Rydym ni’n cynnal ymchwil sy'n berthnasol i bolisi ar greadigrwydd, arloesedd a'r economi ochr yn ochr â chydweithredwyr o sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector yn y Deyrnas Unedig (DU) ac yn rhyngwladol.
Mae ein hymchwil yn canolbwyntio'n benodol ar natur arloesi o ran gofod ac yn seiliedig ar leoedd. Rydym ni’n hyrwyddo cynaliadwyedd ac arloesedd cyfrifol wrth nodi a datblygu canfyddiadau ymchwil sy'n berthnasol i bolisi.
Amcanion
Rydym ni’n datblygu ymchwil unigryw ac effeithiol sy'n adeiladu ar sylfaen arbenigedd rhyngddisgyblaethol ac yn defnyddio sawl dull i ddadansoddi a llywio datblygiad polisi arloesi. Mae ein gweithgareddau'n cynnwys:
- datblygu ymchwil o ansawdd uchel
- cynhyrchu allbynnau ymchwil
- cynhyrchu incwm ymchwil
- hyrwyddo cyfnewid gwybodaeth a chydweithio ar bolisi arloesi
- adeiladu rhwydweithiau i annog ymchwil sy'n berthnasol i bolisi ar arloesi
- llywio datblygiad polisi yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol
Ymchwil
Rydym ni’n datblygu dealltwriaeth ar sail tystiolaeth o ddatblygiad, darpariaeth a chanlyniadau polisi arloesi, wedi'i lunio'n eang ond gyda ffocws penodol ar weithgarwch seiliedig ar le.
Er enghraifft, mae gennym ni ddiddordeb mewn sut y gall actorion rhanbarthol ailadeiladu eu heconomïau trwy ymagweddau arloesol, seiliedig ar le tuag at ddatblygu economaidd.
Gallai hyn gynnwys dadansoddi dulliau newydd sy'n canolbwyntio ar, er enghraifft, ysgogi caffael cyhoeddus, defnyddio polisïau arloesi i hyrwyddo gweithgarwch economaidd fel bargeinion dinas, gwobrau herio a mentrau ymchwil busnesau bach, a rôl sefydliadau addysg uwch mewn datblygiad economaidd ac arloesi rhanbarthol (gweler Morgan K, Marques P. 2019. The public animateur: Mission-led innovation and the 'smart state' in Europe. Cambridge Journal of Regions, Economy and Society. 12(23): 179-193).
Wrth archwilio dynameg aflinol gymhleth polisi arloesi yn ymarferol, mae ein hymchwil yn adeiladu ar arbenigedd amlddisgyblaethol aelodau CIPR.
Er enghraifft, mae ein hymchwil flaenorol wedi tynnu ar waith sy'n mynd i'r afael â systemau addasol cymhleth a safbwynt ‘sefydliadau byw’ mewn theori trefnu.
Bydd ymchwil y Ganolfan yn y dyfodol hefyd yn tynnu ar ddamcaniaethau sefydliadol o newid sefydliadol i archwilio sut mae arloesed polisi yn arwain at newid mewn ymarfer a sut mae'r rhain yn cael eu hyrwyddo a'u cynnal (gweler Bristow G, Healy A. 2014. Building resilient regions: Complex adaptive systems and the role of the policy intervention. Raumforsch Raumordn, 72: 93-102; Delbridge R, Edwards T. 2013. Inhabiting institutions: Critical realist refinements to understanding institutional complexity and change. Organization Studies, 34(7): 927-947).
Mae gennym ni ddiddordeb hefyd mewn gweithio mewn partneriaeth â llunwyr polisi a chyrff sector cyhoeddus wrth gyflawni polisi arloesi trwy ddulliau ymchwil gweithredu.
Llywodraeth Cymru
Gwahoddwyd Cyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi (IACW), ddiwedd 2020, i ddechrau proses o adolygu'r dirwedd arloesi yng Nghymru a llywio cynlluniau i ddatblygu polisi arloesi wedi'i adnewyddu ar gyfer Cymru.
Comisiynodd IACW y Ganolfan Ymchwil Polisi Arloesedd ym Mhrifysgol Caerdydd i ymchwilio i gyflwr arloesi presennol yng Nghymru ac ystyried y materion allweddol wrth ddatblygu polisi yn y dyfodol. Mae'r adroddiad hwn, a gyflwynwyd ar 31 Mawrth 2021, yn fan cychwyn ar gyfer trafodaethau i’w cynnal dros yr ychydig fisoedd nesaf.
