Rhwydwaith Ymchwil Deunyddiau
Rydym yn gweithio ar draws disgyblaethau i astudio strwythur a phriodweddau deunyddiau sydd wedi’u creu a deunyddiau naturiol, sut rydym yn eu defnyddio ac yn teimladau amdanynt, a'r modd y maent yn llunio'r ffordd y gwelwn y byd.
Rydym yn dod ag ymchwilwyr ynghyd o bob rhan o'r brifysgol sydd â diddordeb ym mhob agwedd ar ddeunyddiau.
Rydym yn croesawu ymchwilwyr o bob cefndir sydd â diddordebau sy’n cynnwys:
- ffiseg
- cemeg
- cyfrifiannu
- priodweddau
- rhaglenni
- hanes
- cyd-destun cymdeithasol
Rydym yn astudio strwythur a phriodweddau deunyddiau sydd wedi’u creu a deunyddiau naturiol, sut rydym yn eu defnyddio ac yn teimladau amdanynt, a'r modd y maent yn llunio'r ffordd y gwelwn y byd.
Rydym yn astudio eu synthesis, nodweddion, priodweddau a'r modd y gellir eu cymhwyso, er mwyn deall deunyddiau sydd eisoes yn bodoli'n well, a datblygu deunyddiau gwell ar gyfer technolegau yn y dyfodol.
Nodau
- Dod ag ymchwilwyr ar draws y Brifysgol ynghyd i hyrwyddo cydweithio
- Datblygu ymchwil drawsddisgyblaethol newydd, gan bontio rhwng y celfyddydau, y gwyddorau a'r dyniaethau
- Hwyluso rhannu offer ac arbenigedd
- Hyrwyddo arbenigedd Prifysgol Caerdydd mewn deunyddiau a chryfhau cysylltiadau â diwydiant, llunwyr polisïau ac ymchwilwyr eraill
- Ymgysylltu â'r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill i hyrwyddo ymchwil i ddeunyddiau a chynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o ddeunyddiau
Pobl
Yr Athro Thomas Blenkinsop
Professor in Earth Science
- blenkinsopt@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 0232
Yr Athro Kenneth Harris
Distinguished Research Professor
- harriskdm@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 0133
Yr Athro Jean-Yves Maillard
Professor of Pharmaceutical Microbiology
- maillardj@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 9088
Dr Magdalini Theodoridou
Marie Skłodowska-Curie Research Fellow
- theodoridoum2@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6836