Taith Gerdded Hinsawdd Trefol yn Reading
Taith gerdded wedi’i seilio ar ymchwil yw’r Taith Gerdded Hinsawdd Trefol, sy'n mynd â chynulleidfaoedd amrywiol - gan gynnwys academyddion o wahanol ddisgyblaethau, awdurdodau lleol, a phreswylwyr - ar daith drwy strydoedd a mannau cyhoeddus yn Reading.
Yn ystod y daith, bydd y rheiny sy’n cymryd rhan yn canolbwyntio ar ffurf adeiledig newidiol y ddinas, ac yn defnyddio eu synhwyrau (gweledol, clywedol a thermal) i ddehongli'r dirwedd drefol. Y brif thema sy’n uno'r gwahanol lefydd ar y daith hon yw egni, sy’n cynnwys ei ffurfiau naturiol (tymheredd, gwynt, haul) a’i angenrheidrwydd o fewn adeiladau (ar gyfer gwresogi ac oeri’r adeiladau). Caiff yr elfennau hyn eu trin a’u trafod yng nghyd-destun y modd y maent yn gyd-gysylltiedig â’i gilydd ar lefel y stryd.
Gyda’i gilydd, bydd y rheiny sy’n cymryd rhan yn archwilio’r effaith y mae gwaith adeiladu a’r ffurf drefol yn ei chael ar yr hinsawdd, tra hefyd yn rhannu syniadau cyfredol sy’n ymwneud â’r effeithiau amrywiol ar yr hinsawdd trefol. Mae'r daith gerdded yn cynnig persbectif unigryw ar yr amgylcheddau adeiledig yn Reading, gan ddangos y cydgysylltiadau deinamig rhwng ffurf adeiledig, hinsawdd, ynni, ac iechyd a lles ar draws y gwahanol raddfeydd. Mae'n rhoi cyfle i’r rheiny sy’n cymryd rhan drafod ansawdd y mannau trefol o ran eu ffurf ffisegol, eu materiolaeth, a goblygiadau cymdeithasol sydd ynghlwm wrthynt.
Yn rhan annatod o’r ymchwil ehangach a wneir ar gyfer y Daith Gerdded Hinsawdd Trefol, mae'r Daith hon yn Reading nid yn unig yn cyfrannu at roi gwybodaeth feirniadol am hinsawdd drefol ar led, ond mae hefyd yn gwella'r ddealltwriaeth amhrisiadwy o botensial y ddinas i ddatblygu’n gynaliadwy a gwydn.
Prif Ymchwilydd
Yr Athro Zhiwen Luo
Cadeirydd mewn Gwyddoniaeth Bensaernïol a Threfol
Cyd-ymchwilwyr
Dr Tania Sharmin
Uwch Ddarlithydd Dylunio Amgylcheddol Cynaliadwy