Cynhaliodd tîm CIPR Rick Delbridge, Dylan Henderson a Kevin Morgan drafodaethau gyda dros 50 o randdeiliaid ar draws yr ecosystem arloesi ac fe wnaethant hefyd gynnal adolygiad o ddata eilaidd. Yn yr adroddiad, maent yn darparu trosolwg o gyflwr arloesi presennol yng Nghymru, yn adolygu'r gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer ymchwil ac arloesi, yn ystyried yr hyn fydd ei angen i baratoi ar gyfer y dyfodol ac yn cynnig argymhellion i helpu i lywio tirwedd arloesi Cymru yn y dyfodol.
Mae'r adroddiad ar gael ar wefan Busnes Cymru.
Cyngor Sir Gaerfyrddin
Comisiynodd Cyngor Sir Gaerfyrddin Canolfan Arloesi Ymchwil Polisi (CIPR) i wneud gwaith i lywio datblygiad eu strategaeth arloesi ar gyfer y rhanbarth. Mae’r Cyngor wedi bod ymhlith y mwyaf rhagweithiol yng Nghymru wrth fynd i’r afael â bygythiadau Brexit a COVID-19.
Sefydlodd Grŵp Cynghori ar Fusnes annibynnol i helpu’r awdurdod i ddylunio a monitro strategaeth adfer yr economi ar ôl y pandemig yn 2021. Mae wedi bod yn arloesol ac wedi ennill gwobrau olynol o dan Gronfa Her yr Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru. Hefyd, roedd yn llwyddiannus gyda 12 o'i 13 cais i'r Gronfa Adnewyddu Cymunedol a reolir gan y DU. Gellir dadlau bod comisiynu'r adroddiad hwn yn arwydd arall o ddull rhagweithiol y Cyngor at arloesi a datblygiad lleol.
Cafodd tîm CIPR ei arwain gan Kevin Morgan, ac roedd yn cynnwys Dylan Henderson a Rick Delbridge. Roedd nodau’r comisiwn yn gyffredinol ac yn benodol. Y nod cyffredinol oedd nodi cynigion i helpu i adfer ac ailstrwythuro economi Sir Gaerfyrddin drwy arloesi.
Y nodau penodol oedd archwilio cyfraniad rhai sectorau allweddol.
Yn gyntaf, rôl y Cyngor a'r sector cyhoeddus ehangach, yn enwedig mewn perthynas â defnyddio gallu gwario’r sector cyhoeddus i gefnogi arloesedd. Roedd yn canolbwyntio'n benodol ar yr economi sylfaenol, iechyd a lles, arloesedd digidol ac effaith newid yn yr hinsawdd a'r rhagolygon ar gyfer adferiad gwyrdd drwy ddefnyddio potensial yr economi gylchol.
Roedd y prosiect yn cynnwys cynnal gwaith ymchwil i ddogfennau allweddol ac ymgynghoriadau gyda 50 o randdeiliaid. Wrth ddrafftio'r adroddiad terfynol ar y cyd â’r Cyngor, datblygodd tîm CIPR strategaeth i hyrwyddo a chefnogi arloesedd yn Sir Gaerfyrddin. Lansiwyd y strategaeth hon mewn digwyddiad ym mis Mai 2023.
Darllenwch yr adroddiad: Archwilio'r Rhagolygon Arloesedd ar gyfer Sir Gaerfyrddin.
Prosiectau
Arloesedd i Bawb – Her prydau ysgol am ddim yng Nghymru
Un o'r pethau mwyaf uchelgeisiol a ddeilliodd o'r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Llafur Cymru a Phlaid Cymru oedd yr ymrwymiad i gynnig prydau ysgol am ddim i bob disgybl mewn ysgolion cynradd yng Nghymru.
Er bod yr ymrwymiad hwn i bolisi newydd yn hynod ganmoladwy, mae hefyd yn heriol iawn pan fo awdurdodau lleol eisoes yn ei chael hi'n anodd parhau i ddarparu gwasanaethau presennol o ganlyniad i bwysau deuol – cyllidebau tynn, a chostau sy’n cynyddu’n gyflym o ran bwyd a thanwydd.
