Er y gall iechyd plentyn ddylanwadu ar eu canlyniadau addysgol, mae’r hyn sy’n digwydd mewn ysgolion yn debygol o gael effaith ar reoli iechyd. At hynny, mae ffactorau eraill megis teuluoedd yn effeithio ar ganlyniadau addysg ac iechyd.
Mae archwilio a mesur pwysigrwydd yr effeithiau gwahanol hyn yn her sy'n gofyn am ymagwedd amlddisgyblaethol a chydweithredol at ymchwil.
Yma ym Mhrifysgol Caerdydd, rydym ni’n gweithio gyda’r Banc Data Diogel ar gyfer Cysylltiadau Gwybodaeth Ddienw (Secure Anonymised Information Linkage neu SAIL) ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer cysylltiadau data newydd a’r Ganolfan ar gyfer Modelu Aml-lefel ym Mhrifysgol Bryste ar gyfer arloesiadau methodolegol er mwyn helpu i ddeall y prosesau hyn yn well.
Ymchwil
Diabetes a chanlyniadau addysgol
Mae diabetes math 1 (sydd hefyd yn cael ei alw’n diabetes sy’n dechrau mewn plentyndod) yn un o'r cyflyrau cronig mwyaf cyffredin sy'n effeithio ar blant yn y DU. Er bod rheoli diabetes yn feddygol yn cael ei ddeall yn dda, anaml yr ymchwilir i’r goblygiadau mewn ysgolion o ran presenoldeb, cyrhaeddiad ac ymddygiad, a hynny oherwydd diffyg data.
Mae'r prosiect hwn yn ceisio cysylltu setiau data iechyd ac addysg i fesur y cysylltiadau rhwng llwybrau iechyd cysylltiedig â diabetes math 1 a llwybrau canlyniadau addysgol. Caiff y prosiect hwn ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Feddygol.
Prosesu data ar gyfer yr astudiaeth
Mae'r prosiect hwn yn cynnwys cysylltu nifer o setiau data, er bod y setiau data a gaiff eu creu yn defnyddio data di-enw, mae’r broses o gysylltu yn ei gwneud yn ofynnol i rannu dynodwyr gyda thrydydd parti dibynadwy, Gwasanaeth Gwybodaeth GIG Cymru er mwyn hwyluso cysylltiadau ar draws gwahanol setiau data.
Mae gennym ni gymeradwyaeth ar gyfer y llifau o wybodaeth gyfrinachol am gleifion ar gyfer cysylltu setiau data iechyd gan y Grŵp Cynghori ar Gyfrinachedd, rhan o'r Awdurdod Iechyd Ymchwil a’r Pwyllgor Moeseg Ymchwil. Y setiau data iechyd hyn yw’r Archwiliad Diabetes Cenedlaethol (NDA) a gynhaliwyd gan NHS Digital a’r Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol (NPDA) a gynhaliwyd gan y Coleg Brenhinol ar gyfer Pediatreg ac Iechyd Plant.
Mae'r data addysg ysgol ar gyfer disgyblion o Gymru eisoes yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru fel mater o drefn i SAIL lle mae ar gael ar ffurf ffugenwau er mwyn cysylltu â’r setiau data newydd. Bydd data addysgol ychwanegol hefyd yn cael ei ryddhau gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA), sy'n cynnwys gwybodaeth am yr holl fyfyrwyr mewn addysg uwch yn y DU.
Dogfennau cymeradwyo
- Research Ethics Committee (REC) cymmeradwyaeth - Rhagfyr 2017
- Confidentiality Advisory Group (CAG) cymmeradwyaeth - Chwefror 2018
- Confidentiality Advisory Group (CAG) diwygiad - Rhagfyr 2018
- Confidentiality Advisory Group (CAG) diwygiad - Ebrill 2021
- Confidentiality Advisory Group (CAG) diwygiad - Mehefin 2021
Dogfennau prosesu teg
Ar gyfer yr unigolion hynny a allai fod yn rhan o’r setiau data hyn, darperir gwybodaeth ar sut i optio allan a phwy i gysylltu â nhw gydag ymholiadau ar wefan pob darparwr data:
Mae gennym ni ddogfennaeth prosesu teg prosiect benodol sy'n cwmpasu’r holl setiau data a ddefnyddir ar gyfer y prosiect.
Rydym ni hefyd yn darparu fersiynau ar gyfer setiau data penodol i’w postio ar wefannau’r darparwr data:
Cost bersonol cyflyrau iechyd yn ystod plentyndod
Mae ADR UK yn ariannu’r gwaith o greu fframwaith llywodraethu gwybodaeth ar gyfer cysylltu setiau data iechyd sy'n benodol i glefydau plant â data ysgolion a phrifysgolion yng Nghymru a Lloegr.
Mae'r astudiaeth yn cynnwys creu llwybr cyfreithiol diogel er mwyn i wybodaeth gyfrinachol am gleifion o setiau data iechyd plant gael ei chysylltu'n ddiogel â ffynonellau data eraill gan barchu preifatrwydd. Unwaith y bydd y broses cysylltu data wedi'i chwblhau, mae'r data'n cael ei wneud yn ddienw cyn ei fod ar gael i ymchwilwyr a gymeradwywyd mewn amgylchedd diogel ar gyfer prosiectau sydd er budd y cyhoedd.
Ewch i dudalen prosiect ADR i ddarganfod mwy.
Rhagor o wybodaeth
Post blog ADR yn amlinellu'r prosiect.
Diabetes math 1 ac addysg: Gweithdy cleifion, Ebrill 2021 - darllenwch yr adroddiad.
Post blog ADR ar y digwyddiad ac adroddiad ymgysylltu â chleifion.
