Datblygu allbynnau gwell o offer efelychu thermol adeiladau i wella penderfyniadau wrth ddylunio adeiladau ynni isel (EPSRC)
Roedd yr ymchwil yn canolbwyntio ar y bwlch rhwng yr wybodaeth allbwn o offer efelychu perfformiad adeiladau (BPS) a'r hyn sydd ei angen mewn gwirionedd ar ddylunwyr adeiladau i wneud penderfyniadau dylunio gwybodus wrth ddylunio adeiladau carbon isel ynni-effeithlon.
Agwedd allweddol ar y prosiect oedd cydnabod bod dylunwyr adeiladau yn dehongli ac yn trin gwybodaeth ffiseg thermol adeiladau yn wahanol i arbenigwyr ffiseg adeiladau. Felly, roedd y gwaith yn canolbwyntio ar gynhyrchu gwybodaeth allbwn ffiseg thermol adeiladau sy'n cyd-fynd â'r ffordd mae dylunwyr yn meddwl.
Ystyriwyd mai dylunwyr adeiladau oedd prif ddefnyddwyr offer BPS a gofynnwyd iddynt gymryd rhan yn yr ymchwil drwy awgrymu pa allbynnau ffiseg adeiladau allai fod yn ddefnyddiol mewn penderfyniadau ynghylch dylunio adeiladau.
Defnyddiwyd cyfres o ddulliau rhyngddisgyblaethol, nad oedd neb wedi rhoi cynnig arnynt o'r blaen yn y maes, i gynhyrchu gwybodaeth allbwn BPS ystyrlon ar gyfer penderfyniadau dylunio: Dylunio Rhyngweithio a dulliau ymchwil Ansoddol o'r Gwyddorau Cymdeithasol (Dadansoddi Thematig a Theori Sylfaenol) ynghyd â theori Dylunio Adeiladau ac egwyddorion o fodelu thermol dynamig a Delweddu Gwybodaeth.
Prif ganfyddiadau
- Disgrifiad o broses a ddefnyddiwyd i ddatblygu fframwaith i gynhyrchu gwybodaeth ôl-brosesu efelychu thermol a systemau cynrychioli data sy'n ystyrlon ar gyfer penderfyniadau dylunio (Bleil de Souza a Tucker 2013). Yna diwygiwyd ac ehangwyd yr astudiaeth yn bapur cyfnodolyn, drwy gynnwys cyfweliadau gydag ymarferwyr a chanlyniadau arolwg ar-lein (Bleil de Souza a Tucker 2014)
- Disgrifiad embryo o strwythur, patrymau penderfynu, sy'n galluogi i ddatblygwyr meddalwedd efelychu a dylunwyr adeiladau gynhyrchu canlyniadau efelychu thermol sy’n ystyrlon ar gyfer penderfyniadau dylunio (Tucker a Bleil de Souza 2013). Hefyd diwygiwyd ac ehangwyd yr astudiaeth yn bapur cyfnodolyn, drwy gynnwys cyfweliadau gydag ymarferwyr (dan adolygiad ar hyn o bryd yn y Journal of Building Performance Simulation).
- Model data cysyniadol embryo yn cynnwys nifer o dablau penagored cydberthynol yn gysylltiedig â set briodol o godio i greu arddangosiadau i gynhyrchu, storio ac adalw gwybodaeth allbwn efelychu thermol deinamig ar gyfer penderfyniadau dylunio: Man cychwyn i strwythuro ystorfa o wybodaeth ar gyfer datblygwyr meddalwedd i wella rhyngwynebau allbwn BPS (dan adolygiad ar hyn o bryd yn y Journal of Building Performance Simulation).
- 'Maniffesto' o ddull sy'n blaenoriaethu’r defnyddiwr i'r gymuned BPS yn egluro pam y dylid ystyried mai dylunwyr adeiladau yw prif ddefnyddwyr offer BPS, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ymgynghorwyr, papur a gyflwynwyd i Fwrdd Cymdeithas Ryngwladol Efelychu Perfformiad Adeiladau (IBPSA) i fod yn rhan o bapur gwyn yr IBPSA.
Cyhoeddiadau
Mae'r cyhoeddiadau'n cynnwys:
- Bleil de Souza, C. a Tucker, S. A User-centred approach to building performance simulation: User needs and performance assessment management. International Building Performance Simulation Association (IBPSA) Newsletter. V.26 (1), Ebrill 2016.
- Bleil De Souza, C. a Tucker, S. 2015. Thermal simulation software outputs: a conceptual data model of information presentation for building design decision making. Journal of Building Performance Simulation 9(3), pp. 227-254. (10.1080/19401493.2015.1030450) – Dyfarnwyd y papur gorau o'r Journal of Building Performance Simulation yn y blynyddoedd 2014-2015
- Tucker, S. a Bleil De Souza, C. 2016. Thermal simulation outputs: exploring the concept of patterns in design decision-making. Journal of Building Performance Simulation 9(1), pp. 30-49. (10.1080/19401493.2014.991755)
- Bleil De Souza, C. a Tucker, S. 2014. Thermal simulation software outputs: a framework to produce meaningful information for design decision-making. Journal of Building Performance Simulation 8(2), pp. 57-78 (10.1080/19401493.2013.872191)
- Bleil de Souza, C. a Tucker, S. “Thermal simulation software outputs: What building designers propose?” Proceedings Building Simulation ’13, Thirteenth International IBPSA Conference, Chambery, France, Awst 2013
- Tucker, S. a Bleil de Souza, C. “Thermal simulation software outputs: Patterns for decision making” Proceedings Building Simulation ’13, Thirteenth International IBPSA Conference, Chambery, France, Awst 2013
Cysylltu
Rydym yn ymchwilio i’r amgylchedd adeiledig carbon isel, pensaernïaeth a’i chyd-destun hanesyddol a diwylliannol, ymchwil dylunio a mwy.