Rydym ni’n cyflawni gwaith ymchwil a gweithgareddau cyhoeddus ar wrthffasgiaeth a’r dde eithaf ar draws ystod o wahanol ddisgyblaethau.
Rhwydwaith ymchwil rhyngddisgyblaethol cychwynnol yw Ymchwil Ryngddisgyblaethol Caerdydd ar Wrthffasgiaeth a'r Dde Eithaf (CIRAF) sy'n dwyn ynghyd arbenigedd aelodau sy'n gweithio ar agweddau damcaniaethol ac empirig, hanesyddol a chyfoes ar yr asgell dde eithaf a'i gweithredoedd mewn gofodau ffisegol a digidol. Rydym hefyd yn astudio, a lle bo’n bosibl yn anelu at gynhyrchu tystiolaeth a dealltwriaeth ystyrlon ar gyfer y rhai sy’n herio’r dde eithaf mewn ffyrdd amrywiol.
Ar hyn o bryd mae’r rhwydwaith yn rhychwantu chwe ysgol yng Ngholeg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, yn amrywio o fyfyrwyr doethurol i athrawon, ac yn meithrin prosiectau a threfniadau cydweithio ar draws Prifysgol Caerdydd a’r tu hwnt.. Mae ein haelodau yn gwneud eu gwaith ymchwil ar ffiniau pynciau mor amrywiol â hanes, ieithyddiaeth, astudiaethau llenyddol, astudiaethau cyfryngau, daearyddiaeth ddynol, gwyddor gwleidyddiaeth, astudiaethau trefol ac athroniaeth.
Sefydlwyd CIRAF ddiwedd 2021 fel rhwydwaith mewnol ym Mhrifysgol Caerdydd. O 2023 ymlaen bydd y rhwydwaith yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau cyhoeddus, gan gynnwys seminarau ar-lein, symposiwm rhyngddisgyblaethol hybrid, ac ymgysylltu â chyfryngau cymdeithasol, i ehangu ein rhwydwaith a sefydlu presenoldeb cyhoeddus tymor hwy ar-lein ac all-lein y rhwydwaith. Wrth wneud hynny, mae ein cyfranogwyr yn adeiladu sylfeini ar gyfer gweithgareddau ymchwil rhyngddisgyblaethol yn y dyfodol yn y maes ymchwil amserol a phwysig hwn.
Amcanion
- deall natur ac effeithiau'r asgell dde eithaf a ffyrdd amrywiol o herio'r dde eithaf
- darparu llwyfan ar gyfer ymchwil ryngddisgyblaethol ar wrthffasgiaeth a'r dde eithaf
- meithrin capasiti ym Mhrifysgol Caerdydd ar draws ystod o ddisgyblaethau a chreu cyfleoedd ar gyfer cydweithredu a chyfnewid gwybodaeth
- cymryd rhan mewn gweithgareddau cyhoeddus y tu mewn a’r tu allan i Brifysgol Caerdydd
Digwyddiadau
Gwrthffasgiaeth Gwiar
12 Chwefror 2025
Mae Ivana Marjanović (hanesydd celf a churadur) yn sôn am ei llyfr QueerBeograd Cabaret, lle mae'n trin a thrafod cabaret gweithredaeth drawswladol yr ŵyl rhwng 2006 a 2008. Mae'n dangos sut gwnaeth cynnal cabaret QueerBeograd ddod â phobl gwiar, gwrth-fasgwyr a’r rhai o blaid ffiniau agored ynghyd, gan helpu i ehangu’r syniad o grostoriadedd i gynnwys mwy na hunaniaeth yn unig.
Mae Sébastien Tremblay (hanesydd ac ymchwilydd) yn trafod sut gwnaeth atgofion o sosialaeth genedlaethol ac arferion sy’n cofio gwrthffasgiaeth ddylanwadu ar wleidyddiaeth gwiar yng Ngorllewin yr Almaen ac yna'r Almaen unedig yn ail hanner yr ugeinfed ganrif. Yna, mae’n esbonio sut mae’r pwyslais hwn ar gofio’r gorffennol wedi arwain at fathau newydd o eithrio yn y gymuned gwiar heddiw.
Ymchwilio i’r Dde Eithaf a’i rhwydweithiau
17 Ebrill 2024
Yn yr ail ddigwyddiad yng nghyfres o seminarau Ymchwil Ryngddisgyblaethol Caerdydd ar Wrthffasgiaeth a’r Dde Eithaf (CIRAF) 2024, rydyn ni’n croesawu dau ysgolhaig ac ill dau’n cynnal ymchwil i mewn i 'ecosystem' gymhleth ar-lein y dde eithaf sy’n newid yn gyson.
Mae eu gwaith yn rhoi cipolwg inni ar y sianeli, y platfformau, a’r rhwydweithiau ar-lein sy’n cael eu defnyddio gan y dde eithaf, yn ogystal â dealltwriaeth hollbwysig ohonynt; sut mae'r cymunedau hyn wedi'u cyd-gysylltu; a beth sy'n sbarduno’r rheiny sy’n cymryd rhan ynddynt i ddefnyddio mannau ar-lein o’r fath.