Roedd y gweithdy Arloesedd i Bawb, a hwyluswyd gan yr Athro Kevin Morgan, yn ymdrin â gwahanol ddimensiynau’r her ac yn canolbwyntio’n arbennig ar y tair problem fwyaf cyffredin:
- yr isadeiledd (ceginau ac ystafelloedd bwyta) ar gyfer cynnig prydau ysgol am ddim i nifer uwch o blant
- y broblem o ran sicrhau bod digon o staff arlwyo ar gael i helpu neu gynnig oriau ychwanegol i’r staff presennol
- caffael bwyd maethlon
Mae Kevin Morgan yn annog cynaliadwyedd bwyd, ac mae wedi cyfrannu at adroddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru ar wneud cynaliadwyedd yn rhan o’r broses caffael bwyd: Prynu Bwyd Addas i’r Dyfodol.
Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
Mae CIPR yn gweithio mewn partneriaeth Rhanbarth Prifddinas Caerdydd i ddatblygu a darparu Cronfa Her. Pwrpas rhaglen Cronfa Her CCR yw creu cyfleoedd masnachol i gwmnïau, a wahoddir i gynnig atebion i heriau cymdeithasol mawr a nodir trwy broses gystadleuol gan gyrff cyhoeddus.
Bydd rhaglen £10 miliwn y Gronfa Her yn cael ei chynnal dros dair blynedd a hanner ac mae'n cynnwys darpariaeth o £2 miliwn ar gyfer gweithgareddau ymchwil, rheoli a gweithredol y fydd yn cael eu cynnal gan CIPR mewn partneriaeth â'r CCR.
Mae rhaglen y Gronfa Her yn cynnig cyfle i ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd lunio a datblygu menter cronfa her, gan ymgymryd ag ymchwil sylfaenol sy'n llywio datblygiad polisi ac arfer newydd wrth weithredu a chyflawni'r gronfa, wrth fewnbynnu i gymhwyso ymchwil yn ymarferol sy'n cyfrannu at arloesedd gwasanaethau cyhoeddus.
Mae hyn yn adeiladu ar waith blaenorol cyd-gynllunwyr CIPR ac yn rhagweld cyfleoedd yn y dyfodol gan fod cronfeydd her yn dod yn rhan gynyddol o ddulliau polisi o ddatblygu economaidd ac arloesi.
Arloesi Gwasanaethau Cyhoeddus y Dyfodol (Infuse)
Rhaglen arloesi ac ymchwil yw Infuse sydd wedi'i chynllunio i feithrin sgiliau a gallu ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus ar draws Rhanbarth Prifddinas Caerdydd.
Wedi'i ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Swyddfa Ariannu Ewropeaidd Cymru, mae Infuse yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd, Y Lab, Nesta, Swyddfa Bargen Rhanbarth Prifddinas Caerdydd a'r deg awdurdod lleol sy'n rhan o'r rhanbarth.
Caiff y rhaglen ei hadeiladu o amgylch cyfleoedd i fynd i'r afael â chwestiynau yn y byd real, wedi'u sbarduno gan yr heriau mwyaf sy'n wynebu'r rhanbarth.
Arloesedd i Bawb
Mae arloesedd sy'n canolbwyntio ar heriau ac arloesedd sy’n canolbwyntio ar genhadaeth a datblygiad economaidd yn dod yn feysydd pwysig ym maes polisi arloesedd, ond mae profiad ymarferol o’r rhain yn dal i fod yn brin.
Mae cyllid wedi’i roi i’r Ganolfan Ymchwil Polisi Arloesedd er mwyn lansio cyfres o weithdai Arloesedd i Bawb at ddibenion meithrin capasiti a gallu ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd o ran arloesedd sy’n canolbwyntio ar heriau, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth o sut y gall gwasanaethau cyhoeddus/elusennau/y trydydd sector elwa o wneud hyn.
MariNH3
Mae’r Ganolfan Ymchwil Polisi Arloesedd a'r Ysgol Beirianneg yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Nottingham ar brosiect newydd i ymchwilio i botensial amonia i gyflenwi a datgarboneiddio'r diwydiant llongau pellter hir a rhoi hwb i sector trenau pŵer y DU.
Nod prosiect MariNH3, sy’n werth £5.5 miliwn ac yn cael ei ariannu gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, yw datblygu technoleg peiriannau newydd a tharfol a fydd, un diwrnod, yn lleihau’r llygredd sy’n cael ei allyrru gan longau diesel heddiw.
Bydd y prosiect pum-mlynedd yn archwilio atebion sy’n seiliedig ar dechnoleg ôl-osod a all fynd i’r afael â phroblemau sy’n ymwneud ag effeithlonrwydd peiriannau, lleihau defnydd o ynni a lleihau llygredd.
