Consortiwm Ymchwil Chwyldro Ynni: EnergyREV
Bydd y Consortiwm EnergyREV yn darparu tystiolaeth ar gyfer uwchraddio systemau ynni lleol clyfar sy’n mwyafu defnydd o adnoddau cynaliadwy, gan ymgysylltu â chymunedau a phobl a’u grymuso, a chyflawni symudiad teg i ddyfodol carbon-sero, ochr yn ochr ag ychwanegu at economi’r Deyrnas Unedig.
Prif amcan y Consortiwm Ymchwil Chwyldro Ynni (EnergyREV) yw cydlynu ac integreiddio gwybodaeth, timau ymchwil a chyfleusterau o’r radd flaenaf yn y Deyrnas Unedig er mwyn helpu i sicrhau llwyddiant rhaglen Cronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol - Ffynnu yn sgîl y Chwyldro Ynni (PFER). Mae EnergyREV yn cyflawni hyn trwy ddod â grŵp o ymchwilwyr o lu o wahanol ddisgyblaethau, sydd wedi’u cydlynu’n fanwl a’u rheoli’n gadarn, at ei gilydd ar draws 22 o Brifysgolion yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys mwy na 60 o academyddion. Mae Consortiwm EnergyREV wedi sicrhau £12 miliwn.
Mae’r consortiwm yn ymgymryd â rhaglen strategol o ymchwil ryngddisgyblaethol, gan ryngweithio â phob agwedd ar raglen Her PFER er mwyn sicrhau bod arbenigedd academaidd y Deyrnas Unedig yn cael effaith ac yn cael ei wella trwy ymgysylltu manwl â BEIS, diwydiant, Energy Systems Catapult a’r holl randdeiliaid allweddol. Mae’r consortiwm yn ymgysylltu’n gadarn â rhanddeiliaid a galluoedd presennol trwy bartneriaid allweddol ar bob lefel, er mwyn sicrhau arweinyddiaeth strategol, rheolaeth gref ar y Consortiwm, ac ymchwil, dadansoddi a dysgu effeithiol. Bydd y rhaglen ymchwil hyblyg, a lywiwyd gan ddadansoddiadau cynnar, yn canolbwyntio yn y cyfnodau diweddarach ar fylchau gwybodaeth, tasgau blaenoriaeth neu ganlyniadau o’r arddangoswyr a’r prosiectau dylunio PFER sy’n dod i’r amlwg ac astudiaethau achos ehangach lle mae systemau ynni lleol clyfar yn cael eu harddangos.
Themâu ymchwil
Mae chwe phrif thema ymchwil i efelychu uwchraddio systemau ynni lleol clyfar:
- Seilwaith: Addasu datblygiadau ym meysydd Deallusrwydd Artiffisial (AI), dadansoddeg data a mesurau rheoli;
- Busnes: Deall y sector busnes ynni lleol cyfredol er mwyn cyflymu arloesedd;
- Sefydliadau: Asesu polisi, rheoleiddio a marchnadoedd ar gyfer newid y sector ynni lleol;
- Defnyddwyr Ymchwilio i sut mae dewisiadau ac arferion defnyddwyr yn esblygu dros amser;
- Datblygu dealltwriaeth o systemau cyfan: Casglu a chyfuno gwybodaeth o bob agwedd ar y gadwyn werth ac integreiddio’r hyn a ddysgwyd.
- Cefnogi uwchraddio: Deall y cyfyngiadau posibl a all atal systemau ynni lleol rhag cael eu huwchraddio, ac atebion i ddatrys hynny.
Cyllid
- Mae Ysgol Pensaernïaeth Cymru wedi sicrhau £900,000 i arwain Rheoli Gwybodaeth, Ymgysylltu a Lledaenu ar draws y Consortiwm, ac i fod yn rhan o’r Pwyllgor Gweithredol a’r Pwyllgor Rheoli.
- Jo Patterson (Cyd-ymchwilydd) WITH: Dan arweiniad Prifysgol Strathclyde. 22 o Brifysgolion wedi’u hariannu trwy’r consortiwm o 50+ o ymchwilwyr
- Rhaglen Cronfa Her Ddiwydiannol EPSRC/UK - Ffynnu yn sgîl y Chwyldro Ynni (PFER) BLYNYDDOEDD: 2018‒23