Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil Cerddoriaeth Ffrengig Caerdydd (CFMR)

Yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol am ei rhagoriaeth ymchwil mewn Cerddoriaeth Ffrengig y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif, mae Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd wedi sefydlu canolfan ar gyfer Ymchwil Cerddoriaeth Ffrengig (CFMR) i hyrwyddo astudio cerddoriaeth yn Ffrainc o’r ail ganrif ar bymtheg i’r unfed ganrif ar hugain.

Gan gofleidio ystod eang o gyfansoddwyr, repertories a chyd-destunau, mae diddordebau ymchwil yn cwmpasu'r cyfan o'r milieux cerddorol Ffrengig i adlewyrchu cosmopolitaniaeth a thrawswladoliaeth sefydledig y byd cerddorol Ffrangeg.

Mae ein hymagwedd yn eang a chynhwysol, ac yn ymgorffori safbwyntiau archifol, hanesyddol, beirniadol, dadansoddol a derbyniad yn ogystal ag ymchwil ymarfer perfformio, golygu cerddoriaeth a chroestoraethau ag astudiaethau llenyddol ac ethnogerddorol.

Nod CFMR yw meithrin cysylltiadau rhwng Prifysgol Caerdydd a sefydliadau allanol ac mae eisoes wedi cynnal symposia, sgyrsiau a chyngherddau mewn cydweithrediad â:

  • Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
  • BBC Proms, Cerddorfa Philharmonia
  • Opera Cenedlaethol Cymru
  • Coleg Cerdd Brenhinol y Gogledd
  • Conservatoire Paris (CNSMDP)
  • Institut Français
  • Cymdeithas Berlioz
  • Ffrainc: Musiques-Cultures 1789-1918

Rydym hefyd yn ceisio darparu fforwm i ysgolheigion rannu eu hymchwil trwy ddarlithoedd, diwrnodau astudio, symposia a chynadleddau rhyngwladol.

Rydym yn croesawu cynigion ar gyfer ymchwil PhD.

Amcanion

  • meithrin ymholiad cerddorol colegol ar y lefel ysgolheigaidd uchaf
  • gweithredu fel fforwm ar gyfer ymchwilio i gerddoriaeth Ffrengig a cherddoriaeth yn Ffrainc
  • gweithio gyda sefydliadau eraill i ddatblygu partneriaethau cydweithredol
  • cynnal sgyrsiau, symposia a chynadleddau rhyngwladol

Ymchwil

Mae ein hymchwil yn cynnwys y canlynol:

  • astudiaethau cyfansoddwyr Ffrengig (17eg-21 ain ganrif)
  • dadansoddiad ac ymchwiliad beirniadol i gerddoriaeth yn Ffrainc
  • braslun ac astudiaethau archifol
  • astudiaethau derbyn
  • rhyngweithio rhyngwladol a chyfnewid cerddorol
  • arfer perfformiad hanesyddol yn ymwneud â repertories Ffrengig
  • hunaniaethau cenedlaethol a thrawswladol Ffrengig
  • milieu diwylliannol Ffrainc: sefydliadau cerddorol gwleidyddiaeth, rhyfel, crefydd, propaganda ac ati
  • cysylltiadau rhyngddisgyblaethol ag opera, llenyddiaeth, bale, diwylliannau'r wasg, ac ati

Cwrdd â'r tîm

Staff academaidd

Picture of Rachel Moore

Dr Rachel Moore

Darlithydd mewn Cerddoriaeth

Telephone
+44 29208 75978
Email
MooreR19@caerdydd.ac.uk
Picture of Caroline Rae

Dr Caroline Rae

Darllenydd, Cyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig

Telephone
+44 29208 74391
Email
Rae@caerdydd.ac.uk

Staff cysylltiol

Picture of Kenneth Hamilton

Yr Athro Kenneth Hamilton

Uwch Ddeon y Brifysgol dros Bartneriaethau Rhyngwladol

Telephone
+44 29208 74380
Email
HamiltonK1@caerdydd.ac.uk

Delweddau

Camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.