Mae consortiwm MariNH3 yn credu'n gryf y bydd angen defnyddio cymysgedd o dechnolegau i ddatgarboneiddio llongau’n effeithiol, gan nad fydd yr un tanwydd neu dechnoleg yn ein helpu i gyflawni sero net. Fodd bynnag, mae disgwyl i amonia gwyrdd chwarae rhan allweddol yn yr ymdrechion i ddatgarboneiddio llongau.
Cwrdd â'r tîm
Staff academaidd
Yr Athro Gillian Bristow
Deon Ymchwil yn y Coleg Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, Athro Daearyddiaeth Economaidd
Staff cysylltiol
Yr Athro Tim Edwards
Deon a Phennaeth yr YsgolAthro Dadansoddi Trefniadaeth ac Arloesi
Dr Anna Galazka
Lecturer in Management, Employment and Organisation
Dr Marcus Gomes
Uwch Ddarlithydd mewn Astudiaethau Trefniadaeth a Chynaliadwyedd
Yr Athro Jonathan Gosling
Reader in Supply Chain Management, Deputy Head of Section for Innovation and Research
Dr Dylan Henderson
Darlithydd mewn Arloesi a Threfniadaeth
Dr Abid Mehmood
Uwch Ddarlithydd mewn Cynllunio Rhyngwladol a Chynaliadwyedd
Dr Daniel Prokop
Uwch Ddarlithydd mewn Daearyddiaeth Economaidd
Dr Toma Pustelnikovaite
Darlithydd mewn Rheoli, Cyflogaeth a Threfniadaeth
Dr Maki Umemura
Darllenydd mewn Rheolaeth Ryngwladol a Hanes Busnes
Cyhoeddiadau
- Henderson, D. , Morgan, K. and Delbridge, R. 2024. Putting missions in their place: micro missions and the role of universities in delivering challenge-led innovation. Regional Studies 58 (1), pp.208-219. (10.1080/00343404.2023.2176840)
- Crawley, A. , Delbridge, R. and Munday, M. 2020. Selling the region: The problems of a multi-agency approach in promoting regional economies. Regional Science Policy and Practice 12 (3), pp.397-412. (10.1111/rsp3.12268)
- Morgan, K. and Webb, B. 2020. Googling the city: in search of the public interest on Toronto's 'Smart' waterfront. Urban Planning 5 (1), pp.84-95. (10.17645/up.v5i1.2520)
- Coenen, L. and Morgan, K. 2020. Evolving geographies of innovation: existing paradigms, critiques and possible alternatives. Norsk Geografisk Tidsskrift / Norwegian Journal of Geography 74 (1), pp.13-24. (10.1080/00291951.2019.1692065)
- Soroka, A. et al. 2020. Measuring regional business resilience. Regional Studies 54 (6), pp.838-850. (10.1080/00343404.2019.1652893)
- Marques, P. et al., 2019. Spaces of novelty: can universities play a catalytic role in less developed regions?. Science and Public Policy 46 (5), pp.763-771. (10.1093/scipol/scz028)
- Waite, D. and Morgan, K. 2019. City deals in the polycentric state: The space and politics of Metrophilia in the UK. European Urban and Regional Studies 26 (4), pp.382-399. (10.1177/0969776418798678)
- Prokop, D. , Huggins, R. and Bristow, G. 2019. The survival of academic spinoff companies: An empircal study of key determinants. International Small Business Journal 37 (5), pp.502-535. (10.1177/0266242619833540)
- Morgan, K. and Marques, P. 2019. The public animateur: Mission-led innovation and the 'smart state' in Europe. Cambridge Journal of Regions, Economy and Society 12 (23), pp.179-193. (10.1093/cjres/rsz002)
- Webber, D. J. , Healy, A. and Bristow, G. 2018. Regional growth paths and resilience: A European analysis. Economic Geography 94 (4), pp.355-375. (10.1080/00130095.2017.1419057)
- Bristow, G. and Healy, A. 2018. Innovation and regional economic resilience: an exploratory analysis. Annals of Regional Science 60 , pp.265-284. (10.1007/s00168-017-0841-6)
- Morgan, K. , Munday, M. and Roberts, A. 2017. Local economic development opportunities from NHS spending: evidence from Wales. Urban Studies 54 (13), pp.3138-3156. (10.1177/0042098016658248)
- Morgan, K. 2017. Nurturing novelty: Regional innovation policy in the age of smart specialisation. Environment and Planning C: Government and Policy 35 (4), pp.569-583. (10.1177/0263774X16645106)
