Mecanweithiau daeargrynfeydd araf (MICA)
Mae prosiect MICA yn defnyddio labordy naturiol unigryw ffawtiau presennol a blaenorol i lunio modelau rhifiadol yn ôl terfynau geometreg gwylio ffawtiau a mecanweithiau dadffurfio sydd wedi'u diffinio gan strwythurau mân. Prif nod y gwaith hwn yw pennu'r ffactorau sy'n rheoli pa mor gyflym y gall ffawtiau lithro – hynny yw, pam y bydd ffawt yn llithro'n araf neu'n cyflymu i achosi daeargrynfeydd.
Yn y prosiect hwn sydd o dan nawdd rhaglen Horizon 2020 Cyngor Ymchwil Ewrop, rydyn ni’n asesu ymddygiad amrywiol ffawtiau sy’n darparu ar gyfer dadffurfio tectonig yng nghramen y ddaear. Hyd at yn ddiweddar, roedd tyb y byddai ffawtiau tectonig mawr yn darparu ar gyfer dadleoli trwy naill ai lithro’n barhaus neu achosi daeargrynfeydd niweidiol bob hyn a hyn. Mae rhwydweithiau geoffisegol cydraniad uchel wedi canfod 'daeargrynfeydd araf' bellach. Mae daeargrynfeydd araf yn ddulliau dadleoli dros dro sy'n gyflymach nag ymgripiad ffiniau plât ond yn arafach na daeargrynfeydd. Does neb yn deall prosesau rheoli cyflymder llithro ffawtiau yn dda, ac mae’r prosiect hwn wedi’i lunio i ystyried y prosesau daearegol sy’n gwneud hynny.
Gall canlyniadau'r prosiect lywio prosesau gwerthuso peryglon seismig trwy nodi ffawtiau a rhannau o ffawtiau a allai brofi daeargrynfeydd niweidiol neu beidio, yn ogystal â phethau a allai fod yn rhybudd rhag daeargrynfeydd. Er enghraifft, does neb yn gwybod sut mae daeargrynfeydd araf a chyflym yn gysylltiedig. Mae cwestiynau o bwysigrwydd cymdeithasol yn cynnwys: Os yw ffawt yn profi daeargrynfeydd araf, all brofi daeargrynfeydd niweidiol, hefyd? Os yw rhannau o ffawt yn profi daeargryn araf, a fydd yn cynyddu (neu'n lleihau) y tebygolrwydd y bydd daeargryn niweidiol gerllaw? All daeargrynfeydd araf gyflymu a dod yn gyflym ac yn niweidiol?
Gweithgareddau a dulliau
Daeareg maes
Yr hyn sydd wedi’i weld ar lawr gwlad yw prif agwedd y prosiect, gan gynnwys parthau ffawtiau presennol a blaenorol fel ei gilydd. Rydyn ni’n astudio ffin platiau hynafol eithriadol sydd ym Mharc Daeareg Fyd-eang UNESCO GeoMôn ar Ynys Môn. At hynny, rydyn ni wedi astudio creigiau parthau islithro hynafol yn Siapan a Namibia, islithro presennol o dan y môr ger arfordir Seland Newydd, trawsffurfio hynafol o gramen gyfandirol yn Namibia a chramen gefnforol wedi’i chadw ar Ynys Cyprus.
Microsgopeg
Rydyn ni’n defnyddio cyfleusterau microsgopeg a delweddu a phelydr micro electronau Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd yng Nghaerdydd i ddelweddu a dadansoddi’n fanwl gynnwys creigiau sydd wedi dadffurfio. Trwy ddadansoddi o’r fath, gallwn ni weld pa mor gyflym mae’r creigiau wedi dadffurfio, megis yn yr enghraifft hon o Kuckaus Mylonite, Namibia.
Modelau rhifiadol
O dan adain cymrodyr ôl-ddoethurol Adam Beall a Lucy Lu rydyn ni wedi defnyddio codau rhifiadol Underworld a MOPLA (MultiOrder Power-Law Approach) i feintioli effeithiau amryw newidynnau ymddygiad ffawtiau. Er enghraifft, rydyn ni wedi llunio ffyrdd o ddadansoddi cryfder parthau rhwygo dau gam. Mae’r gwaith yn mynd rhagddo gyda chymorth ARCCA (Advanced Research Computing at Cardiff).
