Ewch i’r prif gynnwys

Mae technoleg ariannol (Fintech) yn cyfuno modelau busnes arloesol a thechnoleg gyfrifiadurol i wella gwasanaeth ariannol. Ers iddi ddod i'r amlwg, mae wedi newid tirwedd y byd ariannol yn sylweddol wrth ‘ddinistrio er mwyn creu’. Mae ei goblygiadau i'r economi hefyd yn sylweddol.

Er enghraifft, mae cynnydd sydyn cryptoarian (e.e. Bitcoin), sy'n cystadlu ag arian cyfred llywodraethau ac yn amharu ar y system dalu bresennol, yn peri heriau mawr i fanciau canolog a banciau masnachol.

Mae Grŵp Ymchwil Fintech Caerdydd (CFRG) yn cynnwys 13 o academyddion amser llawn ym Mhrifysgol Caerdydd ym meysydd cyllid, buddsoddiadau, dulliau meintiol a mathemateg ariannol. Mae ein Grŵp Ymchwil yn cwmpasu nifer o fyfyrwyr PhD sy'n cwblhau eu hymchwil doethurol mewn meysydd sy'n gysylltiedig â Fintech.

Ers ei sefydlu, mae CFRG wedi cymryd rhan mewn ymchwil arloesol a pherthnasol i'r diwydiant ac wedi darparu arbenigedd i'r sectorau cyhoeddus a phreifat yng Nghymru a thu hwnt. Drwy ei gysylltiadau â FinTech Wales, mae CFRG wedi bod yn rhan o sawl prosiect a menter i hyrwyddo arloesedd ac atebion Fintech yng Nghymru.

Cronfa Ddata Bitcoin Prifysgol Caerdydd neu CUBID - a grëwyd gan Dr Hossein Jahanshahloo - yw'r platfform cyntaf o'i fath i ganiatáu i ddefnyddwyr gyrchu data rhwydwaith Bitcoin strwythuredig heb sgiliau TG uwch.

Yng ngwanwyn 2020, ar y cyd â Fintech Wales, cynhaliodd CFRG y gynhadledd Fintech gyntaf yng Nghymru. Denodd nifer fawr o bobl i gymryd rhan ynddi, gan roi llwyfan i siaradwyr o'r llywodraeth, y byd academaidd a chwmnïau megis Microsoft. Gwyliwch ddigwyddiad AI for FinTech FinTech Wales ar YouTube.

Nodau

  • Hybu enw da Ysgol Busnes Caerdydd yn ganolfan genedlaethol a rhyngwladol ar gyfer ymchwil Fintech.
  • Hwyluso ymchwil Fintech ar draws disgyblaethau ymhlith aelodau'r grŵp ymchwil ac ar draws adrannau ac ysgolion.
  • Cymryd rhan mewn ymchwil arloesol a pherthnasol i'r diwydiant, a darparu arbenigedd i'r sectorau cyhoeddus a phreifat yng Nghymru a thu hwnt.

Ymchwil

Mae diddordebau ymchwil ein haelodau yn Fintech yn cynnwys:

  • Cryptoarian
  • Blockchain
  • Bancio (e.e. bancio digidol, bancio agored)
  • Yswiriant (insuretech)
  • Cyllid Personol (e.e. ymgynghorwyr artiffisial)
  • Taliadau (systemau talu digidol)
  • Benthyca (cyllido torfol, benthyca P2P, ac ati)
  • Marchnadoedd Cyfalaf (masnachu algorithmig ac amledd uchel)
  • Rheoli Cyfoeth
  • Dysgu Peirianyddol a Deallusrwydd Artiffisial (AI)
  • Dadansoddi Testun â chymorth cyfrifiadur

Cyhoeddiadau

Digwyddiadau

Ail Gynhadledd Ryngwladol Fintech Caerdydd - Galwad am Bapurau

Mae Grŵp Ymchwil Fintech Caerdydd (CFRG) yn falch o gyhoeddi ei Hail Gynhadledd Technoleg Ariannol (Fintech) Ryngwladol a gynhelir yn Ysgol Busnes Caerdydd ddydd Mercher 8 a Dydd Iau 9 Tachwedd 2023.