- Sensier, M. , Bristow, G. and Healy, A. 2016. Measuring regional economic resilience across Europe: operationalising a complex concept. Spatial Economic Analysis 11 (2), pp.128-151. (10.1080/17421772.2016.1129435)
- Morgan, K. J. 2016. Collective entrepreneurship: the Basque model of innovation. European Planning Studies 24 (8), pp.1544-1560. (10.1080/09654313.2016.1151483)
- Bristow, G. and Healy, A. 2015. Crisis response, choice and resilience: insights from complexity thinking. Cambridge Journal of Regions, Economy and Society 8 (2), pp.241-256. (10.1093/cjres/rsv002)
- Delbridge, R. and Edwards, T. J. 2013. Inhabiting institutions: Critical realist refinements to understanding institutional complexity and change. Organization Studies 34 (7), pp.927-947. (10.1177/0170840613483805)
- Mariotti, F. and Delbridge, R. 2012. Overcoming network overload and redundancy in interorganizational networks: the roles of potential and latent ties. Organization Science 23 (2), pp.511-528. (10.1287/orsc.1100.0634)
- Kasabov, E. and Delbridge, R. 2008. Innovation, embeddedness and policy: evidence from life sciences in three UK regions. Technology Analysis & Strategic Management 20 (2), pp.185-200. (10.1080/09537320801931671)
- Edwards, T. J. , Delbridge, R. and Munday, M. C. R. 2007. A critical assessment of the evaluation of EU Interventions for Innovation in the SME sector in Wales. Urban Studies 44 (12), pp.2429-2448. (10.1080/00420980701540960)
- Edwards, T. J. , Delbridge, R. and Munday, M. C. R. 2005. Understanding innovation in small and medium-sized enterprises: a process manifest. Technovation 25 (10), pp.1119-1127. (10.1016/j.technovation.2004.04.005)
Digwyddiadau
Cyfres o Weithdai Ecosystemau Entrepreneuraidd
I weld y gyfres fideo edrychwch ar y rhestr chwarae ar ein sianel YouTube.
Ymgysylltu
Dyfodol sgiliau yn rhan o’r pedwerydd chwyldro diwydiannol (Ysgol Haf Rithwir 2022)
Credir yn gyffredinol fod tarfu digidol yn trawsnewid pob agwedd ar yr economi a chymdeithas. Mae’r tarfu hwn i’w weld yn cael ei yrru gan ddatblygiadau ar draws meysydd rhyngddisgyblaethol, sy'n arwain at ddatblygiadau technolegol allweddol ym meysydd deallusrwydd artiffisial, roboteg, gweithgynhyrchu ychwanegion, bioleg synthetig, deunyddiau clyfar ac ati.
Diben y sesiwn hon yw archwilio gwahanol ddehongliadau o'r pedwerydd chwyldro diwydiannol a rôl technolegau digidol yn y gwaith o (ail-)lywio dyfodol gwaith, addysg a marchnadoedd llafur. Mae'r Athro Brown yn cyflwyno syniad o ‘brinder swyddi’ yn hytrach na ‘phrinder llafur’, nad yw'n dynodi diwedd gwaith ond yn hytrach yr angen i ailasesu polisïau cyhoeddus presennol yn drylwyr.
Arloesi ym maes caffael a rheoli'r gadwyn gyflenwi (Ysgol Haf Rithwir 2022)
'Arloesi yw'r safon newydd’ – mae sôn am arloesi ym mron pob dogfen strategaeth neu ddatganiad o werthoedd, fel petai. Os ydych yn weithiwr caffael proffesiynol neu’n gyflenwr, beth mae arloesi’n ei olygu i chi?
Yn ystod y sesiwn hon, bydd Jane ac Oishee yn amlinellu rhai o’r pethau sy’n galluogi neu’n rhwystro arloesi yng Nghymru.
Arwain meddyliau
Mewn cyfweliad â Business News Wales, trafododd yr Athro Rick Delbridge y ffocws wedi'i ailfywiogi ar arloesi yng Nghymru ac yn rhan o fentrau Ymchwil a Datblygu'r DU.
Er mwyn cyfrannu at y dadleuon hyn, aeth y Ganolfan Ymchwil Polisi Arloesedd ati’n ddiweddar i adolygu'r polisi arloesedd cyfredol yng Nghymru. Gwnaeth hyn ddatgelu awydd am agenda arloesi mwy uchelgeisiol a chynhwysol. Beth mae'r datblygiadau hyn yn ei olygu i Gymru a sut mae Prifysgol Caerdydd yn ymateb i'r rhain?
Ysgolion
Camau nesaf
Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth
Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.
Ymchwil ôl-raddedig
Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.
Ein heffaith ymchwil
Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.