Ewch i’r prif gynnwys

Gan ganolbwyntio ar ystod o broblemau ar y rhyngwyneb rhwng cemeg, bioleg a meddygaeth, mae ein hymchwil o ddiddordeb a phwysigrwydd sylfaenol.

Mae'r Adran Cemeg Fiolegol yn canolbwyntio ar ystod o broblemau ar y rhyngwyneb rhwng cemeg, bioleg a meddygaeth. Mae'r astudiaethau hyn o ddiddordeb a phwysigrwydd sylfaenol, fel astudiaethau o gyplu symudiadau ensymau â chatalysis, a phethau sy’n fwy uniongyrchol berthnasol i gymdeithas, fel cynhyrchu cyffuriau newydd (asiantau gwrthficrobaidd, gwrthganser a gwrthlidiol), asiantau rheoli pla ac offer moleciwlaidd, yn seiliedig ar ein gwybodaeth gynyddol am y systemau hyn a'n cryfderau allweddol yn y meysydd hyn. Mae ymchwil mewn cemeg fiolegol yng Nghaerdydd yn ymdrin ag ystod amrywiol o themâu gan gynnwys catalysis ensymau a bioleg synthetig, trin rhyngweithiadau biofoleciwlaidd, sbectrosgopeg NMR a sbectrometreg màs fiofoleciwlaidd, a synthesis organig a chemeg feddyginiaethol.

Ymchwil

Mae’r grŵp Cemeg Fiolegol yn canolbwyntio ar broblemau ar y rhyngwyneb rhwng cemeg, bioleg, ffiseg, peirianneg a meddygaeth gyda chryfderau penodol mewn biocatalysis, ensymoleg fecanistig, cemeg fio-organig a bio-anorganig, bioleg synthetig, rhyngweithiadau biofoleciwlaidd, sbectrosgopeg NMR a sbectrometreg màs fiofoleciwlaidd, bioffotoneg ac optogeneteg, synthesis organig a chemeg feddyginiaethol.

Catalysis ensymau

Ein nodau ymchwil yw archwilio mecanweithiau adwaith ensymatig, egluro rôl dynameg protein ac effeithiau mecanyddol cwantwm mewn catalysis, a theilwra detholedd swbstrad at ddibenion cemeg synthetig.

Ymhlith y prosiectau cyfredol mae:

  • Ensymoleg biosynthesis terpenoid a dulliau bioleg synthetig ar gyfer ehangu'r gronfa o'r metabolion eilaidd hyn i gynnwys cyfansoddion newydd terpenoid-aidd gyda chymwysiadau fel cyffuriau ac asiantau amddiffyn cnydau
  • Ymchwiliadau arbrofol a damcaniaethol cyfun i rôl symudiadau protein a thwnelu hydrid mewn catalysis ensymau, gan ddefnyddio redyctas deuhydroffolad fel system fodel
  • Astudiaethau o ensymau sy'n ymwneud ag ymwrthedd gwrthfiotig neu a allai fod yn dargedau newydd ar gyfer gwrthfiotigau

Trin rhyngweithiadau biofoleciwlaidd gan gynnwys bioffotoneg ac optogeneteg

Ein nodau yw rheoli rhyngweithiadau rhwng biofoleciwlau trwy ysgogi cyfnewidiadau cydffurfiol gan ddefnyddio moleciwlau bach neu olau.

Ymhlith y prosiectau cyfredol mae:

  • Rheolaeth ffotonig o ryngweithiadau protein-protein i reoleiddio'r llwybr apoptotig mewn celloedd
  • Synthesis cemegol ac ensymatig fflafinau a'u hanalogau a chymhwyso'r cydffactorau hyn mewn ffotoswitshis protein ar gyfer bioleg synthetig
  • Rheoli rhyngweithiadau moleciwlau RNA mewn celloedd gan ddefnyddio peptidau ac analogau asid niwclëig
  • Ymchwilio i briodweddau imiwnogenig peptidau cylchol gyda chymwysiadau posibl mewn brechlynnau gwrth-ganser

Sbectrosgopeg NMR a sbectrometreg màs fiofoleciwlaidd

Mae gwaith NMR yn cael ei berfformio gan ddefnyddio ein sbectromedr NMR Bruker 600 MHz blaenllaw sydd â ffon rewi QCI cyseiniant pedwarplyg, yn ogystal â chyfleusterau NMR maes uchel cenedlaethol. Mae astudiaethau sbectrometreg màs yn elwa'n fawr o'n sbectromedr màs symudedd ïonau Synapt Waters.

Ymhlith y prosiectau cyfredol mae:

  • Ymchwiliadau NMR i strwythur a dynameg protein mewn ymateb i newidiadau amgylcheddol
  • Astudiaethau NMR o beptidau amyloid-beta (asiantau achosol Clefyd Alzheimer) mewn cymhlyg ag ïonau metel
  • Offer sbectrometreg màs ar gyfer egluro strwythur peptidau cylchol

Synthesis organig a chemeg feddyginiaethol

Mae llawer o sylw’r adran yn canolbwyntio ar synthesis cyfansoddion sydd â phriodweddau biolegol pwysig, sy'n ategu ein diddordebau mewn catalysis ensymau.

Ymhlith y prosiectau cyfredol mae:

  • Rhagflaenydd synthetig neu analogau canolradd ar gyfer synthasau terpen, i gynhyrchu amrywiaeth ehangach o gynnyrch (gan gynnwys analogau artemisinin newydd sy'n weithredol yn erbyn malaria) neu i archwilio mecanwaith yr adwaith
  • Datblygu atalyddion yr ensym calpain-1, targed posibl ar gyfer therapi gwrthlidiol mewn clefydau fel arthritis gwynegol
  • Astudiaethau o synthesis a biosynthesis gwrthfiotigau newydd

Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion am ddiddordebau ymchwil penodol aelodau’r grŵp drwy edrych ar eu proffiliau unigol o dan y tab Pobl.

Cwrdd â’r tîm

Arweinydd Grŵp

Staff academaidd

Picture of Rudolf Allemann

Yr Athro Rudolf Allemann

Rhag Is-Ganghellor, Rhyngwladol

Telephone
+44 29208 70219
Email
AllemannRK@caerdydd.ac.uk
Picture of Louis Luk

Dr Louis Luk

Uwch Ddarlithydd mewn Cemeg Fiolegol

Telephone
+44 29225 10161
Email
LukLY@caerdydd.ac.uk
Picture of Guto Rhys

Dr Guto Rhys

Darlithydd mewn Cemeg Fiolegol

Telephone
+44 29208 76002
Email
RhysG3@caerdydd.ac.uk
Picture of Michaela Serpi

Dr Michaela Serpi

Darlithydd mewn Cemeg Feddyginiaethol

Telephone
+44 29208 75571
Email
SerpiM5@caerdydd.ac.uk

Camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.