Mae’r Ganolfan Ymchwil Gwasanaethau Golwg yn ymroddedig i wella gwasanaethau iechyd a gofal i unigolion sy’n cael mynediad at wasanaethau gofal llygaid neu sydd â phroblemau golwg.
Bydd ein gwaith yn gyrru trawsnewid gwasanaethau ac arloesedd byd-eang mewn gofal llygaid, gyda chefnogaeth y llywodraeth, y diwydiant, y sector gwirfoddol, a chyrff proffesiynol.
Fe wnaethon ni lansio ym mis Ebrill 2025 ar ôl derbyn £1.8 miliwn o gyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Amcanion
Rydyn ni’n anelu at:
1. trawsnewid bywydau i bawb sy’n cael eu heffeithio gan broblemau golwg trwy ddatblygu a chyflwyno gwelliannau sy'n cael eu gyrru gan ymchwil mewn mynediad, ansawdd a chanlyniadau gofal a chymorth golwg
2. darparu cymorth hanfodol i ymchwilwyr, gofal iechyd, gofal cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol eraill i alluogi ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth
3. meithrin cydweithredu ar draws disgyblaethau i fynd i’r afael â heriau cymhleth
Ymchwil
Rydyn ni’n cefnogi datblygu mesurau canlyniadau a adroddir gan gleifion ac yn defnyddio ystod o fethodolegau, gan gynnwys modelu economaidd iechyd, ymchwil dulliau cymysg, adolygiadau realaidd, gwaith naratif, a gwerthusiadau yn ein hymchwil. Mae cyfranogiad cleifion a chyhoeddus yn ganolog i’n dull gweithredu.
Drwy ein strategaethau, bydd y Ganolfan Ymchwil Gwasanaethau Golwg yn hyrwyddo arloesedd, tegwch a chynaliadwyedd mewn gofal a chefnogaeth llygaid.
Themâu ymchwil strategol
- lleihau rhestrau aros gwasanaethau llygaid mewn ysbytai ac optimeiddio llwybrau gofal
- trawsnewid nam ar y golwg a llwybrau adsefydlu
- datblygu mesurau canlyniadau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
- gwneud y gorau o gyfnodau gofal, proffilio risg, a thechnolegau newydd
- gwella gofal golwg ar gyfer poblogaethau bregus
Mae ein hymchwil wedi'i ategu gan ddwy thema hanfodol:
Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant: Mynd i’r afael â gwahaniaethau mewn mynediad a chanlyniadau ar draws poblogaethau amrywiol.
Gwybodaeth ac Addysg: Grymuso cleifion a phobl â cholled golwg a’u teuluoedd, gweithwyr proffesiynol a rhanddeiliaid.
Pobl
Mae’r Ganolfan yn dwyn ynghyd offthalmolegwyr, optometryddion, nyrsys offthalmig, gweithwyr cymdeithasol, economegwyr iechyd, aelodau lleyg, ac ymchwilwyr o:
Prifysgol Caerdydd
Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg
- Yr Athro Barbara Ryan
- Dr Jennifer Acton
- Yr Athro Rachel North
- Dr Pippa Anderson
Canolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion
- Yr Athro Paul Willis
Y Ganolfan Treialon Ymchwil
- Claire Nollett
- Dr Tim Pickles
GIG Cymru
- Rhianon Reynolds
- Colm McAlinden
- Siene Ng
Prifysgol Abertawe
Uned Ymchwil Diabetes Cymru
Canolfan Economeg Iechyd Abertawe
Prifysgol Bangor
Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd
Prifysgol De Cymru
Canolfan Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys
Camau nesaf
Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth
Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.
Ymchwil ôl-raddedig
Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.
Ein heffaith ymchwil
Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.