Fel arfer, mae systemau cyfrifiadurol deallus sy’n seiliedig ar Ddeallusrwydd Artiffisial yn dibynnu ar wybodaeth gefndir neu synnwyr cyffredin i ddod i gasgliadau priodol a chyflawni eu tasgau yn iawn.
Nod grŵp ymchwil Cynrychioli Gwybodaeth a Rhesymu Caerdydd ym Mhrifysgol Caerdydd yw datblygu dulliau newydd o gofnodi, modelu a meddwl yn rhesymegol am wybodaeth sydd wedi'i hamgodio ar ffurfiau symbolaidd neu is-symbolaidd.
Mae diddordeb arbennig gennym hefyd mewn ymchwil sy'n croesi ffiniau gwahanol feysydd sy’n perthyn i Ddeallusrwydd Artiffisial, gan gynnwys rhesymu niwro-symbolaidd, rhesymu synnwyr cyffredin a dysgu cynrychioliadau.
Nodau
Ein nod yw denu:
- mwy o israddedigion ac ôl-raddedigion i faes cyfrifiadura sy'n canolbwyntio ar bobl
- mwy o fyfyrwyr PhD (myfyrwyr wedi'u hariannu a myfyrwyr sy’n ariannu eu hunain)
- mwy o ymchwilwyr (ac academyddion) ôl-ddoethurol a rhai ar ddechrau eu gyrfaoedd
- mwy o gyllid gan Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI) a’r diwydiant
Ymchwil
Rydym yn cynnig arbenigedd mewn:
- systemau wedi'u gwella gan ontoleg
- graffiau gwybodaeth
- rhesymu amserol a thebygoliaethol
- rhesymu niwro-symbolaidd
- rhesymu nad yw'n fonotonig
- newid cred
- iaith naturiol dan reolaeth
- dewis cymdeithasol cyfrifiadurol
Prosiectau
Prosiectau diweddar a phrosiectau sy’n dal i fynd rhagddynt
Enw’r prosiect: Rhesymu Anghlasurol at ddibenion Technolegau Semantig Gwell sy'n seiliedig ar Ontoleg 2019-21
Prif ymchwilydd: Richard Booth, Ivan Varzinczak (Université d'Artois, Ffrainc)
Ariennir gan: Y Gymdeithas Frenhinol/CNRS
Enw’r prosiect: Fframwaith Meintiol sy’n Uno ar gyfer Dad-ddyblygu ac Atgyweirio Data mewn Systemau wedi’u Gwella gan Ontoleg 2020-2022
Prif ymchwilwyr: Víctor Gutiérrez-Basulto, Meghyn Bienvenu (CNRS, Prifysgol Labri Bordeaux)
Ariennir gan: Y Gymdeithas Frenhinol
Cwrdd â’r tîm
Cyhoeddiadau
- Booth, R. and Chandler, J. 2020. On strengthening the logic of iterated belief revision: proper ordinal interval operators. Artificial Intelligence 285 103289. (10.1016/j.artint.2020.103289)
- Chandler, J. and Booth, R. 2020. Revision by conditionals: from hook to arrow. Presented at: 17th International Conference on Principles of Knowledge Representation and Reasoning (KR 2020) Rhodes, Greece 12-18 September 2020.
- Gogacz, T. et al., 2020. On finite entailment of non-local queries in description logics. Presented at: 17th International Conference on Principles of Knowledge Representation and Reasoning (KR 2020) Rhodes, Greece 12-18 September 2020.
- Ibanez Garcia, Y. , Gutierrez Basulto, V. and Schockaert, S. 2020. Plausible reasoning about EL-Ontologies using concept interpolation. Presented at: 17th International Conference on Principles of Knowledge Representation and Reasoning (KR 2020) Rhodes, Greece 12-18 September 2020.
- Singleton, J. and Booth, R. 2020. An axiomatic approach to truth discovery. Presented at: Nineteenth International Conference on Autonomous Agents and Multi-Agent Systems Auckland, New Zealand 9-13 Mar 2020. , pp.-. (10.5555/3398761.3399058)
- Gutierrez Basulto, V. and Schockaert, S. 2018. From knowledge graph embedding to ontology embedding? An analysis of the compatibility between vector space representations and rules. Presented at: 16th International Conference on Principles of Knowledge Representation and Reasoning Tempe, Arizona 27 Oct - 2 Nov 2018.
- Dubois, D. , Prade, H. and Schockaert, S. 2017. Generalized possibilistic logic: foundations and applications to qualitative reasoning about uncertainty. Artificial Intelligence 252 , pp.139-174. (10.1016/j.artint.2017.08.001)
Ysgolion
Y camau nesaf
Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth
Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.
Ymchwil ôl-raddedig
Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.
Ein heffaith ymchwil
Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.