Ewch i’r prif gynnwys

Grŵp Ymchwil Cyllid Cynaliadwy Caerdydd

Ein nod yw bod yn sefydliad ffiniol mewn arena ryngwladol sy'n meithrin amgylchedd bywiog a chydweithredol ar gyfer ymchwil arloesol ac effeithiol ar gynaliadwyedd a chyllid.

Mae Banc y Byd (2021) yn diffinio ‘Cyllid Cynaliadwy’ fel “y broses o roi ystyriaeth ddyledus i ystyriaethau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu (ESG) wrth wneud penderfyniadau buddsoddi yn y sector ariannol, gan arwain at fuddsoddiadau mwy hirdymor mewn gweithgareddau a phrosiectau economaidd cynaliadwy.”

Mae Grŵp Ymchwil Cyllid Cynaliadwy Caerdydd yn gwahodd ysgolheigion sy’n gweithio ar wahanol feysydd cynaliadwyedd yn ogystal â chyllid ac yn hyrwyddo ymchwil cydweithredol a thrawsnewidiol i bontio’r bwlch rhwng meysydd eang yr astudiaethau hynny. Drwy wneud hynny, mae'r grŵp yn cymryd rhan mewn gweithgareddau academaidd sy'n cefnogi ethos 'Gwerth Cyhoeddus' Ysgol Busnes Caerdydd yn uniongyrchol.

Nodau

  • hwyluso ymchwil rhyngddisgyblaethol ar gynaliadwyedd a chyllid ar draws adrannau, ysgolion a phrifysgolion
  • cefnogi athroniaeth ‘Gwerth Cyhoeddus’ Ysgol Busnes Caerdydd drwy gysylltu aelodau’r grŵp â rhanddeiliaid allanol i roi gwybod iddynt am eu hymchwil ar gyllid cynaliadwy
  • hyrwyddo Ysgol Busnes Caerdydd fel un o’r canolfannau blaenllaw ar gyfer ymchwil ar gynaliadwyedd a chyllid
  • cefnogi ysgolheigion i gyflawni ymchwil o ansawdd uchel sy'n cael effaith sy'n cyfrannu at amrywiol feysydd pwnc cyllid cynaliadwy

Cwrdd â'r tîm

Cyfarwyddwr

Picture of Onur Tosun

Dr Onur Tosun

Uwch Ddarlithydd Cyllid

Telephone
+44 29208 74517
Email
TosunO@caerdydd.ac.uk

Staff academaidd

Picture of Susan Bartlett

Yr Athro Susan Bartlett

Head of Accounting and Finance, Reader in Accounting and Finance

Telephone
+44 29208 75193
Email
Bartlett@caerdydd.ac.uk
Picture of Mengyuan Chen

Dr Mengyuan Chen

Lecturer in Accounting and Finance

Email
ChenM12@caerdydd.ac.uk
Picture of Izidin El Kalak

Dr Izidin El Kalak

Uwch Ddarlithydd (Athro Cyswllt) mewn Cyllid

Telephone
+44 29208 74961
Email
ElKalakI@caerdydd.ac.uk
No picture for Dudley Gilder

Dr Dudley Gilder

Darlithydd mewn Cyfrifeg a Chyllid

Telephone
+44 29208 75561
Email
GilderD@caerdydd.ac.uk
Picture of Bo Guan

Dr Bo Guan

Darlithydd mewn Cyfrifeg a Chyllid

Telephone
+44 29225 11772
Email
GuanB1@caerdydd.ac.uk
Picture of Bilal Hafeez

Dr Bilal Hafeez

Darlithydd mewn Cyllid

Telephone
+44 29225 11875
Email
HafeezB2@caerdydd.ac.uk
Picture of Saeed Heravi

Yr Athro Saeed Heravi

Professor in Quantitative Methods

Telephone
+44 29208 75787
Email
HeraviS@caerdydd.ac.uk
Picture of Hao Li

Dr Hao Li

Darlithydd mewn Cyllid

Email
LiH86@caerdydd.ac.uk
Picture of Qian Li

Dr Qian Li

Darlithydd mewn Gweithrediadau Busnes Cynaliadwy

Telephone
+44 29208 79247
Email
LiQ50@caerdydd.ac.uk
Picture of Maryam Lotfi

Dr Maryam Lotfi

Uwch Ddarlithydd Rheoli Cadwyn Gyflenwi Cynaliadwy

Telephone
+44 29225 10877
Email
LotfiM@caerdydd.ac.uk
No picture for Asma Mobarek

