Adolygiad ar Sefyllfa’r Gwaddol

Trwy gydol haf 2022, ddegawd ar ôl Gemau Olympaidd Llundain yn 2012, ymunodd Prifysgol Caerdydd â thîm o nifer o brifysgol gwahanol dan arweiniad Labordy Trefol a Sefydliad Ffyniant Byd-eang Coleg Prifysgol Llundain i gynnal ymholiad am waddol y gemau i bobl ac amgylchedd Dwyrain Llundain.
Adolygiad ar Sefyllfa’r Gwaddol
I gyd-fynd â deng mlynedd ers Gemau Llundain yn 2012, cynhyrchodd y tîm o nifer o brifysgolion gwahanol Adolygiad ar Sefyllfa’r Gwaddol, sef ymchwil ar ystod eang o lenyddiaeth sydd wedi’i chreu am y Gemau a addawodd y byddai’n creu gwaddol cynhenid. Mae mwy wedi cael ei ysgrifennu am Gemau Llundain 2012 nag unrhyw rai o'r blaen. Gan archwilio meysydd megis tai, llywodraethu, cyflogaeth a pharcdiroedd, ystyriwyd beth oedd tueddiadau a negeseuon cyffredinol y corff hwn o waith, yr hyn y mae hyn yn ei ddangos am waddol digwyddiadau enfawr i'r rhai sy'n byw yn eu plith, ac i ba raddau y mae’r addewid o waddol wedi dwyn ffrwyth mewn gwirionedd.
Cynhadledd Sefyllfa’r Gwaddol
Ar 12-13 Medi, cynhaliodd Labordy Trefol Coleg Prifysgol Llundain frecwast cymunedol a chynhadledd ddeuddydd i ymholi am ddegawd o 'Adfywio Olympaidd' yn Nwyrain Llundain, gan nodi degawd ers Gemau Llundain yn 2012.
Roedd y digwyddiad hwn, mewn cydweithrediad â Sefydliad Ffyniant Byd-eang Coleg Prifysgol Llundain, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Oxford Brookes a Phrifysgol Dwyrain Llundain, yn rhad ac am ddim i'r cyhoedd, ac wedi'i leoli yn Timber Lodge a Choleg Prifysgol Llundain yn Here East ym Mharc Olympaidd y Frenhines Elizabeth.
Myfyrwyr PhD
- Dilara Yaratgan
- Lina Ahmad
- Valeska Pack
- Yunfan Zhang