Prosiect a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) – Cyfnod Silff (Shelf-Life): Ailddychmygu dyfodol Llyfrgelloedd Cyhoeddus Carnegie
Ar ôl i Raglen Llyfrgelloedd Carnegie gaffael dros 2600 o adeiladau cyhoeddus ym Mhrydain ac America tua chanrif yn ôl mewn modd rheoledig ac unigryw, mae Cyfnod Silff (Shelf-Life) yn gofyn a ellid cael budd drwy feddwl yn systematig am sut i’w hadfywio ar adeg o argyfwng.
Caiff y prosiect ei arwain gan Bensaer Cadwraeth, Dr Oriel Prizeman yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, a chyd-ymchwilwyr eraill sef Chris Jones, yr Athro mewn Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol yn yr Ysgol Cyfrifiadureg, Prifysgol Caerdydd a'r Athro Alistair Black o Ysgol y Gwyddorau Llyfrgell a Gwybodaeth, Prifysgol Illinois yn Urbana-Champaign.
Fel sy’n digwydd, yn y pen draw, i ba lyfr bynnag sydd wedi’i osod ar y silff, mae'n anochel y bydd ganddo ‘gyfnod silff’ cyfyngedig os nad yw’r llyfrgelloedd dan sylw wedi’u hadnewyddu. Nid yw cwynion am fannau oer, sy'n gollwng dŵr, sy’n dywyll neu’n llwydo fel arfer yn sbarduno ymatebion creadigol, ac o’r herwydd hynny, ceir galw am adeiladau newydd i gymryd lle’r rhai cyfredol wrth i bobl ystyried eu hunain yn unigolion sy’n dioddef yn ddiangen o achos i’w hamgylcheddau. Gellir dadlau mai’r union weithred hwnnw o ddarparu gwasanaeth, megis gwasanaeth llyfrgell, yn tynnu ymaith cyfrifoldeb ac yn creu lletchwith-dra o ran perchenogaeth.
Wrth i'r cydbwysedd economaidd symud o fod yn ddibynnol ar lo i fod yn garbon ymwybodol yn yr ugeinfed ganrif, fe aeth prisiau golau o fod yn ddrutach i ratach, a phrisiau gwres i’r gwrthwyneb. Golyga’r holl newidiadau hyn y mae cannoedd lawer o adeiladau cyhoeddus a gafodd eu cynllunio’n benodol i gyrraedd targedau bras yr adeg honno wedi cael eu condemnio, gyda goleuadau to gwydr sengl llachar wedi’u gosod i fanteisio ar olau’r dydd wedi gwneud iawn am y boeleri tanwydd ffosil enfawr. Yn amlach na dim, ystyrir bod elfennau gweithredol o gynlluniau addurniadol, neu’r ffordd y gwnaeth cynlluniau o’r fath wedi ceisio gorchuddio cyfarpar megis cymalau strwythurol, gwresogyddion neu gyfarpar awyru a osodwyd i’r adeilad yn cael eu diystyru oherwydd yr anwybodaeth ynghylch sut y mae’r mecanweithiau hyn wedi’u cynllunio i’w gweithio. Gan ystyried mai elfennau safonol o gynifer o adeiladau oedd nodweddion o'r fath, mae yna botensial i wneud enillion sylweddol o ran nodi patrymau o'r fath, er mwyn hwyluso prosiectau yn y dyfodol i gyfrannu at gyfoethogi’r seiliau gwybodaeth sydd wrth wraidd y cydrannau adeiladu.
Ers y 1840au, roedd manylebau adeiladu yn pennu’r cynnydd a wnaed o’r cam ‘Strwythur’ i’r cynnyrch ‘Gorffenedig’. Cynigir y gall y llif gwaith hynafaidd hwn gael ei ddefnyddio i helaethu’r wybodaeth a gaiff ei chynhyrchu drwy dechnegau sganio arwynebau. Serch hynny, mae'r cyfnod hwnnw o’r 1880 ymlaen a nodir gan gynnydd sylweddol mewn technegau adeiladu wedi’i gofnodi’n well o lawer mewn termau technegol nag unrhyw gyfnod cyn hynny, drwy gofnodion o lenyddiaeth ar gynnyrch, gweithdrefnau wedi’u safoni, a chategorïau deunydd. Bu’r arfer o greu manylebau adeiladu a ddaeth yn sgil cyfuno arbenigedd proffesiynol tebyg i’w gilydd yn y DU a’r UDA ddarparu sylfaen ar gyfer dehongli mesuriadau o arwynebau adeiladau a hwylusir gan dechnegau sgan laser 3D. Mae mynegeion technegol, llenyddiaeth broffesiynol ac archifau llyfrgelloedd Carnegie yn y DU a'r UDA yn darparu adnoddau sylweddol a chyfoethog heb eu hail o ran eu hehangder a'u cwmpas ar adeiladau, ac felly maent yn cynnig cyfle unigryw i ddatblygu'r teclynnau hyn.
Ar ôl i Raglen Llyfrgelloedd Carnegie gaffael dros 2600 o adeiladau cyhoeddus ym Mhrydain ac America tua chanrif yn ôl mewn modd rheoledig ac unigryw, mae Cyfnod Silff (Shelf-Life) yn gofyn a ellid cael budd drwy feddwl yn systematig am sut i’w hadfywio ar adeg o argyfwng. Gan ddefnyddio a datblygu technegau newydd Modelu Gwybodaeth Adeiladau Hanesyddol (HBIM), mae’r cynnig yn ceisio datblygu llyfrgell baramedrig o gydrannau adeilad ar gyfer Llyfrgelloedd Carnegie ym Mhrydain. Byddai adnodd digidol o elfennau cyffredin yn galluogi cynigion mwy gwybodus, mwy sensitif ac economaidd ar gyfer adfer ac ailddefnyddio’r adeiladau hyn, a gosod esiampl i eraill.
Mae HBIM wedi’i gyfyngu gan argaeledd llyfrgelloedd gwrthrychau digonol gan nad oes gan adeiladau hanesyddol yn gyffredinol gydrannau na dulliau adeiladu safonol, a dim ond gwybodaeth arwynebol y gall sganiau 3D ei chipio, er eu bod yn gywir yn geometregol. Ni all sganiau 3D bennu deunyddiau gwirioneddol nac elfennau strwythurol adeiladau sy’n gorwedd y tu ôl i’r wyneb. Mae
nifer y Llyfrgelloedd Carnegie sydd wedi’u dylunio o dan weithdrefn reoledig iawn yn cynnig adnodd unigryw. Mae’r gwaith catalogio dyfnach o’r wybodaeth a’r canllawiau technegol a gynigir yma yn ceisio cymryd cam ymlaen tuag at alluogi HBIM i hwyluso sgyrsiau a dylunio gwybodus mewn perthynas â’r adeiladau hyn sy’n bodoli.
Roedd cyllid Carnegie yn hanfodol i ymgyrch y llyfrgelloedd cyhoeddus ym Mhrydain, ac mae llawer o’u nodweddion yn debyg i lyfrgelloedd eraill o’r cyfnod hefyd. Bydd yr ymchwil yn canolbwyntio ar lyfrgelloedd Prydain, ond bydd hefyd yn cyfeirio at y 2000+ o lyfrgelloedd Carnegie sydd yn UDA.
Rydym yn ymchwilio i’r amgylchedd adeiledig carbon isel, pensaernïaeth a’i chyd-destun hanesyddol a diwylliannol, ymchwil dylunio a mwy.