Arbrofion yn y labordy
Ar y cyd â labordai dadffurfiad creigiau ym Mhrifysgol Utrecht a Phrifysgol Bremen, rydyn ni’n defnyddio arbrofion i bwyso a mesur damcaniaethau sydd wedi’u llunio yn y maes a phennu paramedrau i’w cynnwys yn y modelau.
Canfyddiadau
Ffawtiau naturiol
Daw i’r amlwg fod mannau lle y gallai daeargrynfeydd araf ddigwydd yn ddigon gwan i ddadffurfio o dan rym cymharol fychan ac y bydd y math o ddadffurfio (araf neu gyflym) yn gyfnewidiol iawn yn ôl natur amrywiol ffactorau megis pwysedd hylifau, cyfraddau straen neu straen gyrru. Rydyn ni’n gweld cyflyrau o’r fath ar amryw ddyfnderoedd a haenau tectonig ac un o gryfderau’r prosiect hwn yw ei fod wedi archwilio amrywiaeth helaeth o leoedd. Dyma enghreifftiau o dystiolaeth ddaearegol:
- Rhwydweithiau gwythiennau dwys wedi’u ffurfio mewn amrediad tymereddau cul lle mae mwyn clorid yn sychu ym mharthau rhwygo gludiog Damara Belt, Namibia.
- O dan adain ein cydweithwyr yn Siapan, rydyn ni wedi dangos bod sustemau gwythiennau ar Ynys Kyushu wedi’u ffurfio bob yn dipyn o dan straen isel a bod modd eu hystyried yn enghraifft ddaearegol o gryndod tectonig achlysurol.
- Mae meintiau grawn cwarts yn ôl cryfder grym yn awgrymu bod straen gyrru tectonig o dan barth cynhyrchu’r daeargrynfeydd yn isel iawn, yn y parthau islithro a tharo-llithro cyfandirol sydd wedi’u hagor.
- Ar ddyfnderoedd bas iawn lle mae straen yn isel yn ôl diffiniad, gall ffawtiau sy’n gysylltiedig ag islithro newid rhwng dadffurfio dosbarthedig a lleol a gall dadffurfio gludio a brau fel ei gilydd ddigwydd mewn carbonadau.
- Mae cryfder a chyflymder llithro trawsffurfio cefnforol yn amrywio yn ôl y natur a graddau’r gwyrdro sarffaidd.
Gyda chydweithwyr, rydyn ni wedi ystyried tystiolaeth ddaearegol gyhoeddedig o ffawtiau sydd wedi’u hastudio’n fanwl ledled y byd hefyd, a’i chymharu ag arsylwadau geoffisegol o ddaeargrynfeydd araf. Daethon ni at ystod o nodweddion cyffredin, wedi’u cyhoeddi yn Nature Reviews.
Modelau rhifiadol: Bydd parthau rhwygo gludiog dwy gydran ac ynddynt dros 50% o ddeunydd cryf yn peri cadwyni grym yn ddigymell.Felly, rydyn ni’n awgrymu y bydd cynnydd lleol yn y straen yn datblygu ac yn torri’r cadwyni hynny, gan gyflymu’r llif dros dro.
Ar raddfa ehangach, gall deinameg meintiau platiau effeithio ar straen rhwygo ffiniau platiau hefyd, gan arwain at ddaeargrynfeydd cryfach mewn rhai achosion.
Arbrofion yn y labordy
Trwy wylio ffawtiau naturiol, gwyddon ni y gall ychydig o ddwfr beri ymddygiad gwannach a mwy hydwyth.
Yn labordy MARUM (Zentrum für Marine Umweltwissenschaften) Prifysgol Bremen, profon ni’r syniad hwnnw ar bwysedd a thymheredd isel. Gwelon ni y byddai ffawtiau’n wannach, mwy cyson eu llithro, o ganlyniad i ychwanegu rhagor o glorid sy’n sbarduno hydradu.
