Llawlyfr Routledge o Ddulliau Ymchwil Dylunio Trefol
Ac yntau’n faes sy’n esblygu ac y dadleuir cryn dipyn yn ei gylch, daeth dylunio trefol i fodolaeth yn y lleoedd hynny lle bydd sawl disgyblaeth a phroffesiwn yn cwrdd â’i gilydd, gan newid ac ailymffurfio’n barhaus. Mae bellach yn adeg dyngedfennol i ddylunio trefol fyfyrio ar ei drylwyredd a’i berthnasedd.
Ymgais yw'r llawlyfr hwn i fachu ar y cyfle er mwyn i faes dylunio trefol ddatblygu sylfaen ei wybodaeth ddamcaniaethol a methodolegol ac ymdrin â’r cwestiwn “beth yw diben dylunio trefol” gan ganolbwyntio’n bennaf ar yr ymchwil a wna.
Mae’r llawlyfr hwn yn cynnwys cyfraniadau gan ysgolheigion sefydledig a newydd ar draws y Gogledd byd-eang a’r De byd-eang i roi cyflwyniad sy’n fwy penodol i feysydd drwy gyflwyno ystod o bynciau a meysydd ymchwil a thrafod sut y gellir gwybod mwy amdanyn nhw drwy ganolbwyntio ar y dyluniadau a’r dulliau sy’n gysylltiedig â’r ymchwil dan sylw. Mae nod, cwmpas a strwythur penodol y llawlyfr hwn yn apelio at ystod o gynulleidfaoedd sydd â diddordeb a/neu sy’n ymwneud â llywio lleoedd a mannau cyhoeddus.
Yr hyn sy'n gwneud y llyfr hwn yn eithaf gwahanol i lawlyfrau confensiynol ar ddulliau ymchwil yw'r ffordd y mae wedi'i strwythuro mewn perthynas â rhai pynciau a chwestiynau ymchwil allweddol ym maes dylunio trefol ynghylch asiantaeth, fforddiadwyedd, lle, anffurfioldeb a pherfformiad. Yn ogystal â’r bennod ragarweiniol, mae’r llawlyfr hwn yn cynnwys 80 o gyfranwyr a 52 o benodau wedi’u trefnu’n bum rhan. Yn y penodau a gomisiynwyd ceir ystod eang o bynciau, dyluniadau ymchwil a dulliau sy’n cynnwys cyfeiriadau at weithiau ysgolheigaidd perthnasol ar y pynciau a'r dulliau cysylltiedig.
Adolygiadau
“Mae’r llawlyfr newydd hwn gan Routledge yn dod ag ystod ryfeddol o ysgolheigion ynghyd sy’n ymdrin ag ystod eang o bynciau a dulliau a ddefnyddir ym maes ymchwil dylunio trefol. Gan ei fod yn cynnig cipolwg ar y sefyllfa ar hyn o bryd a sut rydyn ni wedi cyrraedd hyd yma, yn ogystal â dyfodol y maes - mae'n hanfodol i silff lyfrau unrhyw ddylunydd trefol.”
Tim Townshend, Athro Dylunio Trefol Iechyd, Prifysgol Newcastle, DU
“Mae’r Routledge Handbook of Urban Design Research Methods yn llyfr cynhwysfawr sy’n ystyried y ffyrdd amrywiol o ddirnad a deall y ddinas. Mae’r llyfr yn dangos yn feirniadol y ffyrdd y gall ymarferwyr trefol fod yn rhan greiddiol o’r broses o greu dinasoedd a chraffu ar potensial maes Dylunio Trefol sydd heb ei gyflawni hyd yn hyn.”
Rahul Mehrotra, pennaeth sylfaenydd RMA Architects ac Athro John T. Dunlop Tai a Threfoli yn y GSD, Prifysgol Harvard, UDA
“Mae’r llyfr amserol hwn yn cyflwyno ystod gyfoethog o ddulliau ac offer ymarferol ac mae ganddo’r fformat i fod yn ffynhonnell allweddol o ysbrydoliaeth i ymchwilwyr, ymarferwyr yn ogystal â llunwyr polisïau. Mewn byd sy’n llawn gweiddi a sgrechian yn y cyfryngau cymdeithasol, a chan ystyried hefyd yr amgylchedd adeiledig, mae angen offer a dulliau creadigol arnon ni i greu deialog. Gallai’r offer yn y llawlyfr hwn greu deialog gadarnhaol wrth drafod yr amgylchedd adeiledig.”
Birgitte Svarre, PhD, Prif Swyddog Gweithredol, BARK Consulting A/S, Denmarc (cyd-awdur How to study public life ar y cyd â Jan Gehl)
Cwrdd â’r golygyddion
Mae Hesam Kamalipour yn Uwch-ddarlithydd Dylunio Trefol, yn Gyd-Gyfarwyddwr MA Dylunio Trefol, ac yn Gyd-Gyfarwyddwr Sefydlol Arsyllfa Ymchwil Gofod Cyhoeddus Prifysgol Caerdydd.
Mae Patricia Aelbrecht yn Uwch-ddarlithydd Dylunio Trefol ac Astudiaethau Rhyngddiwylliannol ac yn Gyd-Gyfarwyddwr Sefydlol Arsyllfa Ymchwil Gofod Cyhoeddus Prifysgol Caerdydd.
Mae Nastaran Peimani yn Uwch-ddarlithydd Dylunio Trefol, yn Arweinydd y Grŵp Ymchwil ac Ysgolheictod Trefolaeth, ac yn Gyd-Gyfarwyddwr Sefydlol Arsyllfa Ymchwil Gofod Cyhoeddus Prifysgol Caerdydd.