Dr Asma Mobarek

Uwch Ddarlithydd mewn Economeg

Telephone
+44 29208 74256
Email
MobarekA@caerdydd.ac.uk
Picture of Peter Morgan

Yr Athro Peter Morgan

Reader in Quantitative Analysis

Telephone
+44 29208 75727
Email
MorganPH@caerdydd.ac.uk
Picture of Helen Mussell

Dr Helen Mussell

Darlithydd mewn Astudiaethau Sefydliadol
Cyfarwyddwr Dysgu Ar-lein

Telephone
+44 29206 88841
Email
MussellH@caerdydd.ac.uk
Picture of Hui Situ

Dr Hui Situ

Darlithydd mewn Cyfrifeg

Telephone
+44 29208 74271
Email
SituH1@caerdydd.ac.uk
Picture of Yizhi Wang

Dr Yizhi Wang

Darlithydd mewn Cyllid

Telephone
+44 29225 13227
Email
WangY510@caerdydd.ac.uk
Picture of Tina Xu

Dr Tina Xu

Lecturer in International Business and Management

Telephone
+44 29208 74417
Email
XuY63@caerdydd.ac.uk

Myfyrwyr Ôl-raddedig

Cyhoeddiadau

Digwyddiadau

Cynhadledd Cyllid Cynaliadwy 2024

Dyddiad y gynhadledd: 25 Hydref 2024

Mae Grŵp Ymchwil Cyllid Cynaliadwy Caerdydd (CSFRG), ar y cyd â’r Ganolfan Arloesedd Cyllid Cynaliadwy (SFiC) ym Mhrifysgol Birmingham, yn falch o gyhoeddi y bydd y Gynhadledd Cyllid Cynaliadwy yn cael ei chynnal ar 25 Hydref 2024 yn Ysgol Busnes Birmingham.

Nod y gynhadledd yw hwyluso trafodaethau helaeth ynghylch ymchwil flaengar ym maes cyllid cynaliadwy, a fydd yn cynnig cipolygon gwerthfawr yn ogystal â thrin a thrafod y cyfleoedd a’r heriau amlochrog sy’n gysylltiedig â datblygu cyllid cynaliadwy.

Rydyn ni’n gwahodd ymchwilwyr, ymarferwyr, a llunwyr polisïau i gyflwyno eu papurau ymchwil ac astudiaethau achos gwreiddiol sy'n cyfrannu at faes Cyllid Cynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • cyllid gwyrdd, credyd carbon, cyllid i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd
  • llywodraethu corfforaethol, cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol
  • amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant
  • defnyddio deallusrwydd artiffisial a dysgu peiriannol ym maes cyllid cynaliadwy
  • sefydliadau ariannol gwyrdd
  • rheoli risg, profi straen a’r heriau sy’n ynghlwm a chyllid gwyrdd/cynaliadwy/i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd
  • sut mae cryptoarian ac arian digidol yn rhyngweithio gyda chyllid gwyrdd / cynaliadwy / i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd
  • heintio a’r cysylltiadau rhwng offerynnau ariannol cynaliadwy ac offerynnau i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd
  • asedau gwyrdd/cynaliadwy/i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a phennu portffolio
  • risgiau amgylcheddol a pholisïau rheoleiddio

E-bostiwch gopi PDF o’ch papur neu grynodeb estynedig i CSFRG@caerdydd.ac.uk erbyn 15 Awst 2024. £100 yw’r ffi gofrestru (£50 i fyfyrwyr PhD) ac mae hyn yn cynnwys mynediad at y gynhadledd, holl ddeunyddiau’r gynhadledd, egwyliau coffi, cinio a’r cinio gala.

Amserlen Ddangosol

  • Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau: 15 Awst 2024
  • Penderfyniad ar ba bapurau fydd yn cael eu derbyn: 1 Medi 2024
  • Dyddiad cau ar gyfer cofrestru: 1 Hydref 2024

Prif siaradwr

Omrane Guedhami yw Athro C. Russell Hill ac Athro Cyllid Rhyngwladol yn Ysgol Busnes Darla Moore ym Mhrifysgol De Carolina. Mae diddordebau ymchwil Dr Guedhami yn rhyngwladol ac yn cwmpasu llywodraethu corfforaethol, ansawdd archwilio, gorfodi treth, cyfalafiaeth y wladwriaeth a phreifateiddio, diwylliant cenedlaethol, a chyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol. Mae wedi cyhoeddi dros 120 o erthyglau a adolygwyd gan gymheiriaid mewn cyfnodolion academaidd blaenllaw (Mae 42 o’i erthyglau wedi’i chyhoeddi mewn cyfnodolion a rhestrwyd yn Rhestr 50 Cyfnodolyn Gorau'r Financial Times).

Mae wedi derbyn nifer o ragoriaethau ymchwil a gwobrau mawreddog, gan gynnwys Gwobr CASE ar gyfer y Traethawd Hir Gorau ym maes Cyllid Rhyngwladol 2003, Gwobr Moskowitz am Fuddsoddi yn Gymdeithasol Gyfrifol 2011, Gwobr Dyfyniadau Rhagorol Emerald 2015 a Medal Arian Journal of International Business Studies (2019). Yn ddiweddar, cafodd ei enwi ym Mhrif Awdur Journal of Corporate Finance rhwng 1994 a 2018, ac ymhlith yr ysgolheigion gorau ym maes llywodraethu corfforaethol a diwylliant a chyllid.

Ar hyn o bryd mae'n Olygydd ar gyfer Contemporary Accounting Research, Journal of Business Ethics, Corporate Governance: An International Review, a Golygydd Ymgynghorol ar gyfer Journal of International Business Studies.

Cyflwyno papurau a Chofrestru

E-bostiwch gopi PDF o’ch papur neu grynodeb estynedig i CSFRG@caerdydd.ac.uk erbyn 15 Awst 2024. £100 yw’r ffi gofrestru (£50 i fyfyrwyr PhD) ac mae hyn yn cynnwys mynediad at y gynhadledd, holl ddeunyddiau’r gynhadledd, egwyliau coffi, cinio a’r cinio gala.

Cyfleoedd Cyhoeddi

Byddwn ni’n ymgynghori â’r Prif Olygydd ac yn gwahodd papurau cynhadledd dethol i'w cyflwyno i'r European Journal of Finance, International Review of Economics and Finance a’r Journal of Sustainable Finance & Investment.

Cadeiryddion y Gynhadledd

  • Yr Athro Hisham Farag – Ysgol Busnes Birmingham
  • Dr Onur Kemal Tosun – Ysgol Busnes Caerdydd

Pwyllgor y Rhaglen

  • Dr Santosh Koirala – Ysgol Busnes Birmingham
  • Dr Xiaofei Xang – Ysgol Busnes Birmingham
  • Dr Bilal Hafeez – Ysgol Busnes Caerdydd
  • Dr Bo Guan – Ysgol Busnes Caerdydd

Digwyddiadau blaenorol

DyddiadMath o Ddigwyddiad/LleoliadGwybodaeth
21 Mai 2024SeminarDr Jana Fidrmuc o Brifysgol Warwick  'Ymgyrchu gan gyfranddalwyr: Bendith neu felltith i Brif Weithredwyr presennol?
19 Mawrth 2024SeminarBydd Dr Danmo Lin, Prifysgol Warwick 'Goferu Cyllidol a’r risgiau amgylcheddol a chymdeithasol (ES) i Gost Benthyciadau Banc'
11 Mai 2023SeminarDr Bilal Hafeez, Prifysgol Caerdydd  'Manteisio ar y cyfle: Datguddio’r ansicrwydd o ran polisïau hinsawdd, a'r Unol Daleithiau yn tynnu'n ôl o Gytundeb Paris'

Cynhadledd Cyllid Cynaliadwy Caerdydd 2023

Cynhaliwyd y Gynhadledd Cyllid Cynaliadwy Ryngwladol gyntaf erioed gan Grŵp Ymchwil Cyllid Cynaliadwy Caerdydd (CSFRG) ddydd Gwener 10 Tachwedd 2023 yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Estynnodd yr Athro Peter Wells, y Rhag-Ddeon ar gyfer Gwerth Cyhoeddus, Ysgol Busnes Caerdydd, ei groeso i’r holl gynadleddwyr a fu’n bresennol yn y gynhadledd. Cafodd wyth papur o ansawdd uchel eu dewis, a chyflwynwyd y rhain gan gynadleddwyr o Brifysgol Ryngwladol San Steffan yn Tashkent, Prifysgol Newcastle, Prifysgol Caerfaddon, a Phrifysgol Caerdydd. Ymhlith themâu amrywiol y papurau y bu 'Perfformiad Amgylcheddol Corfforaethol a Risg Cwymp ym mhris stociau; Gollyngiadau Carbon yn y Gadwyn Gyflenwi; Gwerthoedd Personol y Prif Weithredwyr a Pherfformiad Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu (ESG); Arloesi Gwyrdd; Ansicrwydd Polisi Hinsawdd; Diraddio Amgylcheddol a'r Economi Ddigidol; Cyfrifo Difodiant ar gyfer Dad-ddifodiant ac Ail-wylltio; Mwg o Danau Gwyllt a Busnesau Lleol'.

Cafodd y prif gyflwyniad ei draddodi gan yr Athro Hisham Farag, Prifysgol Birmingham.

Yn dilyn sylwadau i gloi’r gynhadledd gan Dr. Onur Kemal Tosun, Cyfarwyddwr CSFRG, daeth y gynhadledd i ben gyda Chinio Gala.