Synthesis
Adolygon ni’r dystiolaeth naturiol a rhifiadol ynghylch effaith heterogenedd ar ddadffurfio. Yn ôl ein canfyddiadau, y rheoli mwyaf sylfaenol (sy’n gallu esbonio amryw fathau o ymddygiad) yw effaith gyfun y creigiau a’r mwynau sydd wrth ei gilydd a pha mor bell yw’r straen gyrru o’r straen y bydd ei angen i dorri’r deunydd cryfaf.
Cyhoeddiadau
- Leah, H. and Fagereng, Å. 2022. Inherited heterogeneities can control viscous subduction zone deformation of carbonates at seismogenic depths. Geophysical Research Letters 49 (19) e2022GL099358. (10.1029/2022GL099358)
- Beall, A. et al. 2022. Linking earthquake magnitude‐frequency statistics and stress in visco‐frictional fault zone models. Geophysical Research Letters 49 (20) e2022GL099247. (10.1029/2022gl099247)
- Tulley, C. J. et al. 2022. Embrittlement within viscous shear zones across the base of the subduction thrust seismogenic zone. Geochemistry, Geophysics, Geosystems 23 (8) e2021GC010208. (10.1029/2021GC010208)
- Leah, H. et al. 2022. Heterogeneous subgreenschist deformation in an exhumed sediment‐poor mélange. Journal of Geophysical Research. Solid Earth 127 (8) e2022JB024353. (10.1029/2022jb024353)
- Leah, H. et al. 2022. The northern Hikurangi margin three-dimensional plate interface in New Zealand remains rough 100 km from the trench. Geology 50 (11), pp.1256-1260. (10.1130/G50272.1)
- Tulley, C. J. et al. 2022. Rheology of naturally deformed antigorite serpentinite: strain and strain‐rate dependence at mantle‐wedge conditions. Geophysical Research Letters 49 (16) e2022GL098945. (10.1029/2022gl098945)
- Ujiie, K. et al., 2022. Megathrust shear modulated by Albite Metasomatism in subduction mélanges. Geochemistry, Geophysics, Geosystems 23 (8) e2022GC010569. (10.1029/2022gc010569)
- Churchill, R. M. et al., 2022. Afterslip moment scaling and variability from a global compilation of estimates. Journal of Geophysical Research. Solid Earth 127 (4) e2021JB023897. (10.1029/2021JB023897)
- Williams, R. T. and Fagereng, Å. 2022. The role of quartz cementation in the seismic cycle: a critical review. Reviews of Geophysics 60 (1) e2021RG000768. (10.1029/2021RG000768)
- Cox, S. et al. 2021. Frictional characteristics of oceanic transform faults: progressive deformation and alteration controls seismic style. Geophysical Research Letters 48 (24) e2021GL096292. (10.1029/2021GL096292)
- Menegon, L. and Fagereng, Å. 2021. Tectonic pressure gradients during viscous creep drive fluid flow and brittle failure at the base of the seismogenic zone. Geology 49 (10), pp.1255–1259. (10.1130/G49012.1)
- Savage, H. M. et al., 2021. Asymmetric brittle deformation at the Pāpaku Fault, Hikurangi Subduction Margin, NZ, IODP Expedition 375. Geochemistry, Geophysics, Geosystems 22 (8) e2021GC009662. (10.1029/2021GC009662)
- Cox, S. , Fagereng, Å. and MacLeod, C. J. 2021. Shear zone development in serpentinised mantle: Implications for the strength of oceanic transform faults. Journal of Geophysical Research: Solid Earth 126 (5) e2020JB020763. (10.1029/2020JB020763)
- Kirkpatrick, J. D. , Fagereng, Å. and Shelly, D. R. 2021. Geological constraints on the mechanisms of slow earthquakes. Nature Reviews Earth & Environment 2 , pp.285-301. (10.1038/s43017-021-00148-w)
- Fagereng, Å. and Beall, A. 2021. Is complex fault zone behaviour a reflection of rheological heterogeneity?. Philosophical Transactions of the Royal Society A: Mathematical, Physical and Engineering Sciences 379 (2193) 20190421. (10.1098/rsta.2019.0421)
- McNamara, D. D. et al., 2021. Variable in situ stress orientations across the Northern Hikurangi Subduction Margin. Geophysical Research Letters 48 (5) e2020GL091707. (10.1029/2020GL091707)
