Ewch i’r prif gynnwys

Dinas Hanesyddol Ajmer-Pushkar: mapio haenau o hanes, defnydd ac ystyr ar gyfer cynllunio a chadwraeth gynaliadwy

Y Cefndir

Mae Ajmer a Pushkar, sydd ill dwy wedi’u lleoli yn Rajasthan, yn ganolfannau pererindod ffyniannus ar gyfer gwahanol grefyddau, sy’n denu miloedd o ffyddloniaid yn ystod gwyliau crefyddol. Mae’r cynnydd chwim a welwyd yn nifer y twristiaid wedi gosod straen aruthrol ar y seilwaith. Ffocws yr ymchwil oedd ymchwilio i’r rôl y mae credoau a chymdeithasau, prosesau o gynnal defodau crefyddol, ac ymddygiad ffyddloniaid a phererinion yn y ddau le yn ei chael, er mwyn gosod y rhain yn ffactorau hanfodol wrth geisio dylunio a diogelu mannau cyhoeddus sydd ag arwyddocâd crefyddol.

Y prif nod oedd cynllunio a chreu prototeipiau ar gyfer adnoddau digidol, ac ynddyn nhw fyddai’r canlynol: delweddau a gwybodaeth am y ddinas, ei hanes a'i threftadaeth, gan ganiatáu i grwpiau gwahanol allu myfyrio, cyfnewid barn a chynnal deialog yn eu cylch.

Mae'r modelau rhyngweithiol a gafodd eu creu’n rhan o'r prosiect hwn eisoes wedi’u llwytho ar-lein i allu ychwanegu atyn nhw a’u beirniadu. Ar ben hynny, anfonwyd canfyddiadau a ddaeth yn sgil yr astudiaeth hon at yr awdurdodau perthnasol.

Gweithdy

Ar 18 a 19 Chwefror 2016, cafodd gweithdy rhyngddisgyblaethol ei gynnal yn Akbari Qila, Ajmer. Yn y gweithdy hwnnw, tynnwyd ar arbenigedd a safbwyntiau amrywiol er mwyn coethi’r adnoddau hyn ymhellach, yn ogystal â thrafod y dulliau o gasglu rhagor o ddata ar ragdybiaethau gwahanol am y ddinas a’r gwahanol weithgareddau a wneir ynddi.

Allbynnau'r prosiect

Cynhaliwyd y prosiect hwn o fis Ionawr 2016 tan fis Rhagfyr 2016. Mae modd cael hyd i ragor o fanylion am weithgareddau ac allbynnau'r prosiect ar wefan y Dronah Foundation:

Y tîm

Prif Ymchwilydd

Yr Athro Adam Hardy (Ysgol Pensaernïaeth Cymru), Prif Ymchwilydd

Cyd-ymchwilwyr

  • Dr Shikha Jain (DRONAH Foundation)
  • Dr Oriel Prizeman (Ysgol Pensaernïaeth Cymru)
  • Yr Athro Ajay Khare (SPA Bhopal)
  • Dr Norbert Peabody (Coleg Wolfson, Caergrawnt)
  • Dr Rima Hooja
  • Manas Murthy
  • Vanicka Arora
  • Uttra Dasgupta
  • Pooja Agarwal
  • Uditi Agarwal
  • Neha Saxena
  • Dr Vishakha Kawathekar, Ramesh Bhole, Shweta Vardia, gyda myfyrwyr o SPA Bhopal
  • Dr Vaishali Latkar, gyda myfyrwyr o Goleg Pensaernïaeth Singhad, Pune

Cynghorwyr Arbenigol

Rhwydwaith o aelodau, a’r sawl a gymerodd ran yn y gweithdy ym mis Chwefror.

  • Yr Athro AGK Menon, Cynullydd INTACH, Delhi
  • Dr Yaaminey Mubayi, Cymdeithasegydd, Uwch-gymrawd ICHR
  • Ratish Nanda, Aga Khan Trust for Culture
  • Dr Rohit Jigyasu, Llywydd, ICOMOS India Pwyllgor Gwyddonol Cenedlaethol
  • Munish Pandit, Pensaer
  • Yr Athro Kiran Mahajani, Coleg Pensaernïaeth Aayojan, Jaipur
  • Shahul Ameen, Uwch-ddarlithydd, Canolfan Rheoli Treftadaeth, Prifysgol Ahmedabad
  • Sri Raman, Archeolegydd Goruchwylio, Cylch ASI Jodhpur

Prif gydweithredwyr

  • Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd
  • Ysgol Cynllunio a Phensaernïaeth (SPA), Bhopal
  • DRONAH Foundation

Arianwyr

Ariannwyd y prosiect hwn gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) a Chyngor Ymchwil Hanesyddol India (ICHR) drwy Grant Rhwydweithio Ymchwil ar "Treftadaeth Ddiwylliannol a Threfoli Cyflym yn India". Cynhaliwyd y prosiect hwn o fis Ionawr 2016 tan fis Rhagfyr 2016.