Ewch i’r prif gynnwys

Mae'r Ganolfan Astudiaethau Modern Cynnar yn adeiladu ar draddodiad hir ym Mhrifysgol Caerdydd o ymchwil ryngddisgyblaethol sy’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol i’r cyfnod rhwng diwedd y pymthegfed ganrif a’r deunawfed ganrif.

Mae’r ganolfan yn cysylltu'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd a'r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, gan greu amgylchedd rhyngddisgyblaethol a thrawsddisgyblaethol cyfoethog yn fwriadol.

Mae CEMS wedi'i lleoli mewn cenedl swyddogol ddwyieithog sy’n falch o fod yn amlddiwylliannol, ac mae’n gwneud ymchwil sy'n arwain y byd i ystod eang o bynciau, gan gysylltu safbwyntiau lleol,  rhanbarthol a byd-eang yng nghyd-destun modernedd cynnar.

Mae’r ganolfan yn canolbwyntio ar oes cyn ffiniau cenedlaethol modern ac ymerodraethau, gan ymdrin â daearyddiaeth eang a herio cenedlaetholdebau a hunaniaethau diweddarach drwy ddefnyddio sawl iaith, methodoleg a dull o gydweithredu. Mae arbenigeddau pwnc yn cynnwys:

  • bwyd, iechyd a meddygaeth
  • teithio, mudo a symudedd (dynol ac annynol)
  • creu mapiau, daearyddiaeth ac astudiaethau gofodol
  • dulliau o ymdrin â chrefydd a goddefgarwch
  • ffinioldeb a pherifferïau
  • astudiaethau llenyddol a chyfieithu
  • Cymru yn y byd modern cynnar

Mae creu mannau rhyngddisgyblaethol i ddatblygu dulliau newydd o drin testunau, gwrthrychau, ieithoedd, diwylliannau a materoldebau modern cynnar yn ganolog i holl weithgareddau’r ganolfan.

Gan mai ni yw’r unig ganolfan o'i math yng Nghymru, ein nod yw bod yn ganolbwynt ar gyfer ysgolheictod modern cynnar ledled y wlad ac arddangos yr ymchwil wych sy'n cael ei gwneud yma.

Rydyn ni’n cynnal cysylltiadau pwysig ag ystod eang o sefydliadau treftadaeth a diwylliant, yn enwedig Amgueddfa Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, National Theatre Wales, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cadw, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a llawer o rai eraill.

Rydyn ni’n cefnogi ymchwil ôl-raddedig ryngddisgyblaethol ar lefel MA a PhD ac yn ceisio sicrhau bod y ganolfan yn enghraifft o gynwysoldeb ac amrywiaeth i ymchwilwyr o bob cefndir, ni waeth ble maen nhw arni yn eu gyrfaoedd.

Pobl

Cyfarwyddwr

Picture of Melanie Bigold

Dr Melanie Bigold

Darllenydd mewn Llenyddiaeth

Telephone
+44 29208 75409
Email
BigoldM@caerdydd.ac.uk
Picture of Mark Williams

Dr Mark Williams

Darllenydd mewn Hanes Modern Cynnar

Telephone
+44 29208 70403
Email
WilliamsM64@caerdydd.ac.uk

Staff academaidd

Picture of Lloyd Bowen

Yr Athro Lloyd Bowen

Athro Hanes Modern Cynnar

Telephone
+44 29208 76284
Email
BowenL@caerdydd.ac.uk
Picture of Emily Cock

Dr Emily Cock

Uwch Ddarlithydd mewn Hanes Modern Cynnar

Telephone
+44 29208 76104
Email
CockE@caerdydd.ac.uk
Picture of Rachel Herrmann

Dr Rachel Herrmann

Uwch Ddarlithydd mewn Hanes Modern Americanaidd

Telephone
+44 29208 75647
Email
HerrmannR@caerdydd.ac.uk
Picture of Jasmine Kilburn-Toppin

Dr Jasmine Kilburn-Toppin

Darlithydd mewn Hanes Modern Cynnar

Telephone
+44 29208 70414
Email
Kilburn-ToppinJ@caerdydd.ac.uk
Picture of Marion Loeffler

Dr Marion Loeffler

Darllenydd mewn Hanes a Hanes Cymru a SHARE Cyfarwyddwr Astudiaethau Israddedigion

Telephone
+44 29 2251 4964
Email
LoefflerM@caerdydd.ac.uk
Picture of Jan Machielsen

Dr Jan Machielsen

Darllenydd mewn Hanes Modern Cynnar, Cyfarwyddwr Ymchwil

Email
MachielsenJ@caerdydd.ac.uk
Picture of Ashley Walsh

Dr Ashley Walsh

Uwch Ddarlithydd mewn Hanes Modern Cynnar

Telephone
+44 29208 79731
Email
WalshA6@caerdydd.ac.uk