Mae'r maes Gwyddoniaeth Ryngwynebol a Chatalysis yn canolbwyntio ar y pynciau diweddaraf, sy'n bwysig yn academaidd ac sy'n berthnasol ac yn arwyddocaol i'r byd modern.
Mae gennym ffocws cryf ar gatalysis heterogenaidd, a chennym hefyd gwmpas eang yn ei gylch, gan astudio catalysis homogenaidd ac ensymatig. Technoleg alluogi allweddol yw catalysis sy'n effeithio’n eang ar ein bywydau i gyd ar sawl lefel. Drwy gyfoethogi ein dealltwriaeth sylfaenol o gatalysis a phrosesau ar yr arwyneb, bydd yn caniatáu inni reoli a gwella nifer fawr o adweithiau cemegol hanfodol.
Caiff y gweithgareddau ymchwil hyn eu cefnogi gan offer a chyfleusterau helaeth o'r radd flaenaf, a hynny drwy gydweithrediadau byd-eang â’r byd diwydiant, sefydliadau ymchwil a phrifysgolion eraill. Mae Sefydliad Catalysis Caerdydd, sydd wedi'i ymgorffori'n llawn yn yr Ysgol, yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol yn Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer ymchwil catalysis, ac mae'n un o nifer o Sefydliadau Ymchwil y Brifysgol.
Mae'r fideo hwn yn dangos sut rydym yn gweithio ar y cyd â’n partneriaid yn y diwydiant i ddatblygu ceisiadau newydd ar gyfer ymchwil i gatalysis.
Ymchwil
Caiff yr Ysgol ei chydnabod am ei hymchwil o fri ym maes catalysis heterogenaidd, ynghyd â’i phresenoldeb amlwg ym maes gwyddoniaeth nano a rhyngwynebol. Mae’r grŵp yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol am ei waith blaenllaw yn y meysydd hyn. Ymhlith yr ymchwil a wneir mae ymdrin â synthesis a phriodweddau ardaloedd arwyneb uchel, deunyddiau powdr, sydd o bwys uniongyrchol yn y diwydiant, a’r gwaith mwy sylfaenol o ymdrin â strwythur yr arwyneb, a chynhyrchu a delweddu uwch-nanoronynnau. Mae gwaith y grŵp yn allweddol wrth ddatrys heriau ym meysydd allweddol, megis ynni, dal carbon, gweithgynhyrchu cynaliadwy a'r amgylchedd.
- Yn arwain y gad mewn astudiaethau sy’n ymdrin ag aur heterogenaidd a chatalyddion nanogronynnol metel eraill. Yn ymchwilio i'w rhyngweithio â chynhaliadau cryf, a'u haddasrwydd ar gyfer ystod eang o adweithiau pwysig ym myd diwydiant a'r amgylchedd.
- Synthesis o fathau newydd o gatalyddion at ddibenion diogelu'r amgylchedd ac er gostyngiad mewn llygredd ar gyfer cerbydau symudol a cheisiadau llonydd.
- Defnyddio golau’r haul ar gyfer cynhyrchu tanwydd glân (hydrogen) a thrawsnewidiad carbon deuocsid.
- Catalyddion newydd ar gyfer trawsnewid moleciwlau cynaliadwy bio-ddeilliadol.
- Llwybrau glân newydd i foleciwlau organig ocsigenedig drwy ocsideiddio dethol.
- Astudiaethau in situ o gatalyddion.
- Delweddu datrysynnau atomig o strwythur nanoronynnau ac arwynebau.
- Paratoad dan reolaeth o nanoronynnau catalytig a deall eu rhyngweithio ag arwynebau.
- Strategaethau newydd a chynaliadwy ar gyfer synthesis catalydd.
- Astudiaethau modelu moleciwlaidd i ddeall mecanweithiau catalytig.
Rydym ni hefyd yn gwneud ymchwil arwyddocaol i gatalysis ensymatig a chatalysis unffurf, ac mae mwy o fanylion i'w gweld ar dudalennau'r grŵp Cemeg Fiolegol a Synthesis Moleciwlaidd.
Cewch hyd i ragor o fanylion am aelodau o’r grŵp a’u diddordebau ymchwil drwy edrych ar eu proffiliau unigol o dan y tab Pobl.
Cwrdd â’r tîm
Arweinydd Grŵp
Yr Athro Duncan Wass
Director of the Cardiff Catalysis Institute
Staff academaidd
Yr Athro Richard Catlow
Athro Cemeg Catalytig a Chyfrifiadurol
Dr Jennifer Edwards
Darllenydd mewn Cemeg Gorfforol a Chyfarwyddwr ED&I
Dr Sankar Meenakshisundaram
Uwch Ddarlithydd mewn Cemeg Gorfforol
Dr Alberto Roldan Martinez
Uwch Ddarlithydd mewn Cemeg Catalytig a Chyfrifiadurol
Yr Athro Stuart Taylor
Athro Cemeg Gorfforol a Chyfarwyddwr Ymchwil
Yr Athro David Willock
Athro Cemeg Gyfrifiadurol a Ffisegol
Camau nesaf
Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth
Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.
Ymchwil ôl-raddedig
Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.
Ein heffaith ymchwil
Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.