Arferion tir adfywiol wedi'u hymyleiddio a'u herio yng Nghymru, Awstralia a Bhutan
Mae'r prosiect hwn yn cynnwys Cymrodoriaeth Ymchwil Horizon 2020 yr UE Dr Isabel Sebastian sy'n astudio straeon a sgyrsiau am arferion tir adfywiol sydd wedi'u hymyleiddio a'u herio. Mae'r prosiect yn archwilio arferion 'ailwylltio' yng Nghymru (DU), 'llosgi diwylliannol' yn Ne Cymru Newydd (Awstralia) a 'chau'r mynyddoedd [Reedum]' yn Bhutan.
Mae arferion rheoli tir adfywiol yn chwarae rhan hanfodol wrth osgoi effeithiau trychinebus y newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth sydd eisoes yn amharu ar iechyd a lles cymdeithasau byd-eang a'r biosffer yr ydym i gyd yn dibynnu arno. Mae gan arferion o'r fath y potensial i ddarparu atebion sy'n seiliedig ar deuluoedd sy'n meithrin gwydnwch a lles cymunedau lleol wrth atafaelu carbon, darparu cynefinoedd ar gyfer bioamrywiaeth, a sicrhau parhad arferion diwylliannol/ysbrydol sy'n hanfodol ar gyfer goroesi ac adfywio'r tir a'i bobl.
Er bod rhai o'r arferion hyn yn gymharol newydd, mae eraill yn cynrychioli traddodiadau bioddiwylliannol sefydledig a safbwyntiau’r bobl frodorol o ofalu am leoedd, y dibynnai cymunedau lleol arnynt ers canrifoedd a milenia. Ac eto, mae llawer o arferion o'r fath naill ai wedi'u colli, eu hymyleiddio neu eu herio. Mae'r sefyllfa hon yn lleihau amrywiaeth y dulliau sy'n seiliedig ar le a bioddiwylliannol briodol sydd ar gael i gymunedau a thirfeddianwyr lleol i adfywio tir. Gall deall straeon lle a'r drafodaeth ynghylch arferion o'r fath helpu i symud y tu hwnt i'r ymyleiddio a'r herio tuag at gydnabod eu gwerth. Mae arferion tir adfywio parhaus sy'n fioddiwylliannol berthnasol yn cyfrannu at gymunedau iach a chynaliadwy a chenedlaethau'r dyfodol, wrth adfer y biosffer byd-eang.
Manylion
Amcanion ymchwil
Camau'r prosiect
Bydd gan y prosiect gamau ailadroddol ond yn gyffredinol byddant yn datblygu mewn tri cham:
Cam 1: Paratoadau (2021/22)
- Nodi rhanddeiliaid perthnasol a meithrin perthnasoedd yng Nghymru, Bhutan ac Awstralia
- Gofyn i randdeiliaid a sefydliadau partner pa ymchwil a gwybodaeth sydd eu hangen am yr arferion hyn
- Adolygu llenyddiaeth a dogfennau perthnasol
- Datblygu methodoleg a dulliau
Cam 2: Ymchwil (2023)
- Cynnal cyfweliadau, gweithdai, ymweliadau ymarfer tir ac arsylwadau
- Proses ailadroddol yn dadansoddi canfyddiadau ac yn gwirio gyda chyfranogwyr ymchwil
Cam 3: Gwneud synnwyr a rhannu (2024)
- Dadansoddiad o'r canfyddiadau yn y tri safle astudiaeth achos
- Dadansoddiad cymharol a goblygiadau cyffredinol
- Paratoi adroddiadau ymchwil a pharatoi ar gyfer cyhoeddi
- Lledaenu canfyddiadau i rannu gwerth yr ymchwil yn eang
Mae llawer o resymau gwahanol dros golli, ymyleiddio neu herio arferion tir adfywiol o'r fath sydd i'w gweld yn y straeon, y naratif a'r safbwyntiau byd, neu mewn geiriau eraill yn y drafodaeth, sy'n galluogi neu'n llesteirio arferion o'r fath. Mae'r astudiaeth gwyddor gymdeithasol drawsddisgyblaethol hon yn ymchwilio i dri arfer tir gwahanol mewn lleoliadau sy'n nodedig yn ddiwylliannol ac yn ddaearyddol, gan gynnwys:
- Mae mentrau ailwylltio a gyflwynwyd yng Nghymru (DU) yn ystod y degawd diwethaf wedi cael eu herio'n fawr
- Mae llosgi diwylliannol a arferid gan Awstraliaid Brodorol ers milenia wedi'i ymyleiddio ers gwladychu ym 1788
- Cafodd cau mynyddoedd [Reedum], arfer cymdeithasol ers canrif yn Bhutan sy’n cyfyngu ar fynediad i goedwigoedd yn ystod adegau penodol o'r flwyddyn, ei ddisodli gan ddulliau rheoli coedwigoedd modern ym 1969
Y nod yw dysgu am y straeon a'r trafodaethau sy'n sail i'r arferion adfywio hyn a deall ble, pryd a sut y cânt eu hymarfer ar eu gorau o fewn eu cyd-destunau cymdeithasol-ecolegol a bioddiwylliannol. Yna, mae'r astudiaeth yn archwilio pam mae'r arferion hyn wedi'u hymyleiddio neu eu herio. Yn seiliedig ar drafodaeth a dadansoddiad cymharol, ein nod yw datblygu llwybrau o'r arferion adfywio hyn sy'n seiliedig ar le i sefydliadau cenedlaethol a byd-eang a systemau llywodraethu i symud y tu hwnt i herio ac ymyleiddio. Byddwn yn datblygu dulliau gwneud synnwyr a gwneud penderfyniadau i randdeiliaid a llunwyr polisi feithrin y gydnabyddiaeth o arferion tir adfywiol llwyddiannus yn eu cyd-destunau bioddiwylliannol.
Methodoleg a dulliau
Mae'r astudiaeth ymchwil yn cymryd ymagwedd drawsddisgyblaethol, sy'n golygu y gwahoddir rhanddeiliaid i helpu i lunio amcanion a chwestiynau'r ymchwil. Bydd hyn yn gofyn am ddull ailadroddol lle mae ymchwilwyr a rhanddeiliaid yn cydweithio i gyd-greu gwybodaeth a gwerth newydd i bawb sy'n gysylltiedig. Bydd y dadansoddiad deongliadol o'r canfyddiadau yn anwythol ac yn parchu cyd-destunau a thraddodiadau ymchwil lleol. Bydd y dulliau ymchwil yn cynnwys arsylwadau ymarfer tir, cyfweliadau lled-strwythuredig a gweithdai trafod yn safleoedd yr astudiaeth achos. Dilynir hyn gan ddadansoddiad cymharol o ganfyddiadau'r astudiaeth achos gyda'r potensial ar gyfer mewnwelediadau unigryw.
Gwerth yr ymchwil
Fel prosiect trawsddisgyblaethol sy'n cynnwys rhanddeiliaid, ymarferwyr a gwneuthurwyr penderfyniadau yn y tri lle astudiaeth achos, nod y prosiect yw creu canlyniadau a all gynnwys:
- Newid yn y sefyllfa
- Mwy o ymwybyddiaeth a chydnabyddiaeth o'r safbwyntiau amrywiol am y tri practis tir adfywiol a'u cyfraniad at adfer tir, cynefinoedd, bioamrywiaeth, ac arferion diwylliannol a/neu ysbrydol yn eu cyd-destunau seiliedig ar le
- Gwell dulliau gwneud synnwyr a gwneud penderfyniadau i randdeiliaid ar wahanol lefelau wrth ystyried gweithredu'r arferion adfywio
- Cyfraniad at greu a rhannu gwybodaeth
- Cyd-destun yr arferion tir, eu hystyr, eu paramedrau a'u naratifau
- Archwilio arferion adfywio a allai ddelio â newid Dyn-ganolog
- Ymchwilio i sut mae arferion adfywio yn ymwneud â chynaliadwyedd a gwybodaeth annibynnol
- Datblygu dulliau tra chyfoes o ran arferion tir adfywiol
- Cynnig ymchwil wyddonol annibynnol i randdeiliaid i'r pwnc
- Bydd methodolegau trawsddisgyblaethol a'r dadansoddiad cymharol yn creu gwybodaeth newydd sy'n fwy na chyfanswm ei rhannau neu'i chyfranogwyr
- Llwybrau newydd i helpu i ail-lunio sut y gall gwybodaeth o arferion tir adfywio diwylliannol, daearyddol ac amrywiol y byd lywio agendâu polisi, ymarfer ac ymchwil lleol a byd-eang
- Cyhoeddi adroddiadau astudiaethau achos, canfyddiadau ymchwil, cyflwyniadau, digwyddiadau, ymgysylltu â'r cyhoedd, a chyhoeddiadau academaidd mynediad agored
- Nod effaith tymor hwy o'r astudiaeth hon yw galluogi oes Anthroposen 'adferol'.
- Dysgu trawsnewidiol ar y cyd
Mae cyfranogwyr ymchwil, sefydliadau partner ac ymchwilwyr sy'n rhan o'r astudiaeth hon yn cael y cyfle i ddysgu a chyfnewid ar y cyd. Gall y cyfleoedd trawsnewid hyn lunio mathau newydd o sgyrsiau i symud y tu hwnt i ymyleiddio neu herio arferion tir adfywiol.
Bu i raglen ymchwil ac arloesedd Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd dan gynllun grant Marie Sklodowska-Curie, roi cyllid i’r prosiect hwn, cytundeb grant rhif 101025327. Teitl y prosiect: Llwybrau tuag at oes Anthroposen 'adferol': astudiaeth gymharol o dair arfer tir sydd wedi’u hymyleiddio neu wedi'u herio, eu naratifau a'u potensial ar gyfer adfywio ar draws dimensiynau lleol/byd-eang. (REGenPLACE)
Tîm y prosiect
Principal investigator
Dr Isabel Sebastian
Marie Curie Research Fellow
Tîm
-
Professor in Environmental Policy and Planning
-
Professor of Environmental Policy and Planning
-
Lecturer