh Government and Airbus Innovations.
  • £760,000 (Burnap, Cherdantseva a Theodorakopolous)

Rheoli mannau cymdeithasol ar-lein

Mae’r rhyngrwyd a’r we gymdeithasol wedi cynnig byd rhyng-gysylltiedig enfawr, y mae iddo ei fanteision, ond sydd eisoes yn ecosystem graidd ar gyfer lansio ymosodiadau seiber. Oes rhaid i ni dderbyn nad yw’r mannau hyn yn hawdd eu rheoli o ystyried eu cyrhaeddiad rhyngwladol?

Ein bwriad yw cael gwell dealltwriaeth o’r rhyngweithiadau arferol yn y seiberofod er mwyn ein galluogi i ddefnyddio data i fodelu ac arsylwi achos ac effaith ymosodiadau seiber mewn oes o aflonyddwch gwleidyddol yn rhyngwladol.

Sut mae technolegau ar-lein yn trawsnewid troseddu cyfundrefnol rhyngwladol (Cyber-TNOC)

  • Wedi’i ariannu gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC)
  • £352,862 (Lefi, Giommoni, Williams, Burnap)

Labordy Gwyddorau Data Cymdeithasol: Dulliau a Datblygu Seilwaith ar gyfer Dadansoddi Data Agored mewn Ymchwil Gymdeithasol

  • Wedi’i ariannu gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC)
  • £450k (Burnap, Williams, Giommoni, Javed)

Cwrdd â’r tîm

Prif ymchwilydd

Staff academaidd

Picture of Eirini Anthi

Dr Eirini Anthi

Uwch Ddarlithydd mewn Seiberddiogelwch

Telephone
+44 29225 10056
Email
AnthiES@caerdydd.ac.uk
Picture of Yulia Cherdantseva

Dr Yulia Cherdantseva

Darllenydd mewn Systemau Diogelwch a Gwybodaeth Seiber

Telephone
+44 29225 10014
Email
CherdantsevaYV@caerdydd.ac.uk
No picture for Shancang Li

Shancang Li

Uwch Ddarlithydd

Telephone
+44 29225 14570
Email
LiS117@caerdydd.ac.uk
Picture of Omer Rana

Yr Athro Omer Rana

Deon y Coleg Rhyngwladol
Athro Peirianneg Perfformiad

Telephone
+44 29208 75542
Email
RanaOF@caerdydd.ac.uk
Picture of Lowri Williams

Dr Lowri Williams

Darlithydd mewn Seiberddiogelwch

Telephone
+44 29225 14919
Email
WilliamsL10@caerdydd.ac.uk

Myfyrwyr ôl-raddedig

Y camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.