Digwyddiadau’r gorffennol

Cynhadledd Fintech Caerdydd 2022

Caerdydd 12 Hydref 2022

Mae Grŵp Ymchwil Fintech Caerdydd (CFRG) yn falch o gyhoeddi ei gynhadledd technoleg ariannol (Fintech) gyntaf a gynhelir yn Ysgol Busnes Caerdydd ddydd Mercher 12 Hydref 2022.

Amcan y gynhadledd hon yw trafod ymchwil Fintech arloesol sy'n cynnig cyfleoedd gwybodaeth a dealltwriaeth am yr heriau ar gyfer datblygu Fintech. Bydd y gynhadledd yn cynnwys nifer fach o bapurau o ansawdd uchel er mwyn cael cyflwyniadau a thrafodaethau manwl. Bydd y gynhadledd hefyd yn cynnwys sesiwn i ymarferwyr.

Rydym yn croesawu cyflwyniadau o bob maes technoleg ariannol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ddata mawr, Blockchain a chryptoarian, dadansoddi testun â chymorth cyfrifiadur, cyllido torfol, bancio digidol, rheoli cyfoeth digidol, dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial (AI). Mae croeso i chi gyflwyno papurau damcaniaethol ac empirig.

Prif Siaradwyr

Yr Athro Lin William Cong yw Athro Rheoli Teulu Rudd yn Ysgol Reoli Johnson i Raddedigion ym Mhrifysgol Cornell. Mae hefyd yn sylfaenydd-gyfarwyddwr cyfadran Menter FinTech ym Mhrifysgol Cornell, ac yn gydymaith ymchwil yn NBER. Mae'r Athro Cong yn olygydd adran gyllid y cyfnodolyn Management Science, golygydd cyswllt Journal of Financial Intermediation, Journal of Corporate Finance, a’r Journal of Banking and Finance.

Mae'r Athro Brian Lucey yn Athro Cyllid yn Ysgol Busnes y Drindod, Coleg y Drindod Dulyn, ac yn brif olygydd y cyfnodolyn International Review of Financial Analysis ymhlith gwahanol rolau golygyddol blaenorol a chyfredol eraill. Mae'r Athro Lucey wedi cyhoeddi'n helaeth ar ystod eang o bynciau cyllid gan gynnwys cryptoarian, nwyddau a chyllid cynaliadwy, a chaiff ei ddyfynnu’n rheolaidd yn y cyfryngau.

Cysylltiadau Cyfnodolion

Mae croeso i gyflwynwyr yn y gweithdy gyfrannu at rifyn arbennig y cyfnodolyn European Journal of Finance o'r enw "Fintech and Risk". Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 1 Tachwedd 2022. Y golygyddion gwadd ar gyfer y rhifyn arbennig yw Steve Yang (Sefydliad Technoleg Stevens, UDA), Arman Eshraghi (Caerdydd, y DU) a Maggie Chen (Caerdydd, y DU).

Hefyd mae’n bosibl y caiff papurau cynhadledd dethol eu dewis i'w cyflwyno i'r cyfnodolion canlynol:

  • Finance Research Letters
  • Global Finance Journal
  • International Review of Economics and Finance
  • International Review of Financial Analysis

Cadeiryddion y Gynhadledd

  • Arman Eshraghi, Ysgol Busnes Caerdydd
  • Qingwei Wang, Ysgol Busnes Caerdydd

Pwyllgor y Rhaglen

  • Hossein Jahanshahloo, Ysgol Busnes Caerdydd
  • Yingli Wang, Ysgol Busnes Caerdydd
  • Maggie Chen, Ysgol Mathemateg, Prifysgol Caerdydd
  • Anqi Liu, Ysgol Mathemateg, Prifysgol Caerdydd
  • Yuhua Li, Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, Prifysgol Caerdydd

Mae ein haelodau wedi cyfrannu at y digwyddiadau canlynol: