Labordy Mellt Morgan-Botti
Mae gennym rai o'r cyfleusterau gorau yn y byd i wneud profion ac ymchwil ym maes mellt, ynghyd â thîm o staff hynod brofiadol.
Mae Labordy Mellt Morgan-Botti (MBLL) yn cynnig ymchwil a phrofion at ddibenion deall a gwella gwyddoniaeth diogelu rhag mellt. Dyma’r unig labordy effeithiau uniongyrchol mellt mewn unrhyw brifysgol yn Ewrop, a dim ond dyrnaid o labordai o’r fath sy’n bodoli ledled y byd.
Mae gan y cyfleuster hwn gwerth £2.4m y gallu i gynhyrchu mellt dan reolaeth gyda cherrynt hyd at 200,000 o ampau, sef mwy na phum gwaith cerrynt mellten ar gyfartaledd.
Nodweddion technegol
Mae Labordy Mellt Morgan-Botti (MBLL) yn cynnig ymchwil a phrofion at ddibenion deall a gwella gwyddoniaeth diogelu rhag mellt. Dyma’r unig labordy effeithiau uniongyrchol mellt mewn unrhyw brifysgol yn Ewrop, a dim ond dyrnaid o labordai o’r fath sy’n bodoli ledled y byd.
- Mae gan y cyfleuster hwn gwerth £2.4m y gallu i gynhyrchu mellt dan reolaeth gyda cherrynt hyd at 200,000 o ampau, sef mwy na phum gwaith cerrynt mellten ar gyfartaledd.
- Cydran 'B' (cerrynt canolradd): 10 gwefr Coulomb wedi’i chyflwyno ar gerrynt o 2kA ar gyfartaledd
- Cydran 'C' (cerrynt parhaus): Cyfanswm gwefr 200 Coulomb wedi’i chyflwyno ar gerrynt cyson (DC) o 200-800A
- Cydran ‘D’: (strôc ddychwel ddilynol): Cerrynt brig o 100kA, ag arwaith cyfannol nid llai na 0.25x106 A2 ac wedi’i chyflwyno o fewn 500µs
Mae gan y MBLL ystod eang o offer diagnosteg er mwyn mesur a dadansoddi ffenomenau effeithiau uniongyrchol mellt. Mae gennym hefyd arbenigedd ym maes dylunio a datblygu synwyryddion a thechnegau profi, a hynny er mwyn diwallu anghenion o ran cynnal ymchwil heriol. Ymhlith ein galluoedd diagnostig presennol y mae’r canlynol:
Trawsddygiaduron: Systemau cadarn at ddibenion mesur cerrynt cyflymder uchel (newidyddion cerrynt, coiliau rogowski, siyntiau gwrthsefyll), mesur foltedd arnofio a differol, monitro gwasgedd a thymheredd. Defnyddir ystod o gwmpasau cyflym a systemau caffael data i gofnodi'r data sy'n deillio o’r rhain.
Delweddu: Rydym yn defnyddio ystod o systemau delweddu gweledol a thermol, gan gynnwys camerâu llonydd cydraniad uchel, camera monocrom cyflymder uchel (hyd at 775,000 fps) a system goleuo laser, yn ogystal â phâr o gamerâu thermol at ddibenion ymchwil.
Dadansoddi Goleuni: Defnyddir sbectrograffau Uwch-Fioled Gweladwy a Lled-Isgoch i ddadansoddi sbectrol o arcau mellt a digwyddiadau allyru eilaidd. Mae'r wybodaeth sy’n cael ei chreu yn ein helpu i ddeall y prosesau ffisegol a chemegol ynghlwm wrth luched. Caiff dwysedd cydamserol yr arc ei gofnodi gan ddefnyddio system mesur golau hyfyr sy'n seiliedig ar ffotodeuodau.
Mecanyddol: Yn ogystal ag effeithiau gwresogi trydanol, mae ymlyniad mellt uniongyrchol wrth strwythur yn arwain at lwythi mecanyddol lleol a byrhoedlog sylweddol, gan beri i'r strwythur wyro ac i’r don sioc ymledu. Mae’r ymchwil barhaus yn MBLL wedi datblygu sawl system ddiagnostig er mwyn meintioli'r prosesau hyn
Dadansoddi ar ôl lluched: Mae gennym hefyd nifer o gyfleusterau diagnostig ar ôl lluched, a hynny er mwyn rhoi cipolwg manwl inni ar y prosesau ffisegol a'r mecanweithiau difrod sy'n digwydd yn ystod prawf. Dyma rai o’r galluoedd: Rhannu samplau, mowntio, sgleinio, microsgobeg gonfensiynol a gwrthdroadwy wedi’i gyrru gan gyfrifadur, microsgobeg electronau a sbectrosgopeg pelydr-x sy’n gwasgaru ynni (EDX).
Modelu ac Efelychu: Rydyn ni’n arbenigo yn y defnydd o ystod eang o becynnau meddalwedd er modelu deunyddiau cyfansawdd yn ôl maes a dosbarthu cerrynt, rhyngweithio electrofecanyddol mewn strwythurau a ffenomenau electromagnetig cyflym a hyfyr.
Sut mae’n helpu
Mae tîm y Labordy Mellt yn cydlynu rhwydwaith ymchwil a chydweithio ar Nodweddu Electromagnetig Cyfansoddion Carbon (EMC3), ac mae ystod eang o bartneriaethau diwydiannol a sefydliadau academaidd yn aelodau amlwg ynddo. Mae'r rhwydwaith hwn yn ein galluogi i gynnal ymchwil a datblygu a dargedir sy'n canolbwyntio ar fyd diwydiant, a hefyd i wella a datblygu technegau diagnosteg newydd sy'n berthnasol i safonau rhyngwladol ym maes cynnal profion mellt.
Mae gennym lawer o brosiectau cyfredol ag Airbus Group Innovations, yn enwedig prosiect a ariennir gan ATI sy'n nodweddu ac yn ymchwilio i ffenomenau sbarduno ym maes cydrannau ac uniadau CFRP. Ffocws ein hymchwil yw ymchwilio i systemau diogelu strwythurau awyrofod a systemau tanwydd, yn ogystal â datblygu trawsddygiaduron a dulliau profi at ddibenion gwerthuso systemau o'r fath o dan amodau electromagnetig garw.
Mae'r Ysgol yn un ysgolion peirianneg mwyaf blaenllaw'r DU ac mae ganddi enw da am ymchwil o'r radd flaenaf ac amgylchedd addysgu bywiog a chyfeillgar.