Bydd Stephane Baele (UC Louvain) yn trin a thrafod i’r hyn y mae astudio 'ecosystemau' digidol eithafol yn ei olygu, a beth mae'r dull hwn yn ei gynnig nad yw safbwyntiau amgen yn ei wneud. Bydd Jonathan Collins (Prifysgol Charles a Leiden) yn ymchwilio i’r hyn sy'n digwydd pan fydd y dde eithaf yn creu cymuned rithwir sy'n torri’n rhydd oddi wrth lwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn y brif ffrwd.
Gwleidyddiaeth Wrth-ffasgaidd ym Mrasil
6 Mawrth 2024
Yn y digwyddiad cyntaf yng nghyfres o seminarau Ymchwil Ryngddisgyblaethol Caerdydd ar Wrthffasgiaeth a’r Dde Eithaf (CIRAF) 2024, bydd dau ysgolhaig ym maes gwleidyddiaeth Brasil yn ymuno â ni i drafod dau fath benodol o wrth-ffasgiaeth a ddatblygwyd yng nghysgod llywodraeth y dde eithaf o dan arweinyddiaeth Bolsonaro.
Bydd Susana Durão (UNICAMP) yn trafod ei hethnograffi ar fathau o wrth-ffasgaidd ymysg yr Heddlu ym Mrasil, a bydd Cara Snyder (Prifysgol Louisville) yn trin a thrafod mathau traws-ffeministaidd o wrth-ffasgaeth a fynegir drwy gariad pobl Brasil tuag at bêl-droed.
25 Ebrill 2023
Mae Ana Santamarina Guerrero (Prifysgol Glasgow) ac Ali Jones (Prifysgol Coventry) yn cyflwyno dwy astudiaeth o wrthffasgaeth ar waith sy'n tynnu sylw at wahanol repertoires a rhesymoldeb actifiaeth wrthffasgaidd mewn mannau ac amseroedd penodol.
Sut mae strategaethau a thactegau gwrthffasgaidd yn datblygu mewn perthynas â'u cyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol? Pryd a pham maen nhw'n newid, a beth yw'r goblygiadau? A beth all straeon o leoedd ac amseroedd penodol ein dysgu am wrthffasgiaeth mewn mannau ac amseroedd eraill, nawr ac yn y dyfodol?
Ecoffasgiaeth
14 Mawrth 2023
Aidan Tynan (Prifysgol Caerdydd) yn trafod “estheteg ecoffasgaidd”, gan ddefnyddio eco-ffasgiaeth fel modd i ddeall sut mae ffasgiaeth yn croestorri â gwleidyddiaeth hinsawdd, i archwilio sut dylem ni ymateb a beirniadu gwleidyddiaeth asgell dde eithaf sy’n darparu gweledigaethau esthetig, sy’n aml yn ymdebygu i rai amgylcheddaeth ryddfrydol brif ffrwd.
Matthew Varco (Prifysgol Manceinion) yn archwilio’r cydblethiad rhwng natur a hil yng nghyd-destun ‘cymuned arbrofol ariaidd’ a sefydlwyd y tu allan i Berlin ym 1909 gan y cymeriad gwrthsemitaidd Theodor Fritsch yn “Heimland: Race, renewal and organic utopia in völkisch settlement”.
Rhethreg wrth-ffeministaidd a'r dde eithaf
9 Mai 2022
Kate Barber (Prifysgol Caerdydd) yn archwilio rhethreg gwrth-ffeministaidd, yn enwedig o ran ail-fframio trais ac ymosodiadau rhywiol, yn Alt-Right News Narratives and Manosphere News Narratives.
Ysgrifennu a'r dde eithaf
9 Mawrth 2022
Mae Jason Roberts (Prifysgol Caerdydd) yn trafod sut mae cyfryngau asgell dde yn ail-gyd-destunoli deunydd o ffynonellau sy’n eu gwrthwynebu yn fodd i hybu eu hagenda eu hunain.
Günter Gassner (Prifysgol Caerdydd) yn archwilio ysgrifennu fel symudiad sydd wedi’i drefnu o amgylch ymrwymiad ar y cyd i fyd gwrth-ormesol, anhierarchaidd yn “Spiral movement: Writing with fascism and urban violence”.
Dulliau a'r dde eithaf
1 Rhagfyr 2021
Kat Williams (Prifysgol Caerdydd) yn archwilio “Interviewing the ‘unlovable’: On the challenges of conducting feminist research with the far right” Ant Ince (Prifysgol Caerdydd) yn siarad am “Deception and semi-covert methods in fieldwork: Ethical challenges and tentative opportunities for far right research practice”.
Staff academaidd
Staff cysylltiedig
Dr Kate Barber
k.s.barber@reading.ac.uk
Myfyrwyr ôl-radd
Erica Capecchi
CapecchiE@caerdydd.ac.uk