Cyfleuster Moleciwlau Bach Caerdydd

Rydym yn dadansoddi lipidau a moleciwlau bach ar dri sbectromedr màs o'r radd flaenaf sydd wedi'u lleoli yn ein cyfleuster.
Mae technegau ar gael i wahanu, adnabod a mesur cymysgeddau cymhleth o lipidau a moleciwlau bach eraill o amrediad eang o samplau biolegol.
Rydyn ni’n cynnig gwasanaethau dadansoddol a thechnegol trwy ein harbenigwyr ym maes casglu a dehongli data sy’n defnyddio amrywiaeth eang o offer dadansoddi.
P’un ai dadansoddiad o sampl sengl sydd ei angen, neu ddadansoddiad mwy cynhwysfawr o nifer o samplau gan ddefnyddio sawl techneg, rydyn ni mewn sefyllfa ddelfrydol i gynnig yr atebion sydd eu hangen arnoch.
Efallai eich bod yn fiocemegydd profiadol ac yn gwybod yn union pa wybodaeth sydd ei hangen arnoch, ond os nad ydych, gallwn eich helpu i gael hyd i'r hyn y mae angen i chi ei wybod a sut i gyrraedd eich nod.
Ein profion safon ymchwil sefydledig
- Ocsilipinau (eicosanoidau, prostaglandinau, lewcotrienau)
- Colesterol ac esterau colesterol
- Ffosffolipidau brodorol (PC, PE, PG, DP, PS, Lyso PC/PE/PG/PI/PS)
- Ffosffolipidau ocsidiedig
- Sffingomyelinau
- Oes gennych chi ddiddordeb mewn moleciwlau bach eraill? Gallwn gynnig gwasanaeth pwrpasol i drefnu profion meintiol ar gyfer metabolion o ddiddordeb i chi.
Offer a gwasanaethau

Prosesu sampl
- Mae cymorth technegydd ar gael i echdynnu lipidau o'ch samplau biolegol gan ddefnyddio’r protocolau gorau posibl gan gynnwys echdynnu cam hylif a cham solet.
- Mae technoleg Beadruptor ar gael sy’n ein galluogi i brosesu ystod eang o feinweoedd, gan gynnwys esgyrn.
- Mae gan y cyfleusterau robot Tecan sy’n trin hylif i gael trwybwn uchel o samplau.
LC/MS
Sbectrometreg màs Quad Q triphlyg
- Mae'r cyfleuster yn gartref i ddau drap Sciex Q (ïoneiddiad Sciex 6500 a Sciex 7500-ES) ynghyd â LCs Shimadzu sydd â galluoedd UPLC. Mae'r system yn caniatáu dadansoddiadau sensitif a hyblyg o ystod o ddadansoddwyr gan ddefnyddio dadansoddiad monitro adweithiau lluosog (MRM) wedi'i dargedu.

Màs cywir QToF
- Mae ein Waters SynaptXS QToF (ïoneiddiad ES) yn caniatáu dull heb ei dargedu gyda chaffaeliad màs cywir eglur iawn.
Gwasanaethau
Rydyn ni’n cynnig gwasanaeth technegol llawn o gyngor dylunio arbrofol, prosesu samplau, caffael data LC/MS, dadansoddi a meintioli data, a dehongli. Os ydych eisoes yn ddefnyddiwr MS profiadol, gallwn hefyd gynnig mynediad at ein hoffer a'n nwyddau traul o'r radd flaenaf.
Gwerthuso a dehongli data
Rydyn ni’n cefnogi dadansoddi, meintioli a dehongli data, ac mae hyfforddiant ar gael ar ddefnyddio meddalweddau megis Sciex OS a Multiquant.
Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion