Arloesoedd Caerdydd
Bydd Arloesoedd Caerdydd yn rhoi'r gefnogaeth sydd ei hangen ar ein partneriaid i wireddu syniadau gwych.
Bydd Arloesoedd Caerdydd yn gartref i bobl a chyfleusterau sy'n helpu defnyddio syniadau gwych i sbarduno twf ledled Cymru a thu hwnt. Wedi'i leoli yn adeilad sbarc I spark yng nghanol Campws Arloesi £300 miliwn y Brifysgol, dyma fydd canolbwynt meithrin a datblygu partneriaethau diwydiannol.
Mae Arloesedd Caerdydd yn ofod pwrpasol 17,500 troedfedd sgwâr ar draws 4 llawr, a bydd yn cynnwys gofod swyddfa y gellir ei roi ar osod rhwng 226 troedfedd sgwâr a 1163 troedfedd sgwâr, ardaloedd cyfarfod ffurfiol ac anffurfiol, cyfleusterau cynadledda o’r radd flaenaf, 4240 troedfedd sgwâr ar gyfer labordai gwlyb a mannau ar gyfer cynnal arddangosfeydd/cyflwyniadau ar y cyd gan gynnwys gofod cynadledda ar gyfer hyd at 200 o bobl.
Bydd y Ganolfan, sydd wedi'i lleoli ym Mharc Maendy yng nghanol Caerdydd, yn cynnwys amrywiaeth o gyfleusterau newydd a fydd yn galluogi arloesedd i ffynnu:
- 17,500 troedfedd sgwâr o ofod swyddfa y gellir ei roi ar osod, gydag opsiynau rhwng 226 troedfedd sgwâr a 1163 troedfedd sgwâr
- 4800 troedfedd sgwâr o ofod cyd-weithio
- Ystafelloedd cyfarfod ffurfiol ac anffurfiol sy'n cynnwys cyfleusterau cynadledda o’r radd flaenaf
- Mynediad at gynghorwyr proffesiynol ar y stryd fawr
- Gofod cyd-weithio pwrpasol ar gyfer entrepreneuriaid sy’n fyfyrwyr/graddedigion
- Mannau arddangos/cyflwyno ar y cyd
- 4240 troedfedd sgwâr o labordai gwlyb (gan gynnwys siambrau mwg unigol ac a rennir)
- Band eang cyflym
- Desgiau gweithio hyblyg a mannau cydweithio
- Derbynfa ganolog
- Mannau cynadledda/digwyddiadau hyd at 200 o bobl
- Mynediad ar gyfraddau cystadleuol at wasanaethau a chyfleusterau'r Brifysgol
Oes gennych chi ddiddordeb mewn symud eich busnes? Cysylltwch:
Rydym yn cynyddu effaith ein hymchwil drwy weithio gyda sefydliadau o bob maint. O gwmnïau newydd bychan i gorfforaethau byd-eang a sefydliadau cyhoeddus a nid-er-elw.