Canolfan Hanes Cymru Caerdydd
Nod Grŵp Ymchwil Hanes Cymru Prifysgol Caerdydd yw gwella ac ehangu ein dealltwriaeth o hanes Cymru a’r Cymry o’r cyfnod canoloesol i’r oes fodern.
Amdano Ni
Mae Canolfan Hanes Cymru’n dod â’r staff a myfyrwyr ôl-raddedig ynghyd i hyrwyddo a gwella ein dealltwriaeth o hanes Cymru a’r Cymry. Mae haneswyr yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd yn arbenigo yn hanes canoloesol, hanes modern cynnar a hanes modern Cymru. Mae eu gwaith yn ymwneud â themâu gwleidyddiaeth a chrefydd, diwylliannau print a llenyddol, hunaniaeth genedlaethol a rhywedd.
Mae ein cymuned fywiog o ysgolheigion wedi ymrwymo i’r genhadaeth ddinesig a gwaith ymgysylltu ag ysgolion, sefydliadau treftadaeth, parciau cenedlaethol a grwpiau cymunedol. Mae Canolfan Hanes Cymru’n cynnal rhaglen o ddigwyddiadau ymchwil sy’n rhoi cyfle i drafod syniadau a chydweithio yn y Brifysgol a’r tu allan iddi.
Prosiectau Ymchwil
Dindshenchas y Cymry
Wedi ei ariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- Rebecca Thomas
- Marie-Luise Theuerkauf, Prifysgol Caer-grawnt
Gan ddefnyddio gwaith diweddar ar y Dindshenchas Gwyddelig fel fframwaith deongliadol, mae’r prosiect hwn yn archwilio strategaethau ar gyfer enwi ac egluro llefydd yn y Gymru ganoloesol.
Welfare, Conflict and Memory during and after the English Civil Wars 1642-1710
Wedi ei ariannu gan yr AHRC
- Lloyd Bowen
- Andrew Hopper (Rhydychen)
- David Appleby (Nottingham)
- Mark Stoyle (Southampton)
Prosiect i ddigido deisebau gan cyn-filwyr, gweddwon a phlant amddifad o Rhyfeloedd Cartref Prydain yr ail ganrif ar bymtheg.
Y Genhadaeth Ddinesig
Mae’n bleser gennym ni rannu ein gwaith ymchwil gyda chymdeithasau hanes lleol a sefydliadau eraill. Yn flaenorol, rydyn ni wedi gweithio gyda’r Gymdeithas Hanesyddol, Menter Caerdydd, Cymdeithas Hanes Mynwy, Ysgol Bro Sanan a Chymdeithas Hanes Merthyr Tudful.
Mae prosiectau cyfredol a diweddar yn cynnwys:
Darganfod Hanesion Lleol: Cyflwyno Hanes Cymru yn y Cwricwlwm Newydd i Gymru'
Wedi’i ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC)
- Stephanie Ward
- Lloyd Bowen
Nod y prosiect hwn yw datblygu partneriaethau a chreu adnoddau i gefnogi’r broses o addysgu hanes lleol mewn ysgolion cynradd yng Nghymru.
‘Cylchgrawn Hanes Cymru i Ddisgyblion / A Welsh History Magazine for School Pupils’
Wedi’i ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC)
- Rebecca Thomas
- Marion Löffler
Cydweithio rhwng Prifysgol Caerdydd ac ysgolion uwchradd lleol i ddatblygu adnodd ar gyfer dysgu hanes Cymru i Gyfnod Allweddol 3.
Digwyddiadau a gweithgareddau
Digwyddiadau blaenorol
Digwyddiad lansio ar gyfer Canolfan Hanes Cymru Caerdydd, 28 Mehefin 2024
Pleser yw cyhoeddi lansiad Canolfan Hanes Cymru Caerdydd, canolfan newydd wedi ei lleoli yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd.
Mae’r Ganolfan yn awyddus i ddod ag ysgolheigion o bob rhan o’r brifysgol sydd â diddordeb ymchwil a/neu addysgu yn hanes Cymru ynghyd, yn academyddion ac yn fyfyrwyr ôl-radd.
Cynhadledd Prifysgol Caerdydd ar Gymru’r Oesoedd Canol, 13-14 Ebrill 2024
Yn y gynhadledd arloesol hon a drefnwyd gan yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd ac Ysgol y Gymraeg, gyda chefnogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, bu siaradwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau (hanes, archaeoleg a llenyddiaeth yn eu plith) yn cyflwyno papurau ar yr ymchwil fwyaf diweddar i Gymru’r Oesoedd Canol.
Gweithdy’r Rhwydwaith Ymchwil Ôl-raddedig i Hanes Cymru, 13 Mawrth 2024
Gyda chefnogaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru, daeth y gweithdy hwn â myfyrwyr ôl-raddedig sy’n astudio hanes Cymru ynghyd am ddiwrnod o rannu canfyddiadau ymchwil a chael trafodaethau bywiog. Cafodd rhwydwaith ei sefydlu, ac mae’n bwriadu cyfarfod unwaith y flwyddyn mewn digwyddiad wyneb-yn-wyneb.
Y Cyfryngau
Rydym yn awyddus i rannu ein ymchwil gyda chynulleidfa eang ac yn croesawu ymholiadau gan y cyfryngau. Mae ymddangosiadau a sylw diweddar yn cynnwys:
- Union with David Olusoga
- BBC Two, Hydref 2023 - Lloyd Bowen
- The Long History of Bannau Brycheiniog
- The Conversation, Ebrill 2023 - Rebecca Thomas
Pobl
Cyd-gyfarwyddwyr
Dr Stephanie Ward
Uwch Ddarlithydd mewn Hanes Modern Cymru, Arweinydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant