Mae Rhwydwaith Ymchwil i’r Goruwchnaturiol Caerdydd yn rhwydwaith ymchwil rhyngddisgyblaethol cyffrous. Cafodd y rhwydwaith ei sefydlu yn 2024 i ddwyn ynghyd arbenigwyr sy’n ymchwilio i berthynas bodau dynol â ffenomenau annisgwyl ac annaturiol, o’r brawychus i’r aruchel, yn y gorffennol a’r presennol.
Ac yntau wedi'i leoli yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd a'r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, mae'r rhwydwaith yn cynnwys ysgolheigion o bob rhan o Brifysgol Caerdydd, Casgliadau Arbennig y Brifysgol, a'r Ganolfan Dysgu Gydol Oes.
Boed yn wyrthiau, creiriau a seintiau, neu wrachod, tylwyth teg a'r di-farw, mae'r rhwydwaith yn dod â myfyrwyr y goruwchnaturiol yn ei ffurfiau niferus at ei gilydd.
Mae’r rhwydwaith yn cynnwys aelodau sydd â diddordebau academaidd yn y canlynol:
- y goruwchnaturiol mewn hanes, llenyddiaeth, a ffilm
- archaeoleg y goruwchnaturiol a’r diwylliant materol yn ei gylch
- y goruwchnaturiol ar draws gwahanol traddodiadau crefyddol
- y gymdeithaseg a'r seicoleg sydd wrth wraidd systemau cred yn y goruwchnaturiol
- llywio honiadau o wirionedd ynghylch y goruwchnaturiol mewn cyfraith neu wleidyddiaeth
- profi neu herio honiadau o wirionedd ynghylch y goruwchnaturiol
Mae’r rhwydwaith yn meithrin cydweithio, rhannu syniadau, a mynd at wraidd agweddau diwylliannol, crefyddol, hanesyddol a chymdeithasol ar y goruwchnaturiol yn ei holl amrywiaeth.
Os hoffech chi ymuno â'n rhestr bostio i glywed am y digwyddiadau neu’r cyfleoedd sydd ar ddod, cysylltwch ag un o'n harweinwyr.
Pobl
Arwain
Dr Jan Machielsen
Darllenydd mewn Hanes Modern Cynnar, Cyfarwyddwr Ymchwil