Ewch i’r prif gynnwys

Bydd y Ganolfan Gofal Cymdeithasol a Dysgu Deallusrwydd Artiffisial (SCALE) yn harneisio potensial Deallusrwydd Artiffisial ym maes gofal, gyda'r nod o roi hwb i weithgarwch ac adeiladu màs critigol mewn maes ymchwil trawsddisgyblaethol newydd, cyffrous a chyflym.

Mae galw cynyddol a thoriadau mewn cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol yn creu heriau sylweddol i'r sector. Mae deallusrwydd artiffisial yn cynnig y potensial i fynd i'r afael â'r heriau hyn, ac adeiladu gwasanaethau gofal cymdeithasol craffach, mwy ystwyth a mwy effeithiol sy'n cefnogi ac yn gwella perthnasoedd dynol.

Fe wnaethon ni lansio ym mis Ebrill 2025 ar ôl derbyn £1.8 miliwn o gyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Amcanion

Gan fod gan benderfyniadau anghywir mewn gofal cymdeithasol botensial uchel o niwed, bydd cyflwyno Deallusrwydd Artiffisial yn gofyn am dechnegau newydd i reoli risg a diogelwch. Mae'n rhaid i atebion hefyd fod yn gost-effeithiol, a sicrhau nad oes unrhyw rhaniad digidol yn lefel ac ansawdd y gofal a ddarperir.

Bydd SCALE yn sicrhau effaith go iawn trwy roi'r rhai sydd â phrofiad uniongyrchol o wasanaethau wrth wraidd ein gwaith. Byddwn yn cynnwys defnyddwyr gwasanaeth o ofal cymdeithasol oedolion a phlant, yn ogystal ag ymarferwyr a llunwyr polisi, i adeiladu cydweithrediadau hirdymor cynaliadwy ac i sicrhau cyllid allanol.

Ymchwil

Bydd ein hymchwil yn cwmpasu pob maes Gofal Cymdeithasol Plant ac Oedolion gyda Deallusrwydd Artiffisial (gan gynnwys Prosesu Iaith Naturiol, Gwyddor Data a Dadansoddeg, Roboteg, Cyfrifiadura Gweledol).

Byddwn yn canolbwyntio i ddechrau ar:

  • gefnogi'r gweithlu gofal cymdeithasol ac arweinyddiaeth
  • cefnogi oedolion, plant, gofalwyr a theuluoedd
  • dadansoddi data mewn ffyrdd newydd a diddorol

Pobl

Bydd SCALE yn dod â grŵp trawsddisgyblaethol o ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE), y Ganolfan Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE), ynghyd â'r Ganolfan Treialon Ymchwil (CTR) a'r Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) ym Mhrifysgol Abertawe.

Partneriaid

Camau nesaf

academic-school

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.