- Beall, A. et al. 2021. Influence of subduction zone dynamics on interface shear stress and potential relationship with seismogenic behavior. Geochemistry, Geophysics, Geosystems 22 (2) e2020GC009267. (10.1029/2020GC009267)
- Leah, H. et al. 2020. Mixed brittle and viscous strain localisation in pelagic sediments seaward of the Hikurangi margin, New Zealand. Tectonics 39 (8) e2019TC005965. (10.1029/2019TC005965)
- Stenvall, C. A. et al. 2020. Sources and effects of fluids in continental retrograde shear zones: Insights from the Kuckaus Mylonite Zone, Namibia. Geofluids 2020 3023268. (10.1155/2020/3023268)
- Tulley, C. J. , Fagereng, Å. and Ujiie, K. 2020. Hydrous oceanic crust hosts megathrust creep at low shear stresses. Science Advances 6 (22) eaba1529. (10.1126/sciadv.aba1529)
- Fagereng, Å. and Ikari, M. J. 2020. Low‐temperature frictional characteristics of chlorite‐epidote‐amphibole assemblages: implications for strength and seismic style of retrograde fault zones. Journal of Geophysical Research. Solid Earth 125 (4) e2020JB019487. (10.1029/2020JB019487)
- Barnes, P. M. et al., 2020. Slow slip source characterized by lithological and geometric heterogeneity. Science Advances 6 (13) eaay3314. (10.1126/sciadv.aay3314)
- Beall, A. , Fagereng, A. and Ellis, S. 2019. Fracture and weakening of jammed subduction shear zones, leading to the generation of slow slip events. Geochemistry Geophysics Geosystems 20 (11), pp.4869-4884. (10.1029/2019GC008481)
- Fagereng, Å. and Biggs, J. 2019. New perspectives on 'geological strain rates' calculated from both naturally deformed and actively deforming rocks. Journal of Structural Geology 125 , pp.100-110. (10.1016/j.jsg.2018.10.004)
- Fagereng, A. et al. 2019. Mixed deformation styles on a shallow subduction thrust, Hikurangi margin, New Zealand. Geology 47 (9), pp.872-876. (10.1130/G46367.1)
- Stenvall, C. , Fagereng, Å. and Diener, J. 2019. Weaker than weakest: on the strength of shear zones. Geophysical Research Letters 46 (13), pp.7404-7413. (10.1029/2019GL083388)
- Beall, A. , Fagereng, A. and Ellis, S. 2019. Strength of strained two-phase mixtures: Application to rapid creep and stress amplification in subduction zone mélange. Geophysical Research Letters 46 (1), pp.169-178. (10.1029/2018GL081252)
- Fagereng, A. and MacLeod, C. 2019. On seismicity and structural style of oceanic transform faults: A field geological perspective from the Troodos Ophiolite, Cyprus. In: Duarte, J. S. ed. Transform Plate Boundaries and Fracture Zones. Elsevier Books. , pp.437-459. (10.1016/B978-0-12-812064-4.00018-9)
- Fagereng, A. et al. 2018. Fluid-related deformation processes at the up- and downdip limits of the subduction thrust seismogenic zone: What do the rocks tell us?. In: Byrne, T. et al., Geology and Tectonics of Subduction Zones: A Tribute to Gaku Kimura. Vol. 534, GSA Special Papers Geological Society of America(10.1130/2018.2534(12))
- Ujiie, K. et al., 2018. An explanation of episodic tremor and slow slip constrained by crack-seal veins and viscous shear in subduction mélange. Geophysical Research Letters 45 (11), pp.5371-5379. (10.1029/2018GL078374)
- Fagereng, A. et al. 2018. Quartz vein formation by local dehydration embrittlement along the deep, tremorgenic subduction thrust interface. Geology 46 (1), pp.67-70. (10.1130/G39649.1)
Tîm y prosiect
Lead
Yr Athro Ake Fagereng
Lecturer
Tîm
-
Research student
-
Postdoctoral Research Associate
Cefnogaeth
This research was made possible through the support of the following organisations: