Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Astudiaethau’r Oesoedd Canol

Rydym yn hyrwyddo astudiaethau rhyngddisgyblaethol sy’n ymwneud â'r Oesoedd Canol gan ddod ag arbenigwyr o nifer o feysydd pynciol gwahanol at ei gilydd i gydweithio ar faterion ymchwil ac addysgu graddedigion.

Byddwn yn hyrwyddo astudiaethau rhyngddisgyblaethol sy’n ymwneud â’r Oesoedd Canol gan ddod ag arbenigwyr o nifer o feysydd pynciol gwahanol ym Mhrifysgol Caerdydd at ei gilydd i gydweithio ar faterion ymchwil ac addysgu graddedigion.

Ein nod yw hyrwyddo astudiaethau rhyngddisgyblaethol o’r Oesoedd Canol, gan ddod ag arbenigwyr o nifer o feysydd pynciol gwahanol yn y Brifysgol at ei gilydd i gydweithio ar ymchwil o safon ac addysgu graddedigion. Ymhlith aelodau’r Ganolfan mae staff a myfyrwyr ôl-raddedig o’r Ysgol Hanes, Archaeoleg ac Astudiaethau Crefyddol, Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth a’r Gymraeg.

Rydym yn cynnal rhaglen reolaidd o seminarau ymchwil sy’n rhoi’r cyfle i academwyr gydweithio â’i gilydd a thrafod yn ogystal â dod ag ysgolheigion dramor i’r Brifysgol. Mae ein digwyddiadau academaidd a chymdeithasol yn agored i ganoloeswyr nad ydynt yn aelodau o’r Brifysgol yn y rhanbarth, a bydd y rhain yn ymuno â’n gweithgareddau’n aml.

Digwyddiadau

Gweithdai’r Haf

Gweithdy Paleograffeg, 23 Mai 2024, 12:00-17:00 (Adeilad John Percival)

Bydd y digwyddiad yn cynnwys gweithdai ymarferol a phapurau yn ymdrin ag agweddau ar baleograffeg canoloesol. Bydd mynychwyr yn cael y cyfle i rwydweithio gyda chanoloesegwyr o sefydliadau gwahanol. Croeso cynnes i fyfyrwyr ac academyddion ar unrhyw adeg o'u gyrfa. Bydd cinio yn cael ei ddarparu.

Gofynnwn i chi gofrestru erbyn 16 Mai

Gweithdy Golygu, 3 Mehefin 2024, 12:00-17:00 (Adeilad John Percival)

Bydd y digwyddiad yn cynnwys gweithdai ymarferol a phapurau yn ymdrin ag agweddau o olygu testunau canoloesol. Bydd rhaglen llawn a linc i gofrestru yn cael eu rhannu yma yn fuan.

Rhaglen Seminarau

Rydym yn cynnal rhaglen rheolaidd o seminarau ymchwil gan siaradwyr allanol ar draws ein meysydd pynciol gwahanol. Bydd ein rhaglen seminarau ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024-5 yn cael ei hysbysebu yma yn fuan. Roedd ein siaradwyr yn 2023-4 yn cynnwys Dr Christina Lee (Prifysgol Nottingham), Dr Stefan Visnjevac (Prifysgol Caerdydd), Dr Llewelyn Hopwood (Prifysgol Caerdydd), a Johanna Vogelsanger (Prifysgol Zurich).

Darlith Henry Loyn

Mae Canolfan Astudiaethau’r Oesoedd Canol yn trefnu Darlith Goffa Henry Loyn bob dwy flynedd. Yn Ebrill 2024, traddodwyd y ddarlith gan yr Athro Huw Pryce ar y pwnc ‘Mynd i’r afael â’r amgylchedd yn Gerallt Gymro’. Bydd manylion Darlith Goffa Henry Loyn 2026 yn cael eu rhannu yma.

Cynadleddau

Yn Ebrill 2024, cynhaliwyd cynhadledd rhyngddisgyblaethol ar Gymru’r Oesoedd Canol gyda chefnogaeth Canolfan Astudiaethau’r Oesoedd Canol. Bu siaradwyr o ystod o ddisgyblaethau (gan gynnwys hanes, archaeoleg a llenyddiaeth) yn cyflwyno papurau ar yr ymchwil ddiweddaraf ar y Gymru ganoloesol.

Y camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.