Prosiectau
Cost bersonol cyflyrau iechyd yn ystod plentyndod
Dim ond hyn a hyn o dystiolaeth sydd ar gael o sut mae plant â chyflyrau cronig fel diabetes, epilepsi ac asthma’n dod ymlaen mewn meysydd y tu hwnt i iechyd. Mae hyn yn rhannol oherwydd yr heriau sy’n gysylltiedig â chyfuno data gweinyddol.
Er mwyn mynd i'r afael â hyn ar gyfer diabetes, bu i ni weithio gyda’r Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol a’r Archwiliad Diabetes Cenedlaethol ar gyfer oedolion, ar y cyd â’r Awdurdod Safonau Addysg Uwch a Llywodraeth Cymru, i lifo a chysylltu’r setiau data hyn ar iechyd ac addysg ar gyfer Cymru.
Rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn
STEADFAST: Deilliannau addysg ymhlith pobl ifanc â diabetes: llywodraethu ac ymwneud arloesol i gefnogi ymddiriedaeth y cyhoedd
Mae gan tua 40,000 o blant a phobl ifanc yn y DU ddiabetes (diabetes math 1 yn bennaf), ac mae mwy a mwy o bobl ifanc yn cael diagnosis ohono. Mae dulliau gwael o reoli’r cyflwr yn y tymor hir yn arwain at gymhlethdodau difrifol, sy’n gallu cael effaith sylweddol ar ansawdd bywyd a chostau’r GIG.
Mae gan bedair gwlad gartref y DU gyfrifoldeb statudol i gefnogi addysg pobl ifanc â chyflyrau iechyd, ond mae’r sail dystiolaeth i ddatblygu a gwerthuso ymyriadau’n dal i fod yn wan.
Rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn
Ymchwilio i'r rhyngberthynas rhwng diabetes a chyflawniad addysgol plant
Bydd plentyn â diabetes yn dysgu sut i hunan-reoli lefel y glwcos yn ei waed. Bydd ansawdd y dulliau hunan-reoli hyn yn cael effaith uniongyrchol ar ei iechyd, a all gael effaith ar ganlyniadau addysgol (gan gynnwys presenoldeb a chyflawniad). Gall hyn, yn ei dro, gael effaith ar y dulliau hunan-reoli a chanlyniadau iechyd eraill.
Nod cyffredinol yr ymchwil yw gwella ein dealltwriaeth o’r rhyngwyneb rhwng canlyniadau iechyd a chanlyniadau addysgol i blant â diabetes.
Rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn
Datblygu set ddata sy’n barod ar gyfer ymchwil a fydd yn cysylltu data ar blant a phobl ifanc yn Llundain sy’n cael ei gadw gan awdurdodau lleol a darparwyr gofal iechyd
Mae gwasanaethau gofal cymdeithasol, addysg ac iechyd i blant a phobl ifanc yn Lloegr yn wynebu heriau difrifol. Y tu hwnt i achosion proffil uchel o farwolaethau osgoadwy ymhlith plant, amcangyfrifir mai £23 biliwn y flwyddyn yw cost gymdeithasol canlyniadau gwael ymhlith plant yn y system gofal.
O ordewdra i farwolaeth, mae canlyniadau iechyd plant yn waeth nag ydynt mewn llawer o wledydd tebyg yn Ewrop. Mae llawer o blant wedi colli cyfnodau estynedig o amser o’r ysgol ac wedi cwympo ar ei hôl hi yn ystod pandemig COVID-19.
Cwrdd â'r tîm
Lead researcher
Dr Robert French
- frenchr3@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 4000
Staff academaidd
Yr Athro Colin Dayan
- dayancm@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2074 2182
Gwaith Polisi a Seneddol
Mae tîm y prosiect wedi cyflwyno tystiolaeth i'r ymgyngoriadau a’r ymchwiliadau canlynol gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru:
- Cais am dystiolaeth ar gyfer Adolygiad y Comisiynydd Plant ynghylch y Teulu (Mai 2022)
- Llywodraeth Cymru - Ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i Absenoldeb Disgyblion (Mehefin 2022)
- Adolygiad ynghylch Anghenion Addysgol Arbennig ac Anableddau (SEND) yr Adran Addysg: Right support, right place, right time (Gorffennaf 2022)
- Ymgynghoriad yr Adran Addysg 'Modernising school attendance and admission registers and setting national thresholds for legal intervention' (Gorffennaf 2022)
- Ymgynghoriad Ofsted a’r Comisiwn Ansawdd Gofal - 'Dull newydd o gynnal Arolygiadau Ardal o Anghenion Addysgol Arbennig ac Anableddau (AAAA) (Medi 2022)
- Ymchwiliad Pwyllgor Dethol Addysg ar 'Absenoldeb a chefnogaeth barhaus i ddisgyblion difreintiedig' (Chwefror 2023)
- Ymchwiliad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Senedd Cymru i 'A oes gan blant a phobl ifanc anabl fynediad cyfartal at addysg a gofal plant?' (Medi 2023)
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: frenchr3@caerdydd.ac.uk
Resources
Fair processing document
This fair processing document aims to inform research participants of how their information will be used fairly, legally and ethically.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
REC approval letter
Steadfast protocol
Cardiff University response to The Children's Commissioner Family Review
Final response to the Children, Young People and Education Committee inquiry into Pupil Absence
REC approval letter
Steadfast protocol
Cardiff University response to The Children's Commissioner Family Review
Final response to the Children, Young People and Education Committee inquiry into Pupil Absence
Ysgolion
Camau nesaf
Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth
Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.
Ymchwil ôl-raddedig
Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.
Ein heffaith ymchwil
Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.