A hithau wedi’i sefydlu yn 2019, mae Canolfan Astudiaethau Asiaidd, Caerdydd yn olynu’r Ganolfan Astudiaethau Crefydd yn Asia (2009).
Mae'n cynnig fforwm arloesol er dysg, rhwydweithiau ac arbenigedd rhyngddisgyblaethol clystyrog i ysgolheigion ym meysydd hanes, cymdeithas, gwleidyddiaeth, astudiaethau crefyddol, y clasuron ac archaeoleg yng nghyd-destun de Asia, dwyrain Asia a de-ddwyrain Asia.
Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd yw cartref y ganolfan . Yr Ysgol yw un ymhlith tair prifysgol arall yn y DU sy’n dwyn ynghyd disgyblaethau Archaeoleg a Chadwraeth, Astudiaethau Crefyddol, a Hanes Hynafol, Canoloesol, Modern, a Chyfoes.
Mae gan y Ganolfan gysylltiadau ag adrannau ac arbenigwyr ym maes Astudiaethau Asiaidd mewn pynciau ac ysgolion amrywiol ledled y brifysgol, gan gynnwys yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Ysgol Pensaernïaeth Cymru, yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol, Ysgol Ieithoedd Modern, Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth. Mae cymuned ysgolheigaidd y Ganolfan yn cynnwys unigolion ar bob cam o’u gyrfa, o fyfyrwyr graddedig i staff athrawol, gan gynnig canolbwynt at ddibenion meithrin rhwydweithiau a rhannu canfyddiadau ymchwil ym maes Asia yn ehangach.
Yr egwyddorion craidd sydd wrth wraidd y Ganolfan yw cynwysoldeb ac undod mewn amrywiaeth. Ei bwriad yw meithrin cysylltiadau cynaliadwy ac ystyrlon â'r cymunedau Asiaidd ar wasgar yng Nghymru a chymryd rhan mewn prosiectau ar y cyd ag amgueddfeydd lleol a sefydliadau cymunedol Asiaidd yng Nghymru.
O ran y nodau hyn, mae ein rhaglenni cenhadaeth ddinesig yn cynnig ymchwil ar sail tystiolaeth ar wybodaeth ynghylch cymunedau Asiaidd a phartneriaid allanol trwy gynadleddau, cyflwyniadau a gweithdai.