Iaith ac hunaniaeth
Caiff y ffordd y defnyddir iaith a sut y caiff hunaniaethau eu llunio ei archwilio'n fanwl ar draws nifer o'n Hysgolion academaidd.
Rydym yn trafod prosesu gwybyddol, rhyngweithio cymdeithasol, goslef, lexis a gramadeg, i ddeall ac ehangu ymchwil am ddysgu a cholli iaith.
Mae ein gwaith am ddisgwrs proffesiynol a chyhoeddus yn ein helpu i ddeall sut mae plant ac oedolion sy'n agored i newid o dan anfantais o fewn sefyllfaoedd cyfreithiol, a sut y mae modd defnyddio iaith er mwyn cyfathrebu â phobl sydd angen gofal dementia neu gancr.
Mae angen cymorth arbenigwyr arnom i addasu iaith i fod yn addas ar gyfer eu cleientiaid ond hefyd i gefnogi caffael iaith gwell; mae prosiect presennolo yn canfod problemau siarad dysgwyr Cymraeg a'r fyrdd i leddfu'r rhain.
Rydym hefyd yn trafod trefnu a pholisïau iaith. Mae prosiect ESRC yn ceisio canfod egwyddorion arferion gorau rheoleiddio swyddogol iaith a rôl Comisiynwyr Iaith yng Nghymru, Iwerddon a Canada.
Mae'r dealltwriaeth o sut mae pobol yn cyfathrebu'n amlieithog ar draws ieithoedd a diwylliannau amrywiol yn cael ei ehangu wrth i ni gymryd rhan mewn prosiect ymchwil traws-sefydliadol £2m AHRC - Translation and Translanguaging: Investigating Linguistic and Cultural Transformations in Superdiverse Wards in Four UK Cities.
Mae ystyried beth sy'n datblygu hunaniaeth genedlaethol ac unigol yn hanfodol i'n hymchwil. Rydym yn trafod cysyniadau am genedlaetholdeb, 'arwahanrwydd', effaith ymfudo ar hunaniaeth a sut mae celf, barddoniaeth a theatr yn newid ein cof diwylliannol o ddigwyddiadau'r gorffennol megis Rhyfel Sifil Sbaen a'r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae astudiaeth sy'n defnyddio theori ôl-drefedigaethol wrth ddadansoddi'r cymynroddion trawmatig yn Ne Asia ag arweiniodd at ddatblygiad rhwydwaith rhyngddisgyblaethol Adfer Amlddiwylliant.