Ewch i’r prif gynnwys

Platfform Map Cyhoeddus

White cottage on Anglesey

Nod ein prosiect gwerth £4.6 miliwn a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), sef 'Y Platfform Map Cyhoeddus' yw rhoi’r grym yn nwylo cymunedau drwy gynnig platfform y mae modd ei addasu sy'n integreiddio lleisiau amrywiol i mewn i ddata gofodol, a hynny er mwyn gwella’r broses o wneud penderfyniadau a dyrannu adnoddau.

Gan ddechrau ar Ynys Môn, sy’n symbol o wydnwch cymunedol, mae’r prosiect hwn wedi cael cryn dipyn o gymorth gan awdurdodau lleol sy'n awyddus i wella lles y gymuned yno. Yn y prosiect hwn, prif ffocws ein tîm yw mapio Ynys Môn yn amgylcheddol, gan fynd i'r afael â gwres, llygredd aer, a llifogydd drwy fonitro ar y safle mewn ysgolion a chynnal teithiau cerdded gwledig ar yr hinsawdd, mewn cydweithrediad â gwyddonwyr dinasyddiaeth.

Mae'r dull hwn nid yn unig yn ysgogi unigolion i wella eu hamodau byw, ond mae hefyd yn rhoi canllawiau i awdurdodau lleol fedru lliniaru’r straen ar yr amgylchedd. Yn y bôn, diben y prosiect yw ceisio grymuso gwydnwch amgylcheddol y gymuned drwy gyfuno technoleg ac ymgysylltu’n weithredol â’r cyhoedd. Ynghlwm wrth y prosiect ymchwil amlddisgyblaethol hwn y mae Prifysgol Caergrawnt, Prifysgol Caerdydd, a Phrifysgol Glyndŵr.

Tîm y prosiect

Prif Ymchwilydd

Picture of Zhiwen Luo

Yr Athro Zhiwen Luo

Cadeirydd mewn Gwyddoniaeth Bensaernïol a Threfol

Telephone
+44 29208 70463
Email
LuoZ18@caerdydd.ac.uk

Cyd-ymchwilydd

Picture of Simon Lannon

Dr Simon Lannon

Uwch Gymrawd Ymchwil

Telephone
+44 29208 74437
Email
Lannon@caerdydd.ac.uk
Picture of Tania Sharmin

Dr Tania Sharmin

Senior Lecturer Sustainable Environmental Design

Telephone
+44 29208 70798
Email
SharminT@caerdydd.ac.uk

Cynorthwyydd Ymchwil Ôl-ddoethurol

Picture of Shuangyu Wei

Dr Shuangyu Wei

Cydymaith Ymchwil Ôl-Ddoethurol

Email
WeiS11@caerdydd.ac.uk