Ewch i’r prif gynnwys

Ecoleg Gwagleoedd Trefol Môr y Canoldir Ewropeaidd (EMUVE)

Photograph of research posters on display

Mae hwn yn brosiect Cymrodoriaeth Ryng-Ewropeaidd Marie Curie a ariennir gan y Comisiwn Ewropeaidd. Mae’n trin a thrafod y gwagleoedd presennol sy’n cael eu creu gan ddinasoedd sy'n crebachu ar hyd arfordir Môr y Canoldir Ewropeaidd.

Datblygwyd y dinasoedd hyn i fod yn brif gyrchfannau twristiaeth Ewrop yn ystod y 50 mlynedd diwethaf ac, mewn llawer o achosion, maent wedi trawsnewid yn dirweddau gwag. Yn aml, mae'r trawsnewidiadau hyn yn cael ei achosi neu ei waethygu gan argyfyngau economaidd parhaus.

Bydd y prosiect yn casglu sawl astudiaeth achos o ddirywiad tiriogaethol ar hyd arfordir Môr y Canoldir Ewropeaidd a achosir gan yr argyfwng economaidd presennol ac yn edrych ar achosion cymharol yn y DU i ymchwilio i ddulliau arloesol o ail-greu trefi gan ystyried safbwyntiau hyblyg, gwydn a chydweithredol. Y nod cyffredinol yw dod o hyd i strategaethau newydd ar gyfer y tirweddau ar hyd arfordir Môr y Canoldir fel y gallant adfer ar ôl yr argyfwng economaidd. Mae hyn er mwyn cynnig dewisiadau o ran datblygu i'r boblogaeth leol, gan gadw mewn cysylltiad agos â'r amgylchedd.

Rhagor o wybodaeth am Gymrodoriaeth Ryng-Ewropeaidd Marie Curie y Comisiwn Ewropeaidd.

Manylion cyswllt

Dr Federico Wulff

Dr Federico Wulff

Senior Lecturer of Architecture and Urban Design
MA AD Course Director

Email
wulfff@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 0307