Ewch i’r prif gynnwys

Gan adeiladu ar strategaeth gwerth cyhoeddus yr Ysgol Busnes, mae ein canolfan ymchwil newydd yn canolbwyntio ar ddarparu gwerth cyhoeddus trwy gaffael.

Ein huchelgais yw caiff y Ganolfan ei chydnabod yn rhyngwladol yn un o Ragoriaeth ar gyfer astudio’r heriau sy’n gysylltiedig â gwneud cymalau gwerth cymdeithasol a lles yn rhan o gontractau â’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gyda golwg ar sicrhau mwy o fudd cymdeithasol wrth ddod o hyd i nwyddau, gwasanaethau a gwaith.

Ym mhrifysgol, rydyn ni’n angerddol dros ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol ym maes caffael a’r gadwyn gyflenwi. Rydyn ni wedi ymrwymo i godi proffil caffael sy'n mynd ymhell y tu hwnt i sicrhau gwerth economaidd er mwyn mynd i'r afael â heriau digidol, cymdeithasol ac amgylcheddol.

Cydweithio ac ymgysylltu â ni a dechrau'r sgyrsiau pwysig am sut rydym yn trosoli caffael i gael effaith gadarnhaol a sut rydym yn cefnogi gweithwyr proffesiynol caffael trwy ymchwil, gweithdai gweithredol, a gweithgareddau ymgysylltu eraill.

Amcanion

Ers 2015, yr uchelgais i sicrhau gwerth cyhoeddus sy’n llywio ymchwil yn Ysgol Busnes Caerdydd - a hynny er mwyn creu datblygiad economaidd cynaliadwy ar y cyd â gwelliannau cymdeithasol ac amgylcheddol. Wrth wneud hynny, rydyn ni wedi creu Ysgol lle mae perthynas waith gyfeillgar, cynwysoldeb a chymryd rhan yn elfennau allweddol. Rydyn ni’n gwahodd partneriaid i gydweithio â ni ar ymchwil ac mae hyn yn arwain at greu gwybodaeth ac effaith ym maes polisïau ac ymarfer ar y cyd.

Y gweithgareddau pwysig hyn fydd yn llywio’r Ganolfan.

Ymchwil

Mae ein hymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yn ehangu'n gyflym gan fod cynaliadwyedd, gwerth cymdeithasol, ac arloesedd wrth wraidd yr hyn a wnawn. Caiff yr elfennau hyn eu cymhwyso i faes iechyd a gofal cymdeithasol, bwyd, y byd adeiladu, ffasiwn, a chategorïau eraill o wariant.

Byddwn ni'n cefnogi cyfleoedd datblygu proffesiynol drwy PhDs, Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTPs), a phrosiectau ymchwil comisiwn eraill, gan wahodd cydweithio â'r sectorau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector.

Addysgu gweithredol

Rydyn ni’n gwella ein rhaglenni presennol i weithwyr proffesiynol gan gynnig modiwlau pwrpasol a Dosbarthiadau Meistr un diwrnod ym maes caffael cymdeithasol, gwytnwch y gadwyn gyflenwi, datgarboneiddio, rheoli contractau a chydweithio i enwi ond ychydig o’r rhain.

Ymgysylltu

Byddwn ni'n cynnal cyfres o weithdai, gweminarau a thrafodaethau bord gron ar faterion cyfoes ym maes caffael a rheoli'r gadwyn gyflenwi. Cadwch lygad am ein 'dechreuwyr sgwrsio', cyfres fisol o drafodaethau bwrdd crwn ar amrywiaeth o bynciau cymhleth.

Mentora

Cyn bo hir byddwn yn cynnig cymorth mentora caffael a chadwyn gyflenwi. Anfonwch ebost at lynchj2@caerdydd.ac.uk os hoffech fod yn fentor neu gael eich mentora.

Ymchwil

Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda nifer o ganolfannau ymchwil eraill ym Mhrifysgol Caerdydd a phrifysgolion eraill ledled y DU a thramor, ond yn arbennig y Ganolfan Ymchwil Polisi Arloesedd (CIPR) sydd wedi’i lleoli ym Mharc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK).

Rydyn ni’n gwahodd ymchwil ar y cyd gyda phartneriaid allanol yng Nghymru, y DU ac yn fyd-eang sy'n rhannu ein hethos a lle mae arloesi a gwerth cymdeithasol yn rhan annatod o’r ffordd rydyn ni’n sicrhau gwerth cyhoeddus gwell.

Meysydd arbenigol

Mae gennym dîm academaidd sy’n tyfu, ac mae pob un ohonynt yn brif bwynt cyswllt ar gyfer eu meysydd arbenigol nhw yn y categorïau sy'n berthnasol i gaffael a rheoli'r gadwyn gyflenwi.

Cadwyni cyflenwi bwyd

  • Professor Kevin Morgan
  • Dr Laura Purvis

Iechyd a gofal cymdeithasol

  • Professor Maneesh Kumar
  • Professor Jane Lynch

Adeiladu

  • Professor Jon Gosling

Caffael cyhoeddus

  • Professor Jane Lynch
  • Dr Oishee Kundu

Ffasiwn cynaliadwy

  • Dr Hakan Karaosman

Caethwasiaeth fodern

  • Dr Maryam Lotfi

Datgarboneiddio

  • Dr Irfan Mohammed

Cynaliadwyedd

  • Professor Helen Walker
  • Dr Amina Imam

Economi gylchol

  • Dr Thanos Goltsos
  • Dr Nadine Leder

Cwrdd â'r tîm

Director for Centre of Public Value Procurement

Staff academaidd

Digwyddiadau

Fel rhan ogenhadaeth ddinesig Prifysgol Caerdydd, un o uchelgeisiau’r Ganolfan Caffael Gwerth Cyhoeddus yw cynnig man diogel ar gyfer annog sgyrsiau ‘anodd’ lle mae Rheolau Tŷ Chatham yn berthnasol.

Bydd pob digwyddiad yn cael ei hysbysebu ar Linkedin a Twitter gyda’r hashnodau canlynol:

#sbarduntrafod #gwerthcyhoeddus #sbarc

Sbardunau Trafod

Rhaglen fisol newydd o drafodaethau bwrdd crwn 90 munud wyneb-yn-wyneb Bydd y rhain yn rhad am ddim ac yn agored i'r cyhoedd. Ein nod yw denu cynrychiolwyr o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector sy’n dymuno cymryd rhan mewn trafodaethau dwys i ddeall rhai o’r materion mwy dadleuol a chymhleth sy’n ymwneud â chaffael a rheoli’r gadwyn gyflenwi.

Bob mis mae pwnc newydd yn ymwneud â chaffael yn cael sylw, a bydd siaradwr gwadd yn esbonio’r cefndir ac yn gosod cwestiynau allweddol ar gyfer trafod ymhellach. Mae'r sesiynau wedi'u strwythuro a'u cynllunio'n ofalus fel bod pawb sy'n mynychu yn cael cyfrannu, ac yn cael budd o hynny.

Mae’r themâu’n cynnwys termau a’u hystyr, ymgysylltu â chyflenwyr, ffasiwn (cyflym) cynaliadwy, datgarboneiddio, cynaliadwyedd cymdeithasol a llawer mwy.

Bydd rhagor o wybodaeth ar gael cyn bo hir.

Cynllunio Strategaeth Gaffael

Gweithdy hanner diwrnod ar ddydd Iau 5 Ionawr 2023, 9:30 tan ganol dydd
Manylion cofrestru i ddilyn

Mae ysgrifennu strategaeth gaffael yn swnio’n hawdd ond mae angen meddwl am gryn dipyn o amser am werthoedd y sefydliad, sut i drosoli caffael i sicrhau effaith gadarnhaol, a’r adnoddau sydd ar gael cyn dechrau ysgrifennu dogfen strategol.

Efallai nad yw’n eich synnu fod yr arddull, y negeseuon allweddol, a’r ansawdd yn amrywio’n fawr. Beth ddylem ni ei gynnwys a beth ddylem ni ei adael allan? Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar ddylunio ac ysgrifennu strategaeth gaffael yn effeithiol er mwyn sicrhau mwy o werth cyhoeddus.

Camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.