Ewch i’r prif gynnwys

Dinas sy’n Gofalu

Design drawing of the Garden Room at Appleby Blue, situated between high street (left) and central courtyard (right) © WWM Architects.

Mae The Caring City: Ethics of Urban Design yn llyfr gan yr Athro Juliet Davis ac fe’i gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Bryste yn 2022.

Mae'r llyfr hwn yn ystyried sut y gall dylunio trefol feithrin gofal mewn dinasoedd, gan fynd i'r afael â’r bwlch mewn llenyddiaeth ynglŷn â rôl amgylcheddau adeiledig a dinasoedd wrth lunio arferion gofal a chydberthnasau. Er i astudiaethau blaenorol ganolbwyntio ar deipolegau o adeiladau ffurfiol sy’n gysylltiedig â gofal, mae’r gwaith hwn yn cynnwys tirlun bob dydd y ddinas yn ogystal ag arferion dylunio.

Mae'r llyfr, sydd wedi'i rannu'n wyth pennod, yn cynnwys ystod o ffyrdd o feddwl am botensial dylunio trefol ym maes gofalu. Mae’n tynnu sylw at leoedd cymunedol amrywiol - strydoedd, caffis, amgueddfeydd, mannau gwyrdd a rhandiroedd - ardaloedd sy’n allweddol ym maes gofal, yn ogystal â lleoliadau gofal ffurfiol. Mae’n ystyried y sefyllfa o safbwynt gofal mewn dinasoedd ac yn ei gymharu â gweithgarwch arall gan gynnwys byw a gweithio, a phwysigrwydd hyn mewn arferion gofal, cydraddoldeb rhywedd a chynhwysiant. Mae’n trafod sut mae defnyddioldeb y ddinas, sydd fel arfer yn cael ei ystyried yn rhywbeth sefydlog a chadarn, yn gallu cael ei gynllunio o’r cychwyn cyntaf i fod yn hyblyg wrth i anghenion gofal newid trwy gydol bywyd person. Mae'n ystyried sut y mae modd cynnig gofal drwy gynnal a chadw ardaloedd trefol sydd wedi dirywio, neu sydd wedi’u heffeithio gan wrthdaro neu ailddatblygu, a hynny gan atgyfnerthu atgofion cymunedol a chysylltiadau pobl â lleoedd. Yn olaf, ar sail astudiaethau amgylcheddol a’r argyfwng hinsawdd, mae’n ystyried sut mae pensaernïaeth a threfolaeth yn gallu cymryd gofal dros adnoddau bregus y Ddaear ac ecoleg y mae bywyd yn dibynnu arno.

Drwy gydol y gwaith, mae’n dangos sut mae dylunio’n gallu llunio arferion gofal rhwng pobl a thuag at adnoddau sy’n perthyn i bawb. Fodd bynnag, mae hefyd yn dangos sut y gall dylunio trefol weithio, a sut y gellir ei ddehongli’n ymarfer moesegol a pherthnasol.

Bu’r ymchwil i’r llyfr hwn yn bosibl diolch i gyllid gan Ystâd Grosvenor (2015–2020) a chefnogaeth gan Gymrodoriaeth Absenoldeb Ymchwil rhwng 2017-2018.

Enw Cyswllt:

Picture of Juliet Davis

Yr Athro Juliet Davis

Pennaeth Ysgol Pensaernïaeth Cymru

Telephone
+44 29208 75497
Email
DavisJP@caerdydd.ac.uk