Nod pen draw ein hymchwil yw deall metaboledd lipidau’n well a'r rôl weithredol y mae lipidau yn ei chwarae mewn diabetes, strôc, canser, arthritis, clefyd Alzheimer a chlefydau eraill sy'n seiliedig ar lipidau er mwyn hwyluso datblygiad triniaethau mwy effeithiol.
Mae Strategaeth Metabolitau a Llwybrau LIPIDAU (LIPID MAPS®) yn ymdrech aml-sefydliad a grëwyd yn 2003 i nodi a meintioli, gan ddefnyddio dull bioleg systemau a sbectromedrau màs soffistigedig, yr holl rywogaethau lipidau mawr - a llawer o’r mân rywogaethau - mewn celloedd mamaliaid, yn ogystal á meintioli'r newidiadau yn y rhywogaethau hyn mewn ymateb i aflonyddiad.
Ers ein sefydlu, rydym wedi cymryd camau breision tuag at ddiffinio'r "lipidome" (rhestr o'r miloedd o rywogaethau moleciwlaidd lipidau unigol) ym macroffag y llygoden. Rydym hefyd wedi gweithio i wneud dadansoddi lipidau yn haws ac yn fwy hygyrch i'r gymuned wyddonol ehangach ac i ddatblygu seilwaith ymchwil cadarn ar gyfer y gymuned ymchwil ryngwladol.
Rydym yn rhannu canfyddiadau a dulliau lipidomeg newydd, yn cynnal cyfarfodydd blynyddol sy'n agored i bob ymchwilydd â diddordeb, ac yn archwilio ymdrechion ar y cyd i ehangu'r defnydd o'r dulliau newydd pwerus hyn i gymhwysiad newydd.
Mae ein labordy yn gartref i ddau offeryn AB Sciex Q-Trap (4000, 6500) a ThermoFisher Orbitrap Elite, sydd ar gael ar gyfer astudiaethau cydweithredol am gost isel.
Ymchwil
Rhennir yr ymchwil yn ddau brif gam.
Eicosanoidau esteredig mewn imiwnedd cynhenid
Darganfuom sawl teulu o lipidau newydd sy'n cael eu cynhyrchu trwy actifadu aciwt gan gelloedd imiwnedd cynhenid. Maent yn arddangos bioweithgareddau amrywiol gan gynnwys hyrwyddo ceulo a rheoleiddio ymatebion gwrth-bacteriol lewkosytau. Ein rhagdybiaeth yw eu bod yn chwarae rhan ffisiolegol mewn ymatebion clwyfo, ond gallai eu camreoleiddio gyfrannu at thrombosis gwythiennol ac atherosglerosis. Mae astudiaethau cyfredol a arweinir gan y grŵp yn canolbwyntio ar ddeall eu swyddogaeth mewn iechyd ac afiechyd
Darganfod cyfryngwyr lipidau newydd gan ddefnyddio LC/MS/MS cydraniad uchel a dulliau biowybodeg
Rydym yn datblygu dulliau newydd i alluogi darganfod dosbarthiadau lipidau ychwanegol sydd o bwys ar gyfer iechyd ac afiechyd. Yn fras, rydym yn amcangyfrif nad yw cyfran fawr o lipidau presennol mewn celloedd mamalaidd wedi'u nodweddu’n adeileddol hyd yn hyn. Mae llawer o ddarganfyddiadau allweddol yn dal i gael eu gwneud ynghylch y dosbarth biomoleciwlau mewndarddol pwysig hwn.
Cyllid
- Rhaglen Ymddiriedolaeth Wellcome (£1.3m grant) i gynnal y gronfa ddata lipidau mwyaf yn y byd ac adnoddau cysylltiedig. Bydd y grant newydd, a ddyfarnwyd gan Ymddiriedolaeth Wellcome, yn galluogi Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau Prifysgol Caerdydd, Sefydliad Babraham, Caergrawnt; a Phrifysgol California San Diego (UCSD), i barhau â'r gwaith pwysig o amlygu a dadansoddi lipidau. Dyma'r moleciwlau y mae ein cyrff yn eu defnyddio i reoleiddio prosesau arferol megis gwaed yn ceulo, ymladd heintiau a datblygu.
- Rhaglen Ymddiriedolaeth Wellcome (£1.2M, 2011-2016): Ei nod yw deall bioleg celloedd a bioffiseg y lipidau ac asesu eu rôl mewn thrombosis gwythiennol mewn astudiaeth glinigol.
- Rhaglen Sefydliad Prydeinig y Galon (£820K, 2012-2017): Ei nod yw asesu rôl y lipidau newydd yn natblygiad atherosglerosis mewn modelau llygoden.
- Grant Ymchwil y Cyngor Ymchwil Feddygol (£820K, 2015-2019): Ei nod yw asesu rôl y lipidau mewn ffisioleg croen arferol ac ymatebion clwyfau in vivo.
- Gwobr Gwella Ymddiriedolaeth Wellcome (£120K, 2014-2016): Ei nod yw datblygu dulliau synthesis cyflawn ar gyfer cynhyrchu lipidau newydd ar gyfer astudiaethau biolegol.
- Grant Uwch y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd (€2.9M, 2014-2019). Datblygu dull cydraniad uchel o'r enw LipidArrays a fydd yn galluogi nodweddu amrywiaeth a nifer y lipidau mewn samplau biolegol. Rydym yn canolbwyntio'n arbennig ar ddatblygiad celloedd, clefyd cardiofasgwlaidd a dementia yn yr astudiaeth hon. Mae datblygiad dulliau sylweddol wedi cynnwys datblygu meddalwedd newydd ar y cyd â'r Ysgol Cyfrifiadura a Gwybodeg.
Cyfleuster craidd
Cyhoeddiadau
- Friedmann Angeli, J. P. et al., 2014. Inactivation of the ferroptosis regulator Gpx4 triggers acute renal failure in mice. Nature Cell Biology 16 , pp.1180-1191. (10.1038/ncb3064)
- Rosas, M. et al. 2014. The transcription factor Gata6 links tissue macrophage phenotype and proliferative renewal. Science 344 (6184), pp.645-648. (10.1126/science.1251414)
- Fielding, C. A. et al. 2014. Interleukin-6 signaling drives fibrosis in unresolved inflammation. Immunity 40 (1), pp.40-50. (10.1016/j.immuni.2013.10.022)
- O'Donnell, V. , Murphy, R. C. and Watson, S. P. 2014. Platelet lipidomics: modern day perspective on lipid discovery and characterization in platelets. Circulation Research 114 (7), pp.1185-1203. (10.1161/CIRCRESAHA.114.301597)
- Thomas, C. P. et al. 2014. Identification and quantification of aminophospholipid molecular species on the surface of apoptotic and activated cells. Nature Protocols 9 (1), pp.51-63. (10.1038/nprot.2013.163)
- Aldrovandi, M. et al. 2013. Human platelets generate phospholipid-esterified prostaglandins via cyclooxygenase-1 that are inhibited by low dose aspirin supplementation. Journal of Lipid Research 54 (11), pp.3085-3097. (10.1194/jlr.M041533)
Ysgolion
Delweddau
Camau nesaf
Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth
Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.
Ymchwil ôl-raddedig
Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.
Ein heffaith